– Senedd Cymru am 6:59 pm ar 10 Gorffennaf 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda?
Symudwn yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Jayne Bryant i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis—Jayne.
'Achubodd Fforwm Gofalwyr Casnewydd fy mywyd. Mae fel cael ail deulu i fy nghefnogi.' Dyma eiriau Chris Kemp-Philp, un o fy etholwyr. Maent yn dangos pa mor hanfodol yw darparu cymorth i ofalwyr a'r hyn y mae'r cymorth hwnnw'n ei olygu. Rwy'n falch iawn o weld Chris, Janet Morgan ac wynebau cyfarwydd eraill o'r fforwm yn yr oriel gyhoeddus heno. Ffurfiwyd Fforwm Gofalwyr Casnewydd gan Janet yn 2010 ac mae'n rhoi cyfle i ofalwyr siarad ag eraill sy'n deall beth y maent yn mynd drwyddo. Gwn eich bod i gyd yn cyflawni eich rolau gofalu gyda'r fath ymroddiad a gostyngeiddrwydd a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddweud 'diolch yn fawr'—diolch nid yn unig i'r rhai ohonoch sydd yma heddiw ond i'r holl ofalwyr a'r rhai sy'n eu cefnogi ym mhob rhan o Gymru. Mae eich cyfraniad i'n cymdeithas yn cael ei anghofio'n aml, ac mae cynifer o straeon yn mynd heb eu hadrodd. Rhaid i hyn newid.
Mae cynyddu ymwybyddiaeth yn hollbwysig, ac roedd yn bleser cynnal digwyddiad yn ddiweddar yn y Senedd i nodi Wythnos y Gofalwyr. Mae bob amser yn bwysig dathlu a chanolbwyntio ein meddyliau yn ystod Wythnos y Gofalwyr, ond gwyddom fod bod yn ofalwr i lawer yn swyddogaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Mae'r digwyddiad hwnnw, fel y ddadl fer hon, yn fodd o daflu goleuni ar weithlu cudd di-dâl, ac yn ffordd o dynnu sylw at fater yma yn y Senedd sy'n effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru. Ar un adeg yn ein bywydau mae pob un ohonom yn debygol naill ai o fod yn derbyn gofal neu' n ofalwyr ein hunain. Gyda phoblogaeth sy'n heneiddio yn byw'n hwy, a llawer ohonynt ag anghenion cymhleth, mae'n hanfodol sicrhau bod gennym weithlu proffesiynol yn barod ar gyfer y presennol a'r dyfodol, ac eto gwyddom hefyd fod lefelau recriwtio a chadw staff yn y sector hwn yn argyfyngus. Er y bydd gweithlu gofal cyflogedig yn hanfodol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, byddwn bob amser fel cymdeithas yn dibynnu ar ofalwyr di-dâl sydd fel arfer yn aelod o'r teulu, yn rhywun annwyl neu'n ffrind.
Mae gofalwyr yn cadw teuluoedd gyda'i gilydd, yn sicrhau y gellir gofalu am bobl yn eu cartrefi, gan arbed ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maent yn sail i'n gwasanaeth iechyd gwladol a'n system gofal cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth na allem wneud hebddynt. Ystyriwyd bod rolau gofalu yng Nghymru yn werth £8.1 biliwn, ond yn anffodus mae 72 y cant o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi. Mae hyn yn hynod o anghytbwys. Mae gofalu'n arbed tua phedair gwaith y swm a werir ar bob ffurf ar ofal cymdeithasol i economi Cymru, a daw ar gost bersonol i'r gofalwyr. Fel cymdeithas, mae angen inni gydnabod yr effaith y mae gofalu'n ei chael ar iechyd rhywun a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol a phwysigrwydd seibiant. Rhaid inni gydnabod yr arbenigedd unigryw sydd gan ofalwyr a pha mor werthfawr ydynt i'n cymuned a'n cymdeithas.
