Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Buaswn yn hapus i edrych arno, ond nid mater o ewyllys ydyw. Mae bob amser yn ymwneud â sut y defnyddiwn yr adnoddau sydd gennym. Ac nid ag arian yn unig y mae'n ymwneud, ond â phobl—. Ac fe fyddwn yn cael dadl yn nes ymlaen heddiw am fesurau gofal llygaid, a’r penderfyniad sydd gennym fel Llywodraeth, ynghyd â’r gwasanaeth iechyd, i atal llawer o bobl rhag colli eu golwg, a chael mesurau sy’n hybu’r gweithgaredd hwnnw, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â cholli golwg cyn iddo ddigwydd mewn gwirionedd.