Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:35, 3 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Yn wir, fe wnaethoch, Weinidog, ac rwy'n disgwyl y byddwch yn parhau i fod angen ymateb i’r cwestiynau hynny hyd nes y cawn atebion y mae ein hetholwyr yn gwbl fodlon â hwy.

Rydych chi'n gwybod pa mor ddinistriol, rwy'n gwybod—nid oes angen i mi ddweud wrthych pa mor ddinistriol y gall ôl-effeithiau strôc fod. Rydych chi hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw hi i’r llwybr cyfan, o’r alwad argyfwng i’r driniaeth ei hun, gael ei wneud mewn modd amserol. Mae yna gostau i hynny, ond mae yna arbedion costau enfawr posibl hefyd, oherwydd os rhoddir triniaeth yn ddigon cyflym, rydym yn mynd i weld cleifion yn gwella’n llawn, lle gallent fod yn ddibynnol yn barhaol ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol fel arall.

Nawr mae’r Gymdeithas Strôc wedi galw arnoch i osod targedau o amser yr alwad argyfwng i ddarparu'r driniaeth. Mae hynny'n cael ei wneud mewn mannau eraill. Rwy'n falch iawn o’ch clywed yn dweud, ac rwy'n gwybod ei fod yn wir, fod Llywodraethau eraill yn dysgu o rai o’r pethau da yr ydym yn eu gwneud yma yng Nghymru ym maes gofal iechyd. A yw hon yn enghraifft o rywbeth y gallech fod angen ei ddysgu o rywle arall? Rydych yn barod i osod set o dargedau rhwymol ar gyfer rhai agweddau ar wasanaethau, sy'n gwbl gywir. A wnewch chi ailystyried eich penderfyniad i beidio â gosod targed rhwymol ar hyn o bryd ar gyfer yr amser triniaeth, o’r alwad argyfwng i ddarparu'r driniaeth, ar gyfer cleifion sy’n dioddef strôc?