Gall yr effaith y gall gofalu ei chael ar iechyd corfforol a meddyliol fod yn ddinistriol ac yn barhaol. Canfu'r arolwg a gynhaliwyd y llynedd fod 40 y cant o ofalwyr yn dweud nad oeddent wedi cael diwrnod i ffwrdd ers dros flwyddyn. Mae angen seibiannau rheolaidd ar ofalwyr er mwyn diogelu eu hiechyd a'u lles eu hunain, gan eu galluogi i barhau i ofalu a'u galluogi i fyw bywyd ochr yn ochr â'u cyfrifoldebau gofalu. Fel y dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ni ddylid ystyried seibiant fel
'seibiant rhag baich gofalu '
—nid dim ond hynny. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi a gofalu am ein gofalwyr. Gall gofalu effeithio'n andwyol ar ansawdd bywyd, yn enwedig gofalwyr hŷn. Mae cyflyrau fel arthritis, pwysedd gwaed uchel a phroblemau cefn yn gyffredin ymysg gofalwyr hŷn ac os cânt eu gadael heb y cymorth cywir, gall y broses gorfforol o ofalu waethygu hyn ymhellach fyth. Gall gofalwyr deimlo lludded meddyliol, sy'n aml yn gwaethygu o ganlyniad i bryder, gorbryder a diffyg cwsg a achosir gan heriau gofalu. Mae gan oddeutu 65 y cant o ofalwyr hŷn, rhai rhwng 60 a 94 oed, broblem iechyd hirdymor neu anabledd eu hunain. Dywed 68 y cant o ofalwyr fod bod yn ofalwr wedi cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl, gyda thraean yn dweud eu bod wedi canslo triniaeth neu lawdriniaeth iddynt eu hunain oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu.
Bydd llawer yn rhoi eu holl egni i gefnogi rhywun annwyl, ond ni ddylid rhoi neb mewn sefyllfa lle maent yn aberthu eu hiechyd eu hunain. Ac os yw iechyd gofalwr yn methu, mae'n aml yn rhoi'r un sy'n derbyn gofal mewn sefyllfa argyfyngus. Mae niferoedd cynyddol o bobl hŷn sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu wedi tynnu sylw at yr angen i Lywodraeth y DU adolygu'r lwfans gofalwyr fel y prif fudd-dâl i ofalwyr. Ar hyn o bryd daw'r lwfans i ben pan fydd pensiwn y wladwriaeth yn dechrau, ac mae llawer o ofalwyr yn teimlo'n gryf y dylid talu lwfans gofalwr yn ychwanegol at bensiwn sylfaenol y wladwriaeth. Mae eu hymdrechion yn arbed miliynau i'r GIG, a buaswn yn croesawu sicrwydd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i adolygu taliadau lwfans gofalwyr.
Rhaid gwneud mwy i gefnogi gofalwyr yn y gwaith. Mae Carers UK wedi canfod bod tua 600 o bobl y dydd ledled y DU yn rhoi'r gorau i'w swyddi er mwyn gofalu am berthynas oedrannus neu sâl, a cheir ecsodus cudd o bobl yn gadael bywyd gwaith nad ydym yn trafod digon arno. Mae gwell cymorth yn y gweithle i bobl sy'n jyglo gwaith cyflogedig a gofalu am rywun annwyl yn dod yn fater cynyddol bwysig, a hoffwn glywed gan y Gweinidog sut y gallwn newid hynny. Mae llawer o ofalwyr yn wynebu pwysau ariannol sylweddol os oes yn rhaid iddynt roi'r gorau i weithio oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Ar ben hyn, mae llawer o ofalwyr yn defnyddio'u hincwm neu eu cynilion eu hunain i brynu offer neu gynhyrchion, gan eu gadael yn straffaglu'n ariannol ac yn methu cynilo ar gyfer eu hymddeoliad eu hunain. Mae Prifysgol Birmingham yn cynnal un o'r rhaglenni ymchwil niferus i gymharu systemau gofal ledled y DU. Wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, prif amcan y rhaglen benodol honno yw cynyddu dealltwriaeth o ofal sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol, yn arbennig sut i sicrhau lles defnyddwyr gofal, eu teuluoedd a gweithwyr gofal cyflogedig. Hoffwn wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn pwyso ar ganfyddiadau'r rhaglen ymchwil hon a rhaglenni tebyg.
