Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Rwy'n deall yr alwad a wnaed gan y Gymdeithas Strôc; rwy'n deall y rheswm pam y gwnaethant yr alwad. Ond unwaith eto, rydym newydd gael adolygiad dan arweiniad clinigol o'r categori oren ac fe wnaeth ystyried hyn. Mae'r Gymdeithas Strôc yn rhan o'r gwaith a wneir i symud ymlaen ar hynny. Ac unwaith eto, os yw'r dystiolaeth yn newid, yna rwy'n fwy na pharod i edrych eto ar y dystiolaeth honno i weld ai dyna’r penderfyniad cywir o hyd. Ond ar hyn o bryd, byddai’n anonest i mi ddweud fy mod yn mynd i edrych eto ar adolygiad diweddar a gynhaliwyd, a minnau wedi adrodd i’r Siambr yn yr ychydig fisoedd diwethaf ar y gwaith a amlinellais eisoes. Nid yw hynny'n golygu ei fod hwnnw'n benderfyniad a fydd yn aros am byth; mae'n golygu, ar hyn o bryd, nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi’r alwad a wnaed gan y Gymdeithas Strôc. Ond dylem bob amser fod yn barod i ddysgu a chydnabod yr angen, pan fo’r dystiolaeth yn newid, i newid penderfyniadau er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn darparu'r gwasanaeth iawn i bobl ledled y wlad.