Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 2 Gorffennaf 2019.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Yr wythnos diwethaf, ar y cyd â phawb arall ar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fe ymwelais i â'r uned troseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc. Roedd yn beth da imi gael fy atgoffa o'r angen i wella'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal, pe byddai eisiau hynny, gan fod 40 y cant o'r bobl ifanc a oedd yno wedi derbyn gofal. Felly, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi'n gryf iawn yn y Siambr hon.
Mae'n rhaid imi ddweud, er hynny, fy mod i'n anesmwyth iawn gyda'r syniad o bennu targedau neu ddisgwyliadau am leihad, neu beth bynnag y dymunwch chi eu galw nhw, yn y maes hwn, am y rhesymau y mae Helen Mary Jones newydd eu mynegi. Rwy'n credu bod yna berygl bob amser o gymhellion gwrthnysig a mesur yn unig yr hyn a gyfrifir. Roedd yr adolygiad o'r argyfwng gofal yn y DU 2018 yn nodi nad oedd unrhyw esboniad syml am y niferoedd cynyddol o blant sy'n derbyn gofal. Felly rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud fy mod i a'r pwyllgor yn bryderus hefyd ei bod yn annhebygol y ceir unrhyw ateb syml ychwaith, a dyna pam mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, at Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ac at y comisiynydd plant yn mynegi rhai pryderon ac yn holi ymhellach ynglŷn â'r mater hwn.
Mae gennyf i rai cwestiynau penodol yr hoffwn i eu gofyn i chi. Y cyntaf yw holi am adroddiad thematig Arolygiaeth Gofal Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal, na ddaeth o hyd i dystiolaeth fod plant sy'n cael eu derbyn mewn gofal na ddylen nhw fod mewn gofal. Felly, byddai'n ddiddorol cael gwybod pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i'r gwaith hwnnw wrth fwrw ymlaen â hyn. Mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu atoch chi, fel y dywedais i, ac nid wyf am ofyn y cwestiynau a oedd yn y llythyr i gyd, oherwydd rydym am aros am ymateb ysgrifenedig gan y Prif Weinidog. Ond rwyf i am ofyn eto pwy yn union sy'n gyfrifol am asesu risg y targedau hyn. Mae'r cyfrifoldeb yn cael ei roi ar awdurdodau lleol, sydd â'r ddyletswydd statudol hefyd o gadw plant yn ddiogel, ac nid wyf i o'r farn fod yna unrhyw bennaeth gwasanaethau plant yn y wlad sy'n codi yn y bore ac yn meddwl, 'Gadewch inni dderbyn mwy o blant mewn gofal.' Felly, hoffwn ofyn i chi, yn benodol, am hynny a'r hyn fydd swyddogaeth Llywodraeth Cymru wrth fonitro'r targedau hynny neu beth bynnag y byddan nhw'n cael eu galw.
Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych wedi ei ddweud am gyd-gynhyrchu, er mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, o'r hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn, nid yw'r gweithredu yn y maes hwn yn awgrymu unrhyw gyd-gynhyrchu yng ngweithrediadau rhai o'r awdurdodau, ac mae hynny'n bryder ac yn rhywbeth y byddwn i'n dymuno mynd ar ei ôl. Roeddech chi'n cyfeirio at y ffaith bod hwn yn un o brif ymrwymiadau'r Prif Weinidog. Hoffwn i ofyn a oes asesiad o'r effaith ar hawliau plant wedi cael ei wneud ynglŷn â'r ymrwymiad hwn, ac os felly, a gaiff hwnnw ei gyhoeddi?
Ac yn olaf, o ran y lleoliadau y tu allan i'r sir, y tu allan i'r wlad, unwaith eto, nid oes neb yn dymuno gweld plant yn cael eu lleoli ymhell oddi wrth eu cynefin a'u cydnabod. Ond cyn belled ag yr wyf i'n deall y sefyllfa, nid oes gennym ni'r lleoliadau amgen ar gyfer rhai o'r plant hyn. Nid oes gennym ddigon o leoliadau diogel, nid oes gennym ddigon o gymorth diogelwch isel, neu ddigon o gefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol. Ac ni all hyn fod yn fater i awdurdodau lleol yn unig; mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth arwain arno, oherwydd ni allan nhw gynllunio ar gyfer hynny ar eu liwt eu hunain. Felly, hoffwn i wybod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Holwyd y Gweinidog iechyd ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf yn y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y lleoliadau hynny ar gael, i osgoi gorfod anfon plant mor bell o'u cynefin? Diolch.