Mae gofalu am berthynas, ffrind neu rywun annwyl yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei wneud heb feddwl. Mae hyn yn arbennig o wir am ofalwyr ifanc, ac os nad yw pobl yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, mae nodi a chydnabod eu hanghenion yn her sylweddol. Mae elusen blant Barnardo's yn gweithredu prosiect yng Nghasnewydd yn arbennig ar gyfer gofalwyr ifanc. Cefais y fraint o gyfarfod â'r grŵp hwnnw ac roedd yn bwerus iawn gwrando ar y bobl ifanc hynny'n disgrifio cymaint yr oeddent yn gwerthfawrogi'r cyfle i dreulio amser gydag eraill sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg. Mae'r cyfarfodydd yn caniatáu iddynt siarad am eu profiadau a rhannu unrhyw bryderon neu rwystredigaethau a allai fod ganddynt. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt gael seibiant a threulio amser gydag eraill sy'n deall yr hyn y maent yn mynd drwyddo.
Mae'r rhwydwaith cymorth hanfodol, fel Fforwm Gofalwyr Casnewydd, a hyn, yn rhywbeth nad oes gan lawer o ofalwyr. Cafodd pwysigrwydd rhwydwaith o'r fath ei gadarnhau go iawn i mi yn ddiweddar gan brofiad person ifanc yn fy etholaeth. Yn dilyn diagnosis o salwch terfynol eu mam, roedd y gofalwr ifanc yn cael trafferth gyda phryder, iselder, hunan-niwed a meddyliau hunanladdol. Ond fel roeddent yn dweud wrthyf—ac rwy'n dyfynnu—'un peth a wnaeth fy helpu'n fawr drwy hyn i gyd oedd grŵp cymorth yn fy ysgol i ofalwyr ifanc. Roedd yn braf treulio amser a gwneud gweithgareddau gyda phobl eraill yr un oed â fi a oedd mewn sefyllfa debyg i mi. Fe wnaethom lawer o weithgareddau hwyliog fel gwersylla, mynd ar dripiau, a chyfarfod am gacennau a choffi fel grŵp.'
Mae cyngor ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi lansio eu hymgyrch Cymorth nid Cydymdeimlad yn ddiweddar. Hoffwn annog pawb i wylio'r fideo y maent wedi'i gynhyrchu, sy'n manylu ar chwe pheth na ddylid eu dweud wrth ofalwyr ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys ymadroddion fel 'Mae'n ddrwg gennyf drostat ti' a 'Bydd popeth yn iawn rhyw ddydd'. Mae'r cyngor ieuenctid am i gynifer o bobl â phosibl weld y fideo, er mwyn i bawb ohonom ddeall pam ei bod yn bwysig cynnig cefnogaeth yn ogystal â chydymdeimlad. Yn hytrach, maent yn ein hannog i ofyn 'Beth allaf i ei wneud i helpu?' Gan gofio hyn, rwy'n credu'n gryf ei bod yn ddyletswydd arnom i arwain y ffordd o ran amddiffyn a chefnogi gofalwyr. Gwn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau breision ymlaen. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf, mae'r un hawliau yn cael eu hymestyn i ofalwyr â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt. Roedd hwn yn ddatblygiad pwysig o ran cael cydnabyddiaeth i ofalwyr, ond mae llawer o ffordd i fynd o hyd a chymaint mwy i'w wneud. Mae'n rhaid iddo wneud gwahaniaeth pendant i fywydau gofalwyr.
Mae gallu adnabod gofalwyr yn well ym mhob un o leoliadau'r GIG yn hollbwysig ymhlith y camau cadarnhaol y gellid eu cymryd. Ymhlith yr enghreifftiau o'r hyn a fyddai'n helpu mae: marc ansawdd ar gyfer practisau meddygon teulu sy'n ystyriol o ofalwyr i alluogi gofalwyr i nodi gwasanaethau meddygon teulu sy'n gallu bodloni eu hanghenion; mabwysiadu pasbortau gofalwyr, a chanllawiau clir ar gyfer eu defnyddio; datblygiadau i gofnodion iechyd electronig sy'n caniatáu i bobl rannu eu statws gofalu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ble bynnag a phryd bynnag y maent yn bresennol; a throsglwyddo gwybodaeth yn well ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, fel nad oes rhaid i ofalwyr ailadrodd gwybodaeth yn gyson.
