2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 3 Gorffennaf 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion diweddar i ategu gofal sylfaenol gyda chymorth gan fferyllfeydd? OAQ54167
Mae gan fferylliaeth gymunedol rôl bwysig i'w chwarae'n darparu gofal sylfaenol yng Nghymru heddiw. Mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud drwy drefniadau cytundebol newydd sy'n cefnogi'r gwaith o gydweithredu, gwella ansawdd a darparu gwasanaethau clinigol. Mae Dewis Fferyllfa bellach ar gael mewn 98 y cant o fferyllfeydd ledled Cymru ac rwyf wedi darparu dros £4.5 miliwn eleni i wella hyfforddiant yn y proffesiwn.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n gadarn o blaid polisi Llywodraeth Cymru o ddefnyddio mwy ar fferyllwyr i ategu gofal sylfaenol, ond rwyf wedi clywed am ddau achos, yn Nwyfor Meirionydd yn fy rhanbarth, lle roedd cleifion wedi gadael adolygiad o'r defnydd o feddyginiaethau gyda'r fferyllydd o dan y gred gyfeiliornus fod disgwyl iddynt addasu eu meddyginiaeth. Nid oedd ffynhonnell y dryswch yn hollol glir yma, ac fe gafodd ei gywiro gan eu meddyg teulu yn ddiweddarach, felly ni wnaed unrhyw niwed mewn gwirionedd. Ond mae'n ymddangos y gallai fod problem systemig yma lle mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd gael cofnod fod yr adolygiad o'r defnydd o feddyginiaethau wedi digwydd, a rhaid i'r claf arwyddo hwnnw, ond yn yr achosion hyn, nid oedd unrhyw gofnod ysgrifenedig, naill ai'n electronig neu ar bapur, a oedd yn rhoi manylion y cyngor neu'r argymhellion a roddwyd yn yr adolygiad. Mae'r risg diogelwch posibl i glaf sydd â phroblemau gyda'r cof neu ddealltwriaeth yn amlwg, felly tybed beth y gellid ei wneud i gyflwyno archwiliad rheoleiddiol mwy trylwyr ar gyfer adolygiadau o'r defnydd o feddyginiaethau a gynhelir gan fferyllwyr i geisio lleihau'r problemau hyn hyd y gellir.
Mae risg bob amser wrth ryngweithio â'r proffesiwn gofal iechyd, lle rhoddir cyngor, ac mae naill ai wedi'i ysgrifennu neu heb ei ysgrifennu o ran sut y mae'r person yn gallu neu'n dewis defnyddio'r wybodaeth honno a'r cyngor hwnnw. Rhan o bwrpas cyflwyno Dewis Fferyllfa yw ei fod yn caniatáu i fferyllwyr eu hunain, fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a reoleiddir, wneud cofnodion ar gofnod y meddyg teulu. Gwelwn hynny eisoes gyda'r gwasanaeth mân anhwylderau sydd wedi cael ei gyflwyno. Mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn clywed mwy o enghreifftiau penodol o'r hyn sydd wedi digwydd, os yw'n arfer unigol neu os yw'n dweud rhywbeth wrthym ar lefel system. Felly, os yw'r Aelod eisiau ysgrifennu ataf gyda manylion y digwyddiad, gallaf ystyried hynny gyda swyddogion a chyda'r bwrdd iechyd, boed yn broblem unigol i'w datrys neu'n broblem y mae angen i ni roi sylw iddi ar lefel system.
Weinidog, roeddwn yn falch o ymweld â fferyllfa gymunedol yn fy etholaeth yn gynharach yr wythnos hon, a chefais sgwrs gadarnhaol iawn gyda'r fferyllydd am y gwasanaethau y mae'n eu cynnig ac yn wir, am rai o'r heriau y mae'n eu hwynebu hefyd. Un o'r materion a gododd oedd system gyfrifiadurol y GIG, a ddefnyddir i storio gwybodaeth am gleifion. Mae'n teimlo ei fod yn cael ei lesteirio'n fawr gan y broses hirwyntog o fewngofnodi i system gyfrifiadurol sy'n ymddangos fel pe bai'n cael trafferth i lawrlwytho gwybodaeth sylfaenol. Er bod yn rhaid cadw data personol yn ddiogel, wrth gwrs, dywedir wrthyf y gall gymryd hyd at 20 munud mewn gwirionedd i fynd drwy'r drefn ddiogelwch ar gyfer mewngofnodi er mwyn darparu gwasanaeth i'r claf a ddylai gymryd oddeutu pum munud yn unig. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig cael gafael ar wybodaeth mewn modd amserol, yn enwedig pan fo claf yn aros. A wnaiff ef a'i swyddogion edrych ar y mater hwn felly, i sicrhau bod fferyllfeydd yn gallu darparu gwasanaeth effeithlon, o gofio bod fferyllfeydd yn darparu mwy a mwy o wasanaethau i gleifion?
Ie, unwaith eto, os gall yr Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion y broblem, gallaf edrych i weld a yw'n broblem unigol neu'n broblem ar lefel system gyfan i ni fynd i'r afael â hi. Ond yn gyffredinol, mae gennym raglen uchelgeisiol eisoes ar gyfer fferylliaeth gymunedol fel rhan o'r tîm gofal sylfaenol fel ag y mae, a rôl fwy i'w chwarae yn y dyfodol—nid y system anhwylderau cyffredin yn unig, ond hefyd pam ein bod yn mabwysiadu dull sy'n wahanol i wledydd eraill yn y DU. Dros y ffin, mae gostyngiad ariannol o 7 y cant mewn fferylliaeth gymunedol; mae dros 120 o fferyllfeydd cymunedol wedi cau. Rydym wedi cynnal ein buddsoddiad, rydym wedi ei gynyddu, mae gennym fwy o uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn mynd ati'n fwriadol i gyflwyno mynediad at systemau meddygon teulu i sicrhau bod fferyllwyr yn gallu mewnbynnu gwybodaeth arnynt, ac mae Dewis Fferyllfa wedi cael ei gynllunio i'n helpu i ddarparu hynny: mynediad at wybodaeth fel ei bod ar gael, a bydd hynny wedyn yn ein galluogi i ddarparu mwy fyth o wasanaethau yn y sector fferylliaeth gymunedol.