– Senedd Cymru am 4:33 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd am Ragolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Dirprwy Lywydd, yn ddiamau mae Cymru a'r gwasanaethau cyhoeddus, sydd mor werthfawr yn ein golwg ni, yn wynebu heriau mawr wrth inni edrych tua'r dyfodol. Mae'n ymddangos mai'r unig beth y mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio arno yw ethol arweinydd newydd y Blaid Geidwadol ac, o ganlyniad i hynny, Brif Weinidog newydd. Rydym ni i gyd wedi clywed y ddau ymgeisydd yn gwneud addewidion mawr o ran treth a gwariant. Ond, fel mae pethau'n sefyll, ychydig iawn yr ydym yn ei wybod am ba bolisi cyllidol y bydd Prif Weinidog newydd—a Changhellor newydd yn sicr ddigon—yn ei ddilyn. Yn ogystal â'r ansicrwydd cynyddol ynglŷn â Brexit, mae'r diffyg eglurder hwn ynghylch rhagolygon cyllidol y DU yn golygu her hollol newydd i ni wrth ddatblygu cynlluniau gwariant ar gyfer y dyfodol. Er gwaethaf hyn, rwyf wedi ymrwymo i rannu cymaint o wybodaeth â phosibl â rhanddeiliaid i lywio eu gwaith cynllunio nhw yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae Cymru yn wynebu bygythiadau deublyg rhaglen Llywodraeth y DU o gyni a Brexit 'heb gytundeb'. Gallai'r rhain wneud niwed mawr i fuddiannau Cymru. Rydym ni nawr yn y nawfed flwyddyn o gyni ac mae Cymru yn dioddef yn sgil canlyniadau niweidiol polisïau'r Torïaid. Rydym wedi dweud ers tro byd mai dewis gwleidyddol yw parhau â chyni. Mae'n ffaith, er gwaethaf twf araf iawn, fod derbyniadau treth yn fwy na digon i gwrdd â gwariant cyhoeddus cyfredol. Beth sydd gennym ni i'w ddangos am bron degawd o gyni? Nid yw cynhyrchiant y DU fawr ddim yn uwch na'r lefelau cyn y dirwasgiad ac mae cyflogau, wedi eu haddasu ar gyfer chwyddiant, yn parhau yn is na lefelau 2010. Mae'r twf mewn derbyniadau treth wedi bod yn araf iawn, gan leihau'r adnoddau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Yng Nghymru, pe byddai gwariant ar wasanaethau cyhoeddus wedi aros yn gyfartal â'r twf mewn cynnyrch domestig gros ers 2010-11, eleni fe fyddai gan Lywodraeth Cymru £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario. I roi hynny yn ei gyd-destun, fe fyddai wedi cynyddu ein cyllideb ni bron 25 y cant.
Naratif Llywodraeth y DU yw bod cyni'n dod i ben. Gwahanol iawn yw'r gwirionedd. Hyd yn oed o ystyried y cynnydd a gyhoeddwyd mewn gwariant ar iechyd, bydd gwariant mewn termau real ar wasanaethau cyhoeddus fesul pen ledled y DU tua 10 y cant yn is yn 2023-24 nag yn 2009-10. Peidied neb â chamgymryd, mae'r DU yn parhau i fod yn dynn yng ngafael cyni. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r cyllid sydd ar gael. Ond y gwir plaen yw, oni bai fod Llywodraeth y DU yn cymryd camau i roi terfyn ar gyni, bydd diogelu iechyd yn golygu dewisiadau anodd dros ben i feysydd hanfodol eraill o wasanaethau cyhoeddus.
Ar sail y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn natganiad y gwanwyn ym mis Mawrth eleni, rydym ni'n amcangyfrif, os yw'r cynnydd yng nghyllideb adnoddau Cymru yn unol â therfynau gwariant adrannol adnoddau'r DU a thwf y GIG yn Lloegr yn cynyddu'n gyfatebol yng Nghymru, yna byddai gweddill cyllideb Cymru yn gostwng tuag un y cant mewn termau real rhwng 2019-20 a 2020-21. Byddai hynny'n rhoi mwy o bwysau eto ar ein gwasanaethau cyhoeddus sy'n ei chael hi'n anodd, sy'n parhau i wynebu chwyddiant cynyddol a chostau cyflog a phensiwn sydd heb eu hariannu.
Ond y gwirionedd arswydus yw y gallai'r cyd-destun gwariant cyhoeddus waethygu eto. Mae'n werth cofio bod datganiad y gwanwyn yn rhagweld Brexit gweddol hynaws. Mae'n anghredadwy nad oes unrhyw eglurder o hyd ynghylch sut y bydd y DU yn gadael yr UE a beth ddaw yn y dyfodol. Bydd y blynyddoedd nesaf hyn yn dibynnu ar unrhyw gytundeb Brexit ac unrhyw drefniadau o ran pontio. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn rhagdybio y bydd yna gytundeb Brexit.