Ar ôl gofalu am gyfnod estynedig, mae'n gyffredin fod llawer o ofalwyr yn teimlo fel pe baent wedi colli eu hunaniaeth eu hunain. Fel gofalwr llawn amser, mae'n aml yn anodd, os nad yn amhosibl, cael bywyd cymdeithasol neu ddilyn gyrfa. Mae miloedd lawer o bobl sy'n gwneud rhywbeth y dylem ni, fel cymdeithas, ei werthfawrogi'n aruthrol yn teimlo eu bod wedi'u gadael ar ôl, heb fawr ddim i edrych ymlaen ato yn y dyfodol. Ni allwn adael gofalwyr ar ôl. Maent yn rhoi cymaint inni, a dylem fod yn hynod ddiolchgar. Dyma'r arwyr di-glod sy'n haeddu ein parch, ein cydnabyddiaeth, ac yn anad dim, ein cefnogaeth ddiwyro.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.
Diolch. Diolch yn fawr iawn i Jayne Bryant am ddod â'r ddadl hon yma i'r Siambr heno ac am siarad mor huawdl am y sefyllfa y mae gofalwyr ynddi. Ac mae'n dda iawn fod Fforwm Gofalwyr Casnewydd yma hefyd.
Mae'n fraint imi gael y cyfrifoldeb am ofalwyr di-dâl yn fy mhortffolio, ac rwyf am sicrhau bod gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, nad ydynt yn wynebu stigma mewn cymdeithas, nac mewn ysgolion, pan ddywedant, 'rwy'n ofalwr'. Ar draws Cymru, ceir o leiaf 370,000 o bobl sy'n gofalu am rywun arall am o leiaf awr yr wythnos. Ac mae Jayne Bryant eisoes wedi sôn am eu cyfraniad enfawr i economi Cymru—mwy na £8.1 biliwn bob blwyddyn, gan ddarparu 96 y cant o'r gofal yng nghymunedau Cymru. Mae hi'n hollol iawn—ni allem ymdopi hebddynt.
Felly, rwy'n falch iawn heddiw ein bod yn tynnu sylw at y gwaith anhygoel y mae pob un o'n gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn ei wneud dros eu hanwyliaid, eu teuluoedd a'u ffrindiau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
O, gwnaf, yn sicr.
Roeddwn am ofyn a oeddech yn gwybod bod y ffigurau a ddyfynnwch yn gywir, oherwydd gwyddom fod y ffigur hwn wedi'i ddyfynnu ers cryn amser, ac nid yw llawer o ofalwyr di-dâl yn diffinio'u hunain fel hynny mewn gwirionedd. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oedd unrhyw waith roeddech chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny. Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi codi'r ddadl hon ar sawl achlysur—gallwn dorri a phastio'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd yn gynharach at bethau a godwyd gennym, yn enwedig gyda gofalwyr ifanc. Felly, byddai unrhyw gynnydd y gallwch ei roi heddiw yn cael ei groesawu'n fawr.
Ie. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn—mai'r ffigurau isaf yw'r rhain; dyma'r 'o leiaf'. Oherwydd rwy'n credu ein bod i gyd yn gwybod bod problem enfawr o ran tuedd gofalwyr i beidio â gweld eu hunain fel gofalwyr, a dyna un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru'n ceisio ei wneud—ceisio cael mwy o bobl i weld eu hunain fel gofalwyr, ac yna efallai y gallem roi mwy o gymorth.
