1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau arfaethedig i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54225
Gwnaf, wrth gwrs. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwella ac yn cynyddu gwasanaethau rheilffyrdd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan gynnwys, rwy'n falch o ddweud, Lywydd, cyflwyno trenau newydd sbon yn 2022, sydd â mwy o gapasiti, system aerdymheru a socedi trydan.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb, yn enwedig o ran capasiti. Codwyd problem gorlenwi ar y rheilffyrdd gyda'r Prif Weinidog yn y lle hwn ddoe. Yn anffodus, nid un achos o'r broblem a welwyd. Mae etholwyr o bob rhan o ranbarth y canolbarth a'r gorllewin wedi bod yn cysylltu â mi i nodi pryderon gwirioneddol am y rheilffordd sy'n rhedeg ar draws canolbarth Cymru i'r Amwythig yn fwyaf arbennig. Ymhlith yr enghreifftiau roedd achosion o oedi'n amrywio o 30 munud i awr fel mater o drefn ynghyd â diffyg cynyddol o gerbydau a seddi ar y trenau hynny—dywedodd un etholwr ei fod wedi cyfrif 26 o bobl yn sefyll mewn un cerbyd—ac yn amlwg, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi nad yw hyn yn dderbyniol ac mae'n anffodus mai dyma'r un mathau o gwynion a glywsom o dan y fasnachfraint flaenorol. Fis Gorffennaf diwethaf, rhoddodd y Gweinidog fanylion i ni am y cytundeb masnachfraint newydd sy'n mynnu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael ei chosbi os bydd teithwyr yn cael eu gorfodi i sefyll am fwy nag 20 munud. A allai'r Gweinidog dawelu meddyliau fy etholwyr y bydd yr ymrwymiad hwnnw i leihau'r nifer sy'n gorfod sefyll ar drenau yn cael ei anrhydeddu ac a allai roi rhyw fath o syniad i ni o'r amserlen ar gyfer y capasiti ychwanegol y soniodd wrthyf amdano yn ei ateb gwreiddiol?
Wrth gwrs. Mae gennyf wybodaeth gynhwysfawr o fy mlaen ar ddarparu trenau newydd a gwasanaethau gwell. Yn ogystal â hynny, rwyf wedi sefydlu cyfle i Aelodau gael eu briffio ar y datblygiadau ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r Gororau yr wythnos nesaf a bydd canolfan galw heibio'n agored rhwng 10 a.m. a 2 p.m. Credaf ei bod yn werth datgan bod pwysau ar gapasiti yn rhywbeth sy'n dal i effeithio ar y fasnachfraint reilffyrdd oherwydd ein bod wedi etifeddu rhywbeth a ddyluniwyd ar sail dim twf ond a dyfodd yn sylweddol, mewn gwirionedd, o tua 19 miliwn o deithwyr i 27 miliwn o deithwyr pan ddaeth y fasnachfraint i ben y llynedd, ond rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwerth £800 miliwn o drenau dros gyfnod y fasnachfraint hon. Rydym eisoes wedi cyflwyno'r system ad-dalu prisiau teithio os yw teithwyr yn wynebu oedi o 15 munud neu fwy; rydym wedi cyflwyno 3,000 o docynnau ymlaen llaw newydd; rydym wedi lansio'r gwasanaeth newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl ar hyd llinell tro Halton; mae trenau dosbarth 153 ychwanegol wedi cael eu cyflwyno i'r fasnachfraint; mae prosiectau gweledigaeth rheilffyrdd cymunedol newydd wedi cael eu datblygu a'u lansio; bellach mae gennym wasanaeth dosbarth 37 sy'n gweithredu ar reilffordd Rhymni; a bydd gwaith ar orsaf Ffynnon Taf yn dechrau'r mis hwn.