Mae Cymru yn cael tua £680 miliwn yn flynyddol o gronfeydd yr UE, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y byddwn ni'n disgwyl i'r Trysorlys gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol ar ôl Brexit. Ar hyn o bryd, nid yw'r ymgynghoriad ar gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig Llywodraeth y DU, sy'n bygwth dwyn llawer o rym oddi wrth Gymru, wedi dechrau hyd yn oed. Byddwn ni'n dal i fynnu bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid na fyddwn ni'n cael ein gadael yn waeth ein byd. Mae ein neges ni'n glir: heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym.
Rydym ni eisoes yn gweld effaith ansicrwydd Brexit ar ein heconomi. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Banc Lloegr, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol i gyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod ansicrwydd Brexit wedi gwthio'r economi ar lwybr twf sydd hyd yn oed yn is. Cafwyd llai o fuddsoddiad mewn busnes ym mhob chwarter y llynedd—datblygiad hollol newydd y tu allan i ddirwasgiad. Gostyngodd y cynnydd domestig gros 0.4 y cant ym mis Ebrill o'i gymharu â mis Mawrth. Byddai Brexit didrefn yn peryglu dirwasgiad yn y byrdymor.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi nodi hefyd bod y colledion o ran refeniw treth, yn sgil twf arafach, yn gwrthbwyso unrhyw arbedion sy'n deillio o lai o gyfraniadau at gyllideb yr UE. Nid mater o ystadegau economaidd haniaethol yn unig mo hwn. Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn awgrymu y gallai pob unigolyn yng Nghymru fod ymhell dros £1,000 y pen ar ei golled bob blwyddyn nag y byddai fel arall dros yr hirdymor. Bydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cyflogau is, rhagolygon gwaeth am swyddi a gwasanaethau cyhoeddus tlotach o ganlyniad i refeniw treth gwannach. Mae'r ansicrwydd hwn yn niweidio'r economi ac yn effeithio'n uniongyrchol ar ein gallu ni i gynllunio a darparu'r sicrwydd yn y tymor hwy ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Rydym yn cychwyn y flwyddyn hon gyda setliad refeniw cyfredol nad yw'n gallu ymestyn y tu hwnt i'r flwyddyn gyfredol, 2019-20, a chyllideb gyfalaf nad yw'n ymestyn ond hyd at 2020-21. Yn seiliedig ar bolisi cyfredol, ni allwn ond tybio na fydd effaith net twf mewn refeniw trethi datganoledig a thwf yn yr addasiad i'r grant bloc rhwng 2019-20 a 2020-21 yn cael effaith sylweddol ar dwf sefyllfa gyllidebol gyffredinol Llywodraeth Cymru rhwng y ddwy flwyddyn.
Mae cyflogau'r sector cyhoeddus yn cyfrif am oddeutu 50 y cant o wariant Llywodraeth Cymru. Felly, mae datblygiadau sy'n effeithio ar filiau cyflog y sector cyhoeddus yn allweddol wrth ddatblygu cynlluniau gwariant. Mae polisi cyni Llywodraeth y DU wedi arwain at gyfnod hir o gyfyngu ar gyflogau sector cyhoeddus ers 2010. Er bod hyn wedi helpu i liniaru rhai o effeithiau gwaethaf cyni, rydym ni o'r farn y dylai gweision cyhoeddus gael eu gwobrwyo yn briodol am y gwaith pwysig ac anodd y maen nhw'n ei wneud. Ar ôl gweld Llywodraeth y DU yn cytuno ar gyflogau athrawon a chytundebau cyflog tair blynedd 'Agenda ar gyfer Newid' y GIG, rydym ni nawr yn disgwyl y bydd y cyflog fesul pen yn codi'n gyflymach yn ystod y blynyddoedd nesaf, ond bydd hyn hefyd yn golygu bil cyflogau sy'n cynyddu. Ynghyd â chostau pensiwn uwch ar adeg pan nad yw cyllidebau'n codi, bydd talu am y costau hyn yn arbennig o anodd.
