Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn a wnaed yma heddiw. Yn amlwg, mae angen i bethau newid. Fel y dywedwyd mewn datganiadau eraill o'r blaen, mae'n ymddangos bod nifer y plant dan oruchwyliaeth awdurdodau lleol yn codi bob blwyddyn, a hoffwn i wybod beth, yn eich barn chi, yw'r rhesymau am y cynnydd hwn sy'n peri pryder. Rydych chi eisoes wedi nodi cyni a thlodi, ond mae llawer, llawer o gwestiynau eraill y mae angen eu gofyn. A yw hyn yn arwydd, er enghraifft, o ddiffyg sgiliau rhianta? A yw rhieni'n mynd yn iau ac yn methu ymdopi? Ynteu a ydym ni'n disgwyl safonau uwch gan rieni nag oeddem ni, dyweder, 15 i 20 mlynedd yn ôl? Fy nealltwriaeth i yw bod y cynnydd hwn yn amlwg yn digwydd ledled y DU ac nid yn unig yma yng Nghymru. Byddwn i'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â'r pwynt hwnnw.
Rydym ni yn y sefyllfa hon heddiw, ac o ran y plant hynny sydd eisoes yn derbyn gofal, fe fyddan nhw wedi dioddef camdriniaeth neu esgeulustod ac mae'n debyg y bydd ganddyn nhw anghenion penodol y mae angen mynd i'r afael â nhw o ran addysg, datblygiad a chymorth emosiynol. Efallai y bydd ganddyn nhw hefyd fwy o waith i'w wneud i gyrraedd yr un man â'u cyfoedion o gefndiroedd teuluol traddodiadol. Bydd angen llawer o gymorth hefyd ar unrhyw rieni maeth neu ddarpar rieni sy'n mabwysiadu i sicrhau bod y lleoliad yn llwyddiannus. A yw'r cymorth hwnnw ar gael ac a yw'n gweithio? Mae'n rhaid ei bod yn dorcalonnus i'r plentyn a'r teulu os yw'r lleoliad yn methu. A oes unrhyw ffigurau ar gael ar gyfer plant sy'n dychwelyd i leoliad gofal ar ôl eu lleoli gyda theulu?
Rwy'n cytuno'n llwyr fod yn rhaid canolbwyntio nawr ar atal ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol symud oddi wrth adweithio i atal ac ymyrryd yn gynnar. Rwy'n eich llongyfarch chi a'n gwasanaethau cymdeithasol am y newid hwn yn y dull o weithredu. Eto i gyd, bob wythnos yn y Siambr hon rydym yn clywed pa mor anodd yw hi ar ein hawdurdodau lleol, heb ddigon o gyllid na digon o adnoddau. A ydych chi'n hyderus bod gan y staff proffesiynol y gallu a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y newid hwn yn digwydd, a'r niferoedd staff, y staff cymorth a hefyd y cymorth emosiynol sy'n angenrheidiol i ymdrin â rhai materion anodd? Rwy'n poeni'n wirioneddol y gallem fod yn disgwyl gormod mewn rhy ychydig o amser ac na fyddwn ni, yn y pen draw, yn gweld y canlyniadau y mae eu hangen nhw arnom ni ar gyfer y plant dan sylw, ac mae'n rhaid canolbwyntio ar hynny.
Yn olaf, hoffwn i godi mater gorchmynion gwarchodaeth arbennig. A oes gennych chi unrhyw ffigurau ynghylch a yw'r defnydd o'r rhain yn cynyddu? A yw'r plant sy'n destun y gorchmynion hyn yn parhau i gael eu hystyried yn rhai 'sy'n derbyn gofal'? Os na, sut y cofnodir eu canlyniadau nhw? Diolch, Gweinidog.