Yn ystod y misoedd nesaf, rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Aelod y bydd trenau marc 4 yn cymryd lle trenau Pacer a threnau marc 3. Ym mis Medi, bydd ceisiadau'n agor ar gyfer y cardiau teithio rhatach arddull newydd ar gyfer deiliaid cardiau cyfredol. Ym mis Medi eleni eto, byddwn yn lansio gweledigaeth gwella gorsafoedd. Bydd partneriaethau rheilffordd cymunedol newydd yn cael eu sefydlu yn yr un mis. Byddant yn ymwneud â llinell Treherbert, Aberdâr a Merthyr yn ogystal â'r llinell rhwng Caerdydd a Rhymni.
Byddwn yn gweld newidiadau i'r amserlen ym mis Rhagfyr eleni a fydd yn darparu pedwar trên yr awr rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ac ar ddydd Sul, bydd dros 200 yn fwy o wasanaethau'n rhedeg ledled Cymru. Yn y flwyddyn newydd, ym mis Ionawr, bydd y fenter tocynnau i bobl ifanc yn dechrau, gyda theithio am ddim i blant dan bump oed yn cael ei ymestyn i bobl ifanc dan 11, a bydd teithio am ddim i bobl ifanc dan 16 oed ar adegau tawel pan fyddant yng nghwmni oedolyn.
Erbyn canol y flwyddyn nesaf, rwy'n falch o hysbysu'r Aelodau y bydd gorsaf newydd Bow Street wedi agor a bydd Trafnidiaeth Cymru wedi symud eu pencadlys i Bontypridd erbyn mis Medi y flwyddyn nesaf. Mae cyffro mawr a llawer iawn o waith yn digwydd ar hyd a lled Cymru ac ardal y gororau ar hyn o bryd. Mae trenau newydd a fydd yn gweithredu ar y rheilffyrdd yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd ar hyn o bryd gan gwmni CAF, a ddenwyd yma o Sbaen, ond gallaf sicrhau'r Aelodau, os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth bellach neu ofyn unrhyw gwestiynau pellach, gwnewch hynny yn y sesiwn galw heibio ddydd Mercher nesaf rhwng 10 a.m. a 2 p.m.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un ffordd o wella gwasanaethau rheilffordd i bobl sy'n byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yw lleihau amseroedd teithio. Nawr, byddai parcffordd arfaethedig gorllewin Cymru i'r gogledd o Abertawe yn sicrhau bod amser teithio hyd at 15 munud yn llai bob ffordd i gymudwyr sy'n teithio o fy etholaeth i Gaerdydd drwy gael gwared ar yr angen i deithio drwy ganol Abertawe. Gallai annog newid moddol o'r car i'r trên hefyd a byddai hynny, yn ei dro, yn helpu i leihau tagfeydd ar ffyrdd allweddol yn y rhanbarth yn ogystal. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y prosiect arfaethedig hwn, a pha drafodaethau rydych yn eu cael fel Llywodraeth mewn perthynas â'r cynllun arfaethedig hwn?
Rwyf wedi trafod y cynllun penodol hwn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru dros yr wythnosau diwethaf. Rydym yn cefnogi'r cynnig mewn egwyddor, ar yr amod y gallwn gael sicrwydd mewn perthynas ag arian ychwanegol hefyd, nid yn unig i gyflwyno trenau ar y rheilffyrdd, ond hefyd i sicrhau bod y trenau hynny'n gallu gweithredu. Byddwn angen cynnydd yn y cymhorthdal gan yr Adran Drafnidiaeth neu, yn wir, gan Drysorlys y Deyrnas Unedig.
Rwy'n credu bod yna botensial hefyd, os gellir dileu gwrthwynebiadau, i weithredwr mynediad agored, fel Grand Union Trains, ddefnyddio'r orsaf barcffordd benodol honno, os caiff ei datblygu, i weithredu gwasanaethau cyflym rhwng Abertawe a Llundain. Ond wrth gwrs, mae adolygiad Keith Williams yn fater arall, a buaswn yn ailddatgan safbwynt Llywodraeth Cymru ar yr adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd, sef adolygiad ar ddatganoli pwerau dros y seilwaith rheilffyrdd, a chyllid ar gyfer gwneud hynny wrth gwrs.