Ar ôl i Lywodraeth y DU ddatgan yn hyderus y byddai'n pennu cyllidebau am dair blynedd drwy adolygiad cynhwysfawr o wariant, mae'n dweud bellach ei bod yn fwyfwy tebygol ar hyn o bryd, oherwydd yr anhrefn a greodd, y caiff ei gorfodi i lusgo ei thraed a chyflwyno cynlluniau refeniw am flwyddyn yn unig. Rydym ni bob amser wedi ceisio darparu'r sicrwydd cynharaf posibl o ran cyllidebau er mwyn ein partneriaid. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau busnes a chyllid i ddweud bod yr ansicrwydd hwn wedi'n gadael ni heb unrhyw ddewis ond cynllunio ar y sail y byddwn ni'n cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth. Er y gallai hon fod yn amserlen arferol i gyllideb yn yr Alban, rwy'n ymwybodol o'r effaith y bydd yr amserlen hon yn ei chael ar y Cynulliad a'n partneriaid ni. Mae'n dal i fod yn bosib y gallai Llywodraeth y DU gyhoeddi cyllideb gynharach, ac os digwydd hynny byddaf yn ceisio cyflwyno amserlen ein cyllideb mor gynnar â phosibl, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Pwyllgor Busnes ar hyn.
Rydym ni'n benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym yn cael yr effaith fwyaf bosib. Rydym yn canolbwyntio ein paratoadau cyllideb ar ein wyth maes blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Mae'r meysydd blaenoriaeth hyn yn integreiddio gweithgarwch ledled y Llywodraeth yn y meysydd y gallwn ni gael y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor. Yn rhan o'r gwaith hwn, byddaf i'n mynd ar ymweliadau yn ystod yr haf i gael cipolwg ar yr heriau a'r cyfleoedd y mae partneriaid ehangach yn eu gweld ym mhob un o'r wyth maes hyn. Felly, i gloi, mae ein Llywodraeth ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth o fewn ei gallu i ateb yr heriau gwirioneddol sy'n ein hwynebu heddiw ac yn y dyfodol.
Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf i'n hollol siŵr ble i ddechrau gyda'r datganiad hwn heddiw. Yn ei gyfraniad blaenorol i'r datganiad blaenorol, roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies—. Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n mynd i gyfrannu i'r datganiad hwn, Alun, ond roeddech chi'n sôn eich bod chi'n edrych ymlaen at glywed am ymrwymiadau o ran gwariant. Nid wyf i'n siŵr ein bod wedi clywed rhyw lawer am unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant gan Lywodraeth Cymru yn y datganiad hwn, ond wedi dweud hynny roedd yn dilyn ymlaen o'r datganiad blaenorol ar flaenoriaethau.
Mae'r gwyliau gwirion wedi dechrau'n gynnar eleni, mae'n amlwg. Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw ei bod hi'n siomedig fod y datganiad hwn yn brin o naws adeiladol ac arlliw cadarnhaol arferol y Gweinidog. Roedd y datganiad hwn yn ymwneud yn fwy â lladd ar Lywodraeth y DU yn hytrach na chyflwyno'r weledigaeth gadarnhaol honno gan Lywodraeth Cymru y carai pob un ohonom ni yn y Siambr hon ei gweld, y byddai'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn hoffi ei gweld, ac, wrth gwrs , yr hoffai'r cyhoedd ei gweld. Rwyf i o'r farn, yn y cyswllt hwn, ei fod wedi bod yn gyfle a gollwyd. Yn wir, dim ond hanner ffordd drwy'r datganiad—rwy'n diolch i'r Gweinidog am gael gweld y datganiad ymlaen llaw—ond dim ond hanner ffordd drwy'r datganiad y clywsom ni am gronfeydd strwythurol yr UE, sydd wedi bod mor bwysig i economi Cymru dros gynifer o flynyddoedd. Yn wir, dim ond ar ddiwedd eich araith y gwnaethoch chi gyfeirio at y blaenoriaethau, ond mewn ystyr gyffredinol iawn wrth sôn am fynd allan at randdeiliaid. O ran,
Mae ein neges ni'n glir: heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym,
Wel, mae'n swnio ychydig fel nofel gan Jeffrey Archer, ond byddwn i'n dweud fy mod i fy hunan yn cytuno â'r farn hon. Rwy'n credu y byddai llawer o'r Aelodau yma yn cytuno nad ydym ni'n awyddus i weld un geiniog yn cael ei cholli, ac rydym wedi datgan hynny dros nifer o fisoedd a blynyddoedd erbyn hyn. Ond rwy'n credu bod y neges wedi mynd ar goll, gwaetha'r modd, yn yr holl ladd a fu'n ehangach ar Lywodraeth y DU.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau ac mae Llywodraeth y DU ymhell o fod yn ddi-fai yn hyn o beth. Ond yn hytrach na beio Llywodraeth y DU yn gyson am naw mlynedd o gyni, Gweinidog, a ydych chi wedi ystyried rhoi ychydig, o leiaf, o'r bai ar Lywodraeth Lafur flaenorol y DU a aeth i ddyledion yn llawer rhy gyflym ac a aeth yn llawer rhy drwm i'r dyledion hynny? Ac efallai—roeddwn i'n arfer dweud hyn wrth y Gweinidog Cyllid blaenorol—pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhedeg pethau bryd hynny yn hytrach na'ch perthnasau yn y Blaid Lafur yn San Steffan, efallai y byddem wedi bod mewn sefyllfa ychydig yn well. Ond rwyf am roi mantais yr amheuaeth i chi. Yn anffodus, nid oeddech chi'n rhedeg pethau bryd hynny, ac fe welwn ni nawr ganlyniad yr oferedd.
