Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Naratif Llywodraeth y DU yw bod cyni'n dod i ben. Gwahanol iawn yw'r gwirionedd. Hyd yn oed o ystyried y cynnydd a gyhoeddwyd mewn gwariant ar iechyd, bydd gwariant mewn termau real ar wasanaethau cyhoeddus fesul pen ledled y DU tua 10 y cant yn is yn 2023-24 nag yn 2009-10. Peidied neb â chamgymryd, mae'r DU yn parhau i fod yn dynn yng ngafael cyni. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r cyllid sydd ar gael. Ond y gwir plaen yw, oni bai fod Llywodraeth y DU yn cymryd camau i roi terfyn ar gyni, bydd diogelu iechyd yn golygu dewisiadau anodd dros ben i feysydd hanfodol eraill o wasanaethau cyhoeddus.
Ar sail y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn natganiad y gwanwyn ym mis Mawrth eleni, rydym ni'n amcangyfrif, os yw'r cynnydd yng nghyllideb adnoddau Cymru yn unol â therfynau gwariant adrannol adnoddau'r DU a thwf y GIG yn Lloegr yn cynyddu'n gyfatebol yng Nghymru, yna byddai gweddill cyllideb Cymru yn gostwng tuag un y cant mewn termau real rhwng 2019-20 a 2020-21. Byddai hynny'n rhoi mwy o bwysau eto ar ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd, sy'n parhau i wynebu chwyddiant cynyddol a chostau cyflog a phensiwn sydd heb eu hariannu.
Ond y gwirionedd arswydus yw y gallai'r cyd-destun gwariant cyhoeddus waethygu eto. Mae'n werth cofio bod datganiad y gwanwyn yn rhagweld Brexit gweddol hynaws. Mae'n anghredadwy nad oes unrhyw eglurder o hyd ynghylch sut y bydd y DU yn gadael yr UE a beth ddaw yn y dyfodol. Bydd y blynyddoedd nesaf hyn yn dibynnu ar unrhyw gytundeb Brexit ac unrhyw drefniadau o ran pontio. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhagdybio y bydd yna gytundeb Brexit.
Mae Cymru yn cael tua £680 miliwn yn flynyddol o gronfeydd yr UE, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y byddwn ni'n disgwyl i'r Trysorlys gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol ar ôl Brexit. Ar hyn o bryd, nid yw'r ymgynghoriad ar gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig Llywodraeth y DU, sy'n bygwth dwyn llawer o rym oddi wrth Gymru, wedi dechrau hyd yn oed. Byddwn ni'n dal i fynnu bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid na fyddwn ni'n cael ein gadael yn waeth ein byd. Mae ein neges ni'n glir: heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym.
Rydym ni eisoes yn gweld effaith ansicrwydd Brexit ar ein heconomi. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Banc Lloegr, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol i gyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod ansicrwydd Brexit wedi gwthio'r economi ar lwybr twf sydd hyd yn oed yn is. Cafwyd llai o fuddsoddiad mewn busnes ym mhob chwarter y llynedd—datblygiad hollol newydd y tu allan i ddirwasgiad. Gostyngodd y cynnydd domestig gros 0.4 y cant ym mis Ebrill o'i gymharu â mis Mawrth. Byddai Brexit didrefn yn peryglu dirwasgiad yn y byrdymor.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi hefyd bod y colledion o ran refeniw treth, yn sgil twf arafach, yn gwrthbwyso unrhyw arbedion sy'n deillio o lai o gyfraniadau at gyllideb yr UE. Nid mater o ystadegau economaidd haniaethol yn unig mo hwn. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu y gallai pob unigolyn yng Nghymru fod ymhell dros £1,000 y pen ar ei golled bob blwyddyn nag y byddai fel arall dros yr hirdymor. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cyflogau is, rhagolygon gwaeth am swyddi a gwasanaethau cyhoeddus tlotach o ganlyniad i refeniw treth gwannach. Mae'r ansicrwydd hwn yn niweidio'r economi ac yn effeithio'n uniongyrchol ar ein gallu ni i gynllunio a darparu'r sicrwydd yn y tymor hwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Rydym yn cychwyn y flwyddyn hon gyda setliad refeniw cyfredol nad yw'n gallu ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn gyfredol, 2019-20, a chyllideb gyfalaf nad yw'n ymestyn ond hyd at 2020-21. Yn seiliedig ar bolisi cyfredol, ni allwn ond tybio na fydd effaith net twf mewn refeniw trethi datganoledig a thwf yn yr addasiad i'r grant bloc rhwng 2019-20 a 2020-21 yn cael effaith sylweddol ar dwf sefyllfa gyllidebol gyffredinol Llywodraeth Cymru rhwng y ddwy flwyddyn.
