Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Credaf fod Cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, wedi crynhoi barn y pwyllgor yn berffaith ar rai o'r materion allweddol a godwyd gennym, ac roedd cryn fanylder ynghylch y materion y teimlem eu bod yn berthnasol i hyn. Felly, nid af yn ôl dros y pethau hynny, ond yn hytrach, rwyf am grybwyll rhai argymhellion. Ond fel plentyn yr 1980au, buaswn yn dweud bod yn rhaid bod 'Bacc to the Future' yn un o'r adroddiadau pwyllgor gorau a gawsom erioed. [Chwerthin.]
Mae'r Gweinidog yn nodi yn ei chyflwyniad i'w hymateb i'r adroddiad fod cynnwys y fanyleb yn cynnig dewis o fodelau cyflwyno i ysgolion, felly gellir mynd ati i ymdrin â gofynion y cwricwlwm mewn ffordd greadigol. Dyna mae hi'n ei ddweud, ac rwy'n credu bod hynny'n gweddu'n fawr i ddull y cwricwlwm newydd o weithredu a datblygiad y cwricwlwm newydd a'r modd y caiff hwnnw ei weithredu hefyd, felly mae yna elfen gyfatebol yn hynny o beth. Ac rwy'n credu bod Suzy Davies wedi crybwyll hynny yn rhai o'r pethau a ddywedodd am y ffordd y mae'n datblygu.
Ond mae hynny hefyd yn codi'r cwestiwn—. Nid wyf am adleisio gormod o'r hyn a ddywedodd Suzy, ond i ba raddau yr ydym yn cydbwyso annibyniaeth ysgolion, colegau a darlithwyr unigol yn erbyn yr angen am gysondeb yn y cymhwyster drwyddo draw? Mae honno'n her amlwg y gall y gwahanol ddulliau gweithredu hefyd arwain at ddiffyg cysondeb yn y dulliau o gyflwyno bagloriaeth Cymru, ac felly gall arwain at danseilio'r ddarpariaeth. Mae argymhellion 8 a 10 yn cyffwrdd â hynny, yn yr ystyr eu bod yn galw am—ac mae'r Llywodraeth wedi derbyn hyn—gwerthuso parhaus a dysgu am effaith bagloriaeth Cymru ar ddiwygiadau addysg eraill a'r newid ehangach sy'n digwydd i'r cwricwlwm ar hyn o bryd. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi trafod y profiadau y mae ysgolion wedi'u cael gyda'r materion ehangach hynny gyda hi. Mae'n galonogol fod y Gweinidog wedi derbyn y ddau argymhelliad hwnnw, sef argymhellion 8 a 10.
Cefais gyfarfod gyda ColegauCymru yn ystod yr ymchwiliad ac ar ôl hynny i drafod rhai o'r pryderon a allai fod ganddynt a fyddai'n cael eu codi yn yr adroddiad ond hefyd yn fwy cyffredinol. Nodwyd argymhelliad 7 ganddynt ynglŷn â'r pryderon ynghylch iechyd meddwl a lles dysgwyr. Dywedodd ColegauCymru hefyd eu bod yn ymwybodol o ddysgwyr sydd o bosibl yn cael trafferth ymdopi â gofynion bagloriaeth Cymru, eu prif gymwysterau dewisol, yn ogystal ag ailsefyll Saesneg, Cymraeg neu fathemateg TGAU yn arbennig. Ac mae'n llawer i'w wneud a gallai gael effaith niweidiol ar les y dysgwyr yn ogystal â'u gallu i gyflawni'r fagloriaeth Gymreig uwch yn hytrach na'r dystysgrif her sgiliau, ac mae'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw ac yn cyfeirio at y cyd-grŵp gorchwyl a gorffen Gweinidogol, a chredaf mai hwn yw'r un y mae Cadeirydd y pwyllgor yn aelod ohono. Credaf y byddai'n ddefnyddiol cael ychydig mwy o fanylion ynglŷn â beth yn union sy'n cael ei wneud mewn perthynas â bagloriaeth Cymru drwy'r pwyllgor hwnnw.
Ac yn olaf, soniodd ColegauCymru hefyd am y newidiadau i'r ffordd y caiff bagloriaeth Cymru ei hariannu yn y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad yw colegau addysg bellach yn cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster, dywedasant y byddant yn colli cannoedd o bunnoedd y dysgwr, er nad yw'r sefyllfa hon yn berthnasol i ysgolion. Dyma a ddywedasant wrthyf. Ac yn y pen draw, mae cyllid yn ysgogi ymddygiad mewn perthynas â dewisiadau, felly gallech weld gwahaniaeth rhwng ymagwedd addysg bellach ac ysgolion tuag at fagloriaeth Cymru. Nid oedd yr adroddiad yn ymdrin â'r mater yn uniongyrchol, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol cael ymateb gan y Gweinidog ar hynny hefyd.