Gan droi at rai o'r manylion a oedd ar gael am y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn natganiad y gwanwyn, roeddech chi'n dweud, os yw'r cynnydd yng nghyllideb adnoddau Cymru yn unol â therfynau gwariant adrannol adnoddau'r DU a thwf y GIG yn Lloegr yn cynyddu'n gyfatebol yng Nghymru, yna byddai gweddill cyllideb Cymru yn gostwng tuag un y cant mewn termau real rhwng 2019-20 a 2020-21.
A yw honno'n ffordd o ddweud nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gyfateb y cynnydd o ran cyllid â'r GIG yn Lloegr? Oherwydd os felly—ac rwy'n cydnabod eich bod chi'n dweud, hefyd, y byddai hynny'n arwain at ostyngiadau mewn cyllidebau eraill—ond os yw hynny'n wir, rwy'n credu bod angen inni fod yn agored gyda'r cyhoedd nad yw cyllideb y GIG yng Nghymru yn cael ei diogelu yn y ffordd y mae rhai pobl yn tybio ei bod hi. A'r diogelwch hwnnw, yn wir, y bu Ceidwadwyr Cymru yn dadlau o'i blaid yn ôl yn 2011, na ddigwyddodd bryd hynny mewn termau real. Fe ddigwyddodd o ran arian parod, ond nid mewn termau real, a chredaf ein bod ni'n dal ar ei hôl hi yma yng Nghymru yn sgil y camgymeriadau a wnaed bryd hynny.
O ran amserlen y gyllideb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod cyllidebau tair blynedd a bennir drwy adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddymunol, ac mae'n drueni nad yw Llywodraeth y DU yn teimlo y gall eu cyflwyno nhw ar hyn o bryd. Hoffwn i dynnu sylw at y ffaith mai Llywodraeth bresennol y DU oedd yn dyheu am wneud hynny o leiaf. Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, ac fel y gwyddom ni yn y Pwyllgor Cyllid, nid yw cyllidebau tair blynedd yn hawdd eu cyflawni. Hoffwn i ofyn i chi: a ydych yn hyderus eich bod chi'n rhoi'r math o sefydlogrwydd tymor canolig y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ei ddeisyfu, ac a ydych chi'n obeithiol o symud tuag at ymrwymo i gyllidebau tair blynedd?
O'r diwedd fe wnaethoch chi sôn am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth gloi eich cyfraniad. Tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o fanylion inni am hynny, a hefyd am eich ymweliadau arfaethedig dros yr haf y cyfeiriwyd atynt. Mae'n fy atgoffa i ryw ychydig o daith cyllideb Jane Hutt y cyn Weinidog Cyllid. Mae Alun Davies yn cofio, ac mae'r emeritws hwn yn cofio taith cyllideb nifer o flynyddoedd yn ôl, pan aeth allan ac ymweld â rhanddeiliaid mewn llawer man yng Nghymru—taith gynhwysfawr iawn, mewn gwirionedd. Rwy'n cofio ei bod wedi dod i fy—rwy'n credu iddi fynd i bobman, mewn gwirionedd, ond mae Jane Hutt, fel y gwyddoch, yn ddiwyd iawn yn hynny o beth. Ai eich bwriad chi yw ailgynnau ysbryd y daith honno? Pa randdeiliaid yr ydych yn bwriadu cwrdd â nhw? A fydd hynny'n golygu, os goddefir yr ymadrodd, 'yr un hen rai', ynteu a ydych chi'n bwriadu mynd allan ac efallai gymryd rhywfaint o dystiolaeth gan randdeiliaid nad ydym yn ymwneud â nhw fel arfer? Byddai hynny'n golygu y byddem yn gweld dros y misoedd nesaf rywbeth y credaf yr hoffai pob Aelod Cynulliad yma ei weld, sef cyllideb sy'n wirioneddol yn adlewyrchu nid yn unig fuddiannau Aelodau'r Cynulliad yma, ond buddiannau pobl Cymru, ac sydd o fudd, yn wir, i economi Cymru yn y dyfodol?