Mae cyflogau'r sector cyhoeddus yn cyfrif am oddeutu 50 y cant o wariant Llywodraeth Cymru. Felly, mae datblygiadau sy'n effeithio ar filiau cyflog y sector cyhoeddus yn allweddol wrth ddatblygu cynlluniau gwariant. Mae polisi cyni Llywodraeth y DU wedi arwain at gyfnod hir o gyfyngu ar gyflogau sector cyhoeddus ers 2010. Er bod hyn wedi helpu i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf cyni, rydym ni o'r farn y dylai gweision cyhoeddus gael eu gwobrwyo yn briodol am y gwaith pwysig ac anodd y maen nhw'n ei wneud. Ar ôl gweld Llywodraeth y DU yn cytuno ar gyflogau athrawon a chytundebau cyflog tair blynedd 'Agenda ar gyfer Newid' y GIG, rydym ni nawr yn disgwyl y bydd y cyflog fesul pen yn codi'n gyflymach yn ystod y blynyddoedd nesaf, ond bydd hyn hefyd yn golygu bil cyflogau sy'n cynyddu. Ynghyd â chostau pensiwn uwch ar adeg pan nad yw cyllidebau'n codi, bydd talu am y costau hyn yn arbennig o anodd.
Ar ôl i Lywodraeth y DU ddatgan yn hyderus y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd drwy adolygiad cynhwysfawr o wariant, mae'n dweud bellach ei bod yn fwyfwy tebygol ar hyn o bryd, oherwydd yr anhrefn a greodd, y caiff ei gorfodi i lusgo ei thraed a chyflwyno cynlluniau refeniw am flwyddyn yn unig. Rydym ni bob amser wedi ceisio darparu'r sicrwydd cynharaf posibl o ran cyllidebau er mwyn ein partneriaid. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau busnes a chyllid i ddweud bod yr ansicrwydd hwn wedi'n gadael ni heb unrhyw ddewis ond cynllunio ar y sail y byddwn ni'n cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth. Er y gallai hon fod yn amserlen arferol i gyllideb yn yr Alban, rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd yr amserlen hon yn ei chael ar y Cynulliad a'n partneriaid ni. Mae'n dal i fod yn bosib y gallai Llywodraeth y DU gyhoeddi cyllideb gynharach, ac os digwydd hynny byddaf yn ceisio cyflwyno amserlen ein cyllideb mor gynnar â phosibl, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Pwyllgor Busnes ar hyn.
Rydym ni'n benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym yn cael yr effaith fwyaf bosib. Rydym yn canolbwyntio ein paratoadau cyllideb ar ein wyth maes blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Mae'r meysydd blaenoriaeth hyn yn integreiddio gweithgarwch ledled y Llywodraeth yn y meysydd y gallwn ni gael y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor. Yn rhan o'r gwaith hwn, byddaf i'n mynd ar ymweliadau yn ystod yr haf i gael cipolwg ar yr heriau a'r cyfleoedd y mae partneriaid ehangach yn eu gweld ym mhob un o'r wyth maes hyn. Felly, i gloi, mae ein Llywodraeth ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei gallu i ateb yr heriau gwirioneddol sy'n ein hwynebu heddiw ac yn y dyfodol.