5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Rheoli'r Gwasanaeth Iechyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 3 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:18, 3 Gorffennaf 2019

Gaf i longyfarch Helen Mary Jones am ei harweiniad? Rwy'n cefnogi ei bwriad yn llawn. Does yna ddim dwywaith bod systemau yn y gwasanaeth iechyd dan straen anferthol—dim digon o staff, dim digon o adnoddau, dim digon o welyau, a nyrsys a meddygon yn cael eu hymestyn i'r eithaf i ddarparu gwasanaeth derbyniol rhan fwyaf o'r amser, gwasanaeth bendigedig yn aml, ond weithiau mae safon y gwasanaeth yn cwympo'n fyr o'r nod ac mae camgymeriadau yn digwydd, yn anorfod bron, mewn system dan y fath straen.

Mae yna gwpwl o bwyntiau i'w gwneud. Mae dyletswydd gonestrwydd yn her pan fo cyfreithwyr yn dod yn rhan o'r broses, ac mae hyd yn oed ymddiheuro yn y fath amgylchiadau yn gallu cael ei ddehongli fel cyfaddefiad o fai, a gonestrwydd y nyrs neu feddyg yn eu cyfeirio at lys barn. Pan fo nyrs neu feddyg yn penderfynu codi llais i amlygu rhyw wendid yn y system, dylen nhw gael eu gwarchod go iawn. Yn aml, fel rhywun sy'n chwythu'r chwiban, byddant yn cael eu herlid gan reolwyr a wynebu beirniadaeth eu cydweithwyr a gweld cael eu halltudio o'r gwaith neu eu gyrfa yn darfod am godi pryderon. Bu'r arbenigwr wnaeth chwythu'r chwiban ar farwolaethau babanod o dan lawdriniaeth y galon ym Mryste dros 20 mlynedd yn ôl—yn y pen draw, roedd rhaid i'r arbenigwr yna orfod symud i Awstralia er mwyn cael swydd a pharhau efo'i yrfa ddisglair. Dim ond am chwythu'r chwiban.

A'r ail bwynt: mae angen cydnabod methiannau yn y system sydd yn gallu esgor ar gamgymeriadau unigol pan mae meddygon a nyrsys yn gorfod gwneud mwy nag un peth hanfodol bwysig ar yr un amser oherwydd pwysau gwaith—ddim yn wastadol erlid y nyrs neu'r meddyg, ond edrych ar gyfrifoldebau rheolwyr hefyd, fel mae Helen Mary wedi crybwyll, achos mae gan bawb ran yn y cyfrifoldeb. Dylai pawb—nyrsys, meddygon, rheolwyr—gael eu trin yr un peth, yn gofrestredig gan eu cyrff proffesiynol ac yn gallu wynebu cael eu taflu allan o'r proffesiwn a mynd i lys barn i wynebu cyhuddiadau difrifol iawn. Dyna beth sy'n wynebu pob nyrs a phob meddyg nawr; dyna beth yw cyfrifoldeb dros gleifion go iawn. Dylai'r rheolwyr wynebu'r un peth.

Yn y pen draw, mae angen system iawndal di-fai—no-fault compensation—arnom fel gwlad pan mae pethau yn mynd o'u lle neu ryw anffawd annisgwyl yn digwydd i'r claf. Mae hyn yn digwydd mewn sawl gwlad arall, achos nid oes rhaid i'r claf gael gafael â chyfreithiwr drudfawr, nid oes angen llys, nid oes angen profi bai, achos weithiau anffawd pur yw e—does neb ar fai. Mae taliad iawndal di-fai yn cymryd y costau cyfreithiol i ffwrdd, a'r iawndal i gyd yn haeddiannol i'r claf. Cefnogwch y cynnig.