Diolch. Rwy'n falch o'r cyfle i ymateb i'r sylwadau hynny. Ni wnaed ymrwymiadau o ran gwariant yn y datganiad hwn heddiw oherwydd nid gwneud ymrwymiadau o ran gwariant oedd ei ddiben, y bwriad oedd amlinellu'r rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y dyfodol yng Nghymru ymlaen llaw, ac yna, gyflwyno ymrwymiadau o fewn y cyfyngiadau a fydd arnom ni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael y cyfle hwn i egluro'r sefyllfa oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn amser inni ddeall beth yw realiti'r anawsterau yr ydym ni'n eu hwynebu. Felly, nid oedd unrhyw newyddion da yn y datganiad; cyfres o ffeithiau sy'n annymunol iawn yng ngolwg llawer ohonom ni, ond maen nhw'n adlewyrchu'r sefyllfa yr ydym ynddi.
Ar sail debyg am debyg, mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real erbyn hyn nag yr oedd yn 2010-11. Dewis gwleidyddol yw hwn; dyma ddewis a wnaeth Llywodraeth y DU o ran cyni, ac rwy'n credu bod yr hawl gennym i dynnu sylw at hynny. Felly, pan fydd pobl yn gofyn imi, 'A gawn ni arian ychwanegol ar gyfer hyn, a'r llall, a'r un arall?', mae angen imi gael gwybod o ble y daw gan nad oes modd cael sgwrs gytbwys nad yw'n cynnwys hynny.
Ond yna gan edrych ymlaen, mae'n amser anodd dros ben: dangosodd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a baratowyd ar gyfer datganiad y gwanwyn y bydd y twf yn parhau i fod yn siomedig am y pum mlynedd nesaf. Disgwylir i'r cynnyrch domestig gros fesul pen gynyddu ar gyfradd flynyddol gyfartalog o 1 y cant o'i gymharu â chyfradd gyfartalog hirdymor o 2.4 y cant. Mae Banc Lloegr wedi darparu rhagolwg diweddar ar gyfer yr economi ym mis Mai sy'n canolbwyntio'n fwy ar y dyfodol agos, ac mae'r rhain yn dweud, dros y 12 mis nesaf, mai cynnydd cymedrol yn unig yr ydym yn ei ddisgwyl o ran cynnyrch domestig gros, sef 1.5 y cant. Ac mae'r ddwy gyfres o ragolygon, fel ei gilydd, yn gwneud hynny yng nghyd-destun modelu ar gyfer Brexit trefnus. Felly rwy'n credu bod gwir angen inni gael gafael dda ar ba mor ddifrifol yw'r sefyllfa hon a maint y penderfyniadau anodd sy'n ein hwynebu ni.
O ran sefydlogrwydd, byddwn wrth fy modd o allu rhoi sefydlogrwydd i sefydliadau. Rwyf wedi cwrdd â rhwydwaith y trydydd sector ac rwy'n cyfarfod, ynghyd â'm cyd-Aelod Julie James, gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol yn rheolaidd. Byddem yn falch iawn o allu rhoi rhyw fath o sicrwydd i'r sefydliadau hynny, ond yn anffodus, y cwbl sydd gennym ni yw ansicrwydd ar hyn o bryd. Felly, nid oes gennym ni gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y dywedais i yn fy natganiad, bu'n rhaid imi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Cyllid i ddangos nad oes gennym unrhyw ddewis ond cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth—a'r amgylchiadau fel ag y maen nhw. Dyna'r dyddiadau diweddaraf un y gallwn ni wneud hynny ac mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol imi roi gwybod i'r Pwyllgor Cyllid pryd y byddwn ni'n cyhoeddi'r dogfennau hynny.
Rwy'n credu, wrth symud ymlaen, y byddai rhyw fath o sicrwydd gan Lywodraeth y DU i'w groesawu'n fawr. Ond rwy'n fwyfwy argyhoeddedig y byddwn ni'n edrych ar gyllideb dreigl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Awgrymodd y ddau ymgeisydd am y Brifweinidogaeth y gallen nhw gyflwyno cyllideb ym mis Medi, felly byddwn ni'n edrych yn eiddgar ar hynny. A fyddai honno'n gyllideb sy'n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni o ran y tymor hwy neu beidio, neu a fyddai'n rhyw fath o gyllideb etholiad gyda rhoddion i'r rhai sy'n talu trethi uchel, fel yr awgrymodd rhai o'r ymgeiswyr, fe gawn ni weld, ond mae'n annhebygol iawn y byddai o unrhyw fudd i Gymru yng nghyd-destun gweld diwedd ar gyni.
Nid wyf yn rhannu barn hwyliog Nick Ramsay, ar hyn o bryd, mae'n rhaid imi ddweud; rwy'n credu bod cyni'n achosi pob math o broblemau a niwed difesur i unigolion a chymunedau, ac erydiad y gefnogaeth a'r gwasanaethau i bobl ledled Cymru, ac, wrth gwrs, nid oes llawer o obaith y bydd newid yn hynny o beth. Ym mis Mai, ysgrifennodd Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mewn adroddiad, ac rwy'n dyfynnu:
Byddai gadael yr UE yn debygol o gynyddu benthyciadau rhwng £20 a £40 biliwn yn 2019-20. Byddai cyrraedd balans y gyllideb o'r fan honno... yn gofyn am flwyddyn neu ddwy arall o galedi ar y cyfraddau presennol o doriadau gwariant.
