Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Weinidog, am £2,000, gallwch fynd i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr—a oedd yn un o ysbytai'r GIG y tro diwethaf i mi edrych—a gallwch dalu £2,000 i lawfeddyg GIG roi'r driniaeth i chi yn ei amser sbâr sy'n achub eich golwg yn eich llygad. Ni allaf weld sut y mae hynny'n ymwneud â chapasiti; rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ewyllys. A wnewch chi addo edrych ar y broses hon? Mae'n cael ei galw'n groesgysylltu: i'r rhai nad ydynt yn gwybod, mae eich cornbilen, yn hytrach na'i fod yn gromlin esmwyth fel y blaned, yn ymdebygu i gadwyn o fynyddoedd. Mae golau LED yn helpu i'w wastadu—weithiau mae'n dod yn ôl ond nid bob amser. Ond mawredd, os gallwch achub eich golwg am chwe mis, blwyddyn, neu ddwy flynedd arall am £2,000, ni allaf ddeall pam nad ydym yn ei wneud. A wnewch chi edrych ar hyn os gwelwch yn dda?