Yn amlwg, mae gennych y mater allweddol a godwch hefyd ynglŷn â gofalwyr ifanc. Nodwyd pwysigrwydd hanfodol yr agenda hon yn ddiweddar ar 16 Mai, yn y ddadl ynghylch oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn y Senedd hon. Oherwydd rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth a drafodwyd yma, ac mae wedi cael ei drafod yma ers blynyddoedd lawer. Mae'n amlwg yn hanfodol ein bod yn cofio y gall gofalu ddigwydd ar unrhyw oedran, nid fel oedolyn yn unig. Felly, ychydig bach o gynnydd—rydym eisoes yn ymateb i'r galwadau gan ofalwyr ifanc am gerdyn adnabod cenedlaethol i ofalwyr ifanc. Ac mae swyddogion yn cyfarfod ag awdurdodau lleol, gyda thrafodaeth adeiladol iawn mewn gwirionedd, ddoe diwethaf, i drafod sut y byddem yn gweithredu'r cerdyn cenedlaethol hwn. Cyfarfûm â grŵp o ofalwyr ifanc yr wythnos diwethaf, ac roeddent yn ailadrodd pa mor bwysig yw'r grwpiau cymorth y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt, lle gallant siarad â phobl mewn sefyllfa debyg iddynt hwy eu hunain, a rhannu rhai o'r materion y maent yn ymdopi â hwy.
Mae sicrhau cydnabyddiaeth i bob gofalwr yn gwbl hanfodol yn fy marn i—fel y dywedodd Bethan. Rydym am i unigolion allu cael y mathau cywir o ofal a chymorth mewn ffordd sy'n bodloni eu gofynion ac ar yr adeg iawn. Ac felly mae'n bwysig iawn ein bod yn helpu pobl i sylweddoli pan fyddant yn dod yn ofalwyr, oherwydd, fel y mae Jayne Bryant eisoes wedi dweud, mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a ddaeth i rym yn 2016, yn rhoi hawl gyfartal i bob gofalwr gael cymorth, yr un fath â'r person y maent yn gofalu amdanynt. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn lansio ymgyrch wybodaeth newydd, a fydd yn canolbwyntio'n gyntaf ar hawliau pobl hŷn, ac yna'n dilyn gyda phwyslais cryf ar hawliau gofalwyr a gofalwyr ifanc. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei wneud yn ddiweddarach eleni.
Ond wrth gwrs, ni fydd deddfwriaeth yn gwneud pethau ar ei phen ei hun. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd ein tair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr. Cafodd y rhain eu datblygu mewn cyd-gynhyrchiad â llawer o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau gofalwyr a'r trydydd sector yn ehangach, a'r tair blaenoriaeth yw: cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu, sydd mor bwysig, ac mae'n arbennig o bwysig i'r holl bobl sy'n gofalu gael eu bywydau eu hunain lle gallant wneud pethau y maent am eu gwneud, ac mae'n allweddol iawn i gydnabod bod angen y pethau eraill mewn bywyd arnoch hefyd er mwyn gallu ymdopi; yr ail flaenoriaeth yw adnabod a chydnabod gofalwyr; a'r trydydd yw darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Mae ein tair blaenoriaeth genedlaethol i ofalwyr ar gyfer oedolion neu rieni plant sydd ag anghenion gofal a chymorth, neu ofalwyr hŷn, ac ar gyfer gofalwyr ifanc hefyd.
Cyfarfûm yn ddiweddar ag aelodau o grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr, a grëwyd yn 2018, ac sy'n cynnwys cynrychiolwyr blaenllaw o sefydliadau gofalwyr yn y trydydd sector. Rwyf wedi amlinellu fy syniadau ynglŷn â sut y gallwn fwrw ymlaen â'n polisi strategol a'n blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gofalwyr hyd at 2020-21 a thu hwnt. Felly, ar ôl ystyried adroddiad ymchwiliad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol i'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a'i heffaith ar ofalwyr, ar ôl i ni gael cyfle i ystyried hynny, rwy'n cynllunio cynllun gweithredu strategol newydd, ac rwyf am i'r cynllun hwn nodi'n glir yr ysgogiadau a'r camau gweithredu allweddol y bydd eu hangen arnom, sut y gall pawb ohonom weithio gyda'n gilydd fel Llywodraeth Cymru, awdurdodau statudol, byrddau iechyd, comisiynwyr, Gofal Cymdeithasol Cymru, sefydliadau gofalwyr ac eraill i sicrhau effaith wirioneddol ym mywydau gofalwyr. Rwy'n sicr yn derbyn yr hyn a ddywedodd Jayne Bryant am bwysigrwydd y lwfans gofalwyr a phryd y daw i ben, a'r modd y gall Llywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar Lywodraeth San Steffan.