Felly, nid yw'r rhagolygon cystal ag y byddai rhai pobl yn dymuno iddyn nhw fod. Ac wrth gwrs, at hynny gallwn ychwanegu'r pryderon ynghylch a fydd Cymru yn cael arian gan Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i'r hyn yr ydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Hynny yw, fe wnaethon nhw addewidion ynghylch pensiynau, a thynnwyd sylw at hyn fel rhywbeth a oedd yn gamarweiniol, oherwydd ni chawsom yr arian ar ddiwedd y dydd. Felly, mae yna bryderon gwirioneddol, ond, wrth gwrs, nid oes angen imi gael clywed gan y Gweinidog am y problemau; rwy'n gwybod am y problemau. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w wybod yw beth yr ydych chi'n ei wneud i ymdrin â rhai o'r materion hynny a mynd i'r afael â nhw. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael â Llywodraeth y DU o ran cyllido yn y dyfodol? Gwyddom am yr amwysedd neu'r ymgais i osgoi ymrwymo i dalu i'r gronfa ffyniant gyffredin. Wel, beth ydych chi'n ei wneud, felly, i sicrhau ein bod ni'n cael rhyw fath o eglurder?
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros faterion gwledig, wrthym ychydig wythnosau yn ôl nad oedd ganddi syniad faint o arian yr oedd hi'n mynd i'w gael, os unrhyw arian o gwbl, yn achos Brexit 'heb gytundeb'. Felly, mae eisiau sicrwydd arnom oddi wrthych chi, fel Gweinidog, eich bod chi'n arwain y gad o'r tu blaen ac nid yn codi eich ysgwyddau a dweud, 'Wel, nid ydym yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ac mae popeth yn y tywyllwch.' Rwy'n credu bod angen inni glywed, mewn gwirionedd, eich bod chi'n mynd â'r frwydr at Lywodraeth y DU.
Nawr, mae sylwadau diweddar Boris Johnson ynghylch yr hyn yr hoffai ef ei wneud gydag arian sy'n cael ei wario yng Nghymru yn destun pryder hefyd, wrth gwrs, a hoffwn i wybod beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod unrhyw wariant ar seilwaith Llywodraeth y DU yn ategu blaenoriaethau Cymru. Oherwydd mae perygl y byddwn ni, yn y pen draw, yn cael rhyw fath o ymhonni ariannol digyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ceisio rhagori ar ei gilydd heb fod yn gydgysylltiedig, ac mae angen inni wneud yn siŵr eich bod chi'n gweithio'n gydlynus i gael y gwerth gorau am ein harian.
Gan ganolbwyntio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ryddhau ei chyllideb ei hun, wrth gwrs, roeddem ni'n gobeithio gweld ychydig mwy o newid pendant o ran ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd yn flaenorol. Rwy'n deall mai ymarfer tacluso yw hwn, neu dyna mae pobl yn ei ddweud wrthym ni. Felly rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb nesaf a fydd yn ymddangos rywbryd yn yr hydref yn dangos newid amlwg o ran adnoddau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nid ydym wedi gweld unrhyw gostau o ran cynllun cyflawni carbon isel y Llywodraeth, wrth gwrs. O gofio bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi gwneud rhywfaint o waith ar gyllideb y llynedd, gan nodi mai dim ond 1 y cant o'r gyllideb honno a glustnodwyd mewn gwirionedd ar gyfer gweithredu uniongyrchol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, tybed a fyddwn ni'n gweld, fel y dywedais i, unrhyw newid sylweddol o ran adnoddau tuag at ddatgarboneiddio hefyd. Hoffwn i glywed beth yw eich cynlluniau chi yn hynny o beth.
Hoffwn i ofyn hefyd am gyllidebau amlflwydd. Rwy'n gwybod nad oes gan Lywodraeth Cymru y moethusrwydd hwnnw sydd gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweld yn yr Alban fod y Llywodraeth yno yn cynnwys agweddau ar gyllidebau amlflwydd yn eu cyllidebau. Yn fwy diweddar, roedden nhw'n cynnwys dyraniadau aml-flwyddyn ar gyfer dysgu cynnar a gofal plant a chysylltedd digidol, felly hoffwn i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori elfennau o gyllidebu amlflwydd yn eich cyllideb nesaf, er, wrth gwrs, eich bod chi'n gwneud hynny mewn amgylchiadau anodd iawn.
Yn olaf, rydych chi'n dweud yn eich datganiad y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i chi o ran cyllid. Wel, yr hyn yr wyf i am ei wybod yw sut y bydd eich cyllideb chi'n ymdrin ymhellach â dull ataliol, oherwydd, unwaith eto, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi tynnu sylw at y modd y mae 94 y cant o wariant y GIG yng Nghymru yn mynd ar wasanaethau aciwt a thrydyddol. Felly, a ydym ni'n mynd i weld hynny'n dechrau newid wrth ichi roi'r pwyslais y dywedwch wrthym ni eich bod yn awyddus i'w roi ar y dull ataliol?
Wrth gwrs, y dull ataliol mwyaf, mae'n debyg, yw buddsoddi mwy mewn addysg, gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu magu'n fwy ymwybodol o bwysigrwydd eu lles eu hunain, o ffyrdd o fyw iachach, a bod yn ddinasyddion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a deall pa effaith amgylcheddol y gallai eu gweithredoedd nhw ei chael. Felly, pryd wnaiff Llywodraeth Cymru wynebu'r argyfwng ariannu yn ein hysgolion, ac a wnewch chi sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen i allu cyflawni'r canlyniadau hynny y mae pawb ohonom ni'n dymuno eu gweld?
Rwy'n diolch i Llŷr Gruffydd am y sylwadau hynny. Y pwynt cyntaf a wnaeth ef oedd: a ydym ni'n mynd â'r frwydr at Lywodraeth y DU? Wel, ydym, es i â'r frwydr at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf. Roeddwn i'n cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o EUExTP, sef y pwyllgor paratoi ar gyfer masnach ac ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sy'n is-bwyllgor i Gabinet y DU, y mae gan Lywodraeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig yr hawl i'w fynychu. Felly, fe wnes i'r pwyntiau yn y cyfarfodydd hynny nad ydym ni, mewn gwirionedd, wedi cael sgwrs eto o ran pa gyllid a allai ddod i Gymru pe byddai Brexit 'heb gytundeb'. Fe wnes i'r pwynt ei bod hi'n anfoddhaol iawn ein bod ni'n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol o gael Brexit 'heb gytundeb' heb gael y sgyrsiau hynny na sicrwydd gan Lywodraeth y DU yn hynny o beth. Felly, nid yw Llywodraeth y DU yn y tywyllwch ynglŷn â safbwynt Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwnnw.
Wrth gwrs, rydym bob amser yn mynd i'r cyfarfodydd hyn ac yn dadlau achos Cymru drwy'r cyfan. Y gronfa ffyniant gyffredin, er enghraifft. Rwyf wedi codi'r achos hwnnw eto gyda James Brokenshire ar ôl y bleidlais unfrydol a gawsom ni yma yn y Cynulliad pan gafwyd cefnogaeth pawb i'r cynnig, a gyflwynwyd ar y cyd gan dair o'n pleidiau, a ddywedodd nad oeddem eisiau cael yr un geiniog yn llai, a bod yn rhaid inni sicrhau nad oedd y gronfa ffyniant gyffredin yn gyfle i lithro'n ôl oddi wrth y setliad datganoli, ac y dylai penderfyniadau ar y gronfa honno gael eu gwneud yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o waith wedi digwydd dros y 18 mis diwethaf a fyddai'n nodi'n eglur iawn beth fyddai blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol cyllid rhanbarthol. Felly, byddem ni'n edrych ar fframweithiau aml-flwyddyn, byddem ni'n edrych ar y cyfle mwy eang i weld cymunedau yn rhoi eu barn o ran cyfeiriad y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ynghylch y cronfeydd rhanbarthol hynny. Felly, rydym wedi bod yn glir iawn yn y dogfennau a gyhoeddwyd gennym ac yn y gwaith y mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn ei wneud yn y grŵp sy'n edrych ar ddyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru hefyd.
O ran sylwadau Boris Johnson, fe ddywedodd ef na fyddai gennym ni lai o arian, felly rydym ni'n croesawu hynny, ond fe ddywedodd bryd hynny hefyd y byddai cyllid rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit yn elwa ar ddylanwad y Ceidwadwyr o ran gwerth am arian. Wel, wrth gwrs, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi edrych ar ddylanwad y Ceidwadwyr a gwerth am arian, ac wedi ystyried un o'r cronfeydd y maen nhw wedi ei gweinyddu yn lleol, ac fe gafwyd nad oedd unrhyw ganlyniadau gwirioneddol i'r cyllid hwnnw. Felly, nid wyf i'n credu y gallwn ni ddysgu oddi wrth y Ceidwadwyr am faterion gwerth am arian.