Mae hefyd yn hanfodol fod gofalwyr yn cael seibiant o'u rôl gofalu i gael eu cefn atynt, ac mae pwysigrwydd a manteision seibiant yn sicr yn cael eu cydnabod yn un o'n tair blaenoriaeth genedlaethol—cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu. Mae darparu seibiant ar ba ffurf bynnag, nid yn unig yr arhosiad dros nos draddodiadol mewn cartref gofal i'r person sydd ag anghenion gofal, yn bwysig i unigolion a gofalwyr, a rhaid i ofalwyr ifanc allu manteisio ar wasanaethau o'r fath hefyd.
Fel rhan o gylch gwaith y gofalwyr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch. A gaf fi ofyn a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried edrych ar effaith y ffaith bod menywod yn gorfod gweithio'n llawer hwy erbyn hyn ar argaeledd gofal, neu yn yr un modd os oes rhaid iddynt roi'r gorau i weithio, eu hargaeledd i ailymuno â'r gweithlu? Felly, nid dim ond y gofalwyr eu hunain a allai orfod wynebu'r newidiadau hynny, ond yr effaith ganlyniadol yn yr uned deuluol.
Ie, rwy'n credu bod Joyce Watson yn gwneud pwynt pwysig iawn yn y fan honno, ac rwy'n credu bod Jayne Bryant hefyd wedi codi mater cyflogaeth a pha mor bwysig yw hi i ofalwyr allu parhau i weithio, am resymau ariannol os nad am unrhyw reswm arall. Mae'r ffaith bod yn rhaid i fenywod weithio'n hwy yn awr yn siŵr o gael effaith ar eu rolau gofalu. Felly, rwy'n credu bod hwn yn bendant yn faes y dylid gwneud gwaith arno, felly diolch am wneud y pwynt hwnnw.
Felly, fel rhan o gylch gwaith grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr, bydd ei aelodau'n datblygu syniadau ac atebion mewn ymateb i'r gwahanol faterion sy'n wynebu gofalwyr, gan gynnwys mathau newydd a mwy hyblyg o seibiant. Gwn fod rhai gofalwyr eisoes yn treialu gwahanol ffyrdd o ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu egwyl neu ofal seibiant. Ers 2017-18, rydym wedi rhoi £3 miliwn o gyllid cylchol ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant ychwanegol i ofalwyr ar sail angen gofalwyr yn eu hardal. Mae'r arian hwn bellach wedi'i gynnwys yn y grant cynnal refeniw llywodraeth leol, ond rydym yn gofyn yn barhaus i bob awdurdod lleol yng Nghymru ddweud wrthym sut y maent yn ei ddefnyddio a pha newidiadau ac arloesedd y mae'r arian hwn yn eu helpu i fynd ar ei drywydd. Eleni—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Yn y bôn, mater o arian ydyw yn y pen draw, a gofal cymdeithasol. A gaf fi gymeradwyo cyflwyniad Jayne Bryant, yn y lle cyntaf, ac ymyriadau Joyce a Bethan hefyd, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei ganfod, yn sicr yn fy mhrofiad proffesiynol i fel meddyg teulu, yw nad yw pobl a oedd yn arfer bod yn gymwys i gael gofal cymdeithasol wedi'i ddarparu gan awdurdodau lleol yn eu cartrefi eu hunain yn gymwys mwyach oherwydd, yn amlwg, mae'r trothwyon yn codi ar gyfer derbyn gofal oherwydd diffyg cyllid? Nawr, nid oes neb yn beio neb heblaw rhywun i fyny'r lôn yn San Steffan. Felly, mae'r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn gwbl hanfodol. Felly, sut y gallwn olrhain hwnnw er mwyn sicrhau bod yr arian yno fel nad yw awdurdodau lleol bob amser yn codi'r trothwyon ac fel y gall pobl sydd angen gofal gael y gofal y maent yn ei haeddu?
Unwaith eto, mae'n bwynt pwysig iawn, ac yn amlwg, rydym wedi gallu olrhain yr arian ychwanegol rydym wedi'i roi. Eleni, cytunasom i roi £1 filiwn o gyllid i gefnogi gofalwyr, ond hefyd mae cyfanswm o £1.7 miliwn wedi'i ddyfarnu i Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fel rhan o grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy'r trydydd sector. Felly, rydym yn rhoi arian i ariannu'r trydydd sector er mwyn cefnogi gofalwyr. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd rwy'n credu bod y trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol wrth weithio gyda gofalwyr.
Rwy'n falch fod cynllun grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy newydd tair blynedd ar gyfer y trydydd sector wedi'i gyhoeddi'n gynharach eleni, ac mae ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau. Gofalwyr yw un o'r blaenoriaethau y gall y grant eu cefnogi. Darparwyd £1 filiwn o arian gennym y llynedd hefyd ac yn 2019-20 i fyrddau iechyd lleol a phartneriaethau i wella ymwybyddiaeth o broblemau ac anghenion gofalwyr. A gellir defnyddio'r arian hwn mewn meddygfeydd meddygon teulu a chanolfannau iechyd, yn ogystal â gwella ymgysylltiad â gofalwyr pan fydd yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Felly, gorau po fwyaf o hyn y gallwn sicrhau ei fod ar gael, rwy'n credu, a chodi ymwybyddiaeth, mae'n bwysig iawn—.
Un enghraifft o sut y gall gofalwyr eu hunain gael eu cynnwys yn y gwaith o hyrwyddo'r agenda hon yw—ac rwy'n credu bod Jayne Bryant eisoes wedi crybwyll hyn—gwirfoddolwyr Fforwm Gofalwyr Casnewydd, sydd wedi bod yn gweithio i ddiweddaru hysbysfyrddau gofalwyr mewn meddygfeydd ledled Casnewydd ac i annog practisau meddygon teulu i benodi hyrwyddwyr gofalwyr.
Mae angen i ranbarthau barhau i weithio hefyd ar ofal integredig di-dor a'i ddatblygu i ddiwallu anghenion eu poblogaeth a chefnogi hyn, ac mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn defnyddio'r gronfa gofal integredig i gefnogi gofalwyr, a bwriedir iddi gryfhau gweithio integredig. A chyhoeddwyd £15 miliwn o gyllid ychwanegol i'r gronfa gofal integredig ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ym mis Tachwedd y llynedd, yn benodol ar gyfer datblygu gwasanaethau ataliol i oedolion sydd angen gofal a chymorth i ofalwyr.
Ond fel y dywedodd Bethan yn ei hymyriad, sut y gwyddom ein bod yn symud ymlaen? Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fonitro effaith y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a chyhoeddi data, ac rwy'n falch o ddweud bod amrywiaeth eang o waith ar y gweill i hybu'r sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gofalwyr a data gofalwyr, gan gynnwys gwerthusiad allanol o Ddeddf 2014. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn edrych ar yr ymchwil y cyfeiriodd Jayne Bryant ati yn ei chyfraniad.
I gloi, rwyf am ddweud hyn: rwy'n deall yn iawn fod holl Aelodau'r Cynulliad, rhanddeiliaid ac yn bwysicaf oll, gofalwyr, am weld y gefnogaeth i ofalwyr yn gwella. Credaf fod y gefnogaeth heddiw lawer yn gryfach na'r hyn ydoedd cyn cyflwyno'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Mae'r gofynion a'r hawliau a gyflwynasom gyda Deddf 2014 ynghylch cymorth i ofalwyr yn gryfach na'r hyn a gynhwyswyd yn flaenorol ym Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010. Roedd hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion ysgrifennu cynlluniau, ond mae ein Deddf yn cynnig manteision real a phendant. Ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod ffordd bell i fynd o hyd ac nad yw'r sefyllfa bresennol yn berffaith, ond nid yw hynny'n golygu nad ydym wedi cyflawni llawer iawn eisoes yn y tair blynedd ers i'r Ddeddf ddod i rym. Fy amcan clir yw parhau â'n tuedd ar i fyny i sicrhau bod Cymru'n gofalu go iawn am bob gofalwr ac yn gwneud iddynt wybod ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith y maent yn ei wneud yn fawr iawn ac yn sicr ni allem ymdopi hebddynt.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.