Mae problem argyfwng yr hinsawdd yn fyw iawn ac yn real iawn i bawb ohonom. Rydym yn cael y trafodaethau hyn ar hyn o bryd, wrth ddechrau ystyried y paratoadau ar gyfer ein cyllideb nesaf. Ond peidied neb â dychmygu nad oes gwaith da wedi cael ei wneud yn y maes hwn ers blynyddoedd. Felly, erbyn diwedd y tymor Llywodraeth hwn, rydym yn disgwyl y bydd bron £70 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ynni yn y sector cyhoeddus, gyda'r disgwyliad o £650 miliwn o arbedion ariannol ar ynni, ac rydym yn disgwyl 2.5 miliwn tunnell o garbon deuocsid yn llai o allyriadau dros gyfnod yr asedau hynny. Rydym eisoes yn ystyried effaith carbon wrth ddyrannu cyllid cyfalaf, ac roedd hwn yn ffactor allweddol, er enghraifft, pan fuddsoddwyd £50 miliwn i ddatblygu gorsaf drenau newydd yn Llanwern, ynghyd â chyfleusterau parcio a theithio helaeth a gwelliannau i'r lein. Ac fel rhan o'n hadolygiad hanner ffordd o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, rydym wedi rhoi £60 miliwn dros dair blynedd i raglen gyfalaf Cymru gyfan y GIG, gan gynnwys cymorth i ddisodli'r fflyd o ambiwlansys â modelau carbon is mwy cyfoes. Felly, nid yw'n fater o ddeffro'n sydyn un diwrnod a sylweddoli bod yr amgylchedd yn bwysig. Mae hyn wedi bod wrth galon holl waith y Llywodraeth hon, ac rydym yn cydnabod bod angen inni, o fewn cyd-destun yr argyfwng, gynyddu ein huchelgeisiau a symud ymlaen â hynny.
Yr agenda ataliol—buom yn gweithio'n agos iawn gyda chomisiynydd lles cenedlaethau'r dyfodol i gytuno ar ddiffiniad o 'atal', sef yr un yr ydym ni'n ei ddefnyddio ledled y Llywodraeth erbyn hyn, ac, yn amlwg, rydym ni'n awyddus i weld mwy o fuddsoddi mewn atal, oherwydd yn amlwg, mae arbedion iddo yn y tymor hwy. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes gennym ni yr achosion acíwt i ymdrin â nhw hefyd. Mae gwaith da yn digwydd yn swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o ran datblygu'r dull hwnnw o wirio'r daith yr ydym ni wedi bod yn siarad amdani, sy'n dangos sut y byddwn ni'n ymgorffori deddf cenedlaethau'r dyfodol yn well ym mhob un o'n penderfyniadau ynglŷn â chyllideb a'n dulliau o wneud penderfyniadau. Soniwyd yn gynharach heddiw am adroddiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, lle awgrymodd £1 biliwn o gyllid ar gyfer yr hyn y byddai hi'n ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y gyllideb nesaf. Nawr, mae hwnnw'n gyfraniad defnyddiol iawn i'r drafodaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod â hi i drafod hynny ymhellach. Rwyf i o'r farn mai'r her i'r comisiynydd, a'r her a roddaf i'r holl Aelodau a phawb arall yr wyf yn cael trafodaethau â nhw ynglŷn â'r gyllideb, yw os ydym ni'n gofyn am gyllid ychwanegol mewn un man, yna bydd yn rhaid inni gael gwybod ymhle y byddwn i'n dadfuddsoddi mewn ymateb i hynny. Rwyf hefyd yn awyddus i ddeall y manylion yn union o ran yr allyriadau carbon y byddem ni'n disgwyl eu gweld o ganlyniad i'r mesurau hynny yn y cynllun 10 pwynt a gynhyrchodd y comisiynydd, ond rwy'n edrych ymlaen at gael y trafodaethau manylach hynny gyda hi'n fuan.
Hoffwn i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad, sy'n rhoi rhybudd plaen i ni am yr heriau sydd o'n blaenau, yr heriau sy'n cael eu gwaethygu gan bolisïau economaidd aflwyddiannus Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i'n croesawu eich sylwadau ar yr ormodiaith beryglus a glywsom ni gan y ddau ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Rydych chi wedi cyfeirio at rywfaint o hynny yn eich atebion i'r Aelodau eraill, ond hoffwn i ofyn i chi yn benodol a ydych chi'n cytuno â mi mai'r dystiolaeth, er enghraifft, o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, yw bod cynigion Boris Johnson ar dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol mewn gwirionedd am sicrhau'r budd mwyaf i'r rhai ar yr incwm uchaf yn y gymdeithas, ac a ydych chi'n cytuno â mi, hefyd, y byddai hyn yn gweld cwtogi pellach ar yr arian sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus ledled y DU, ac, wrth gwrs, yma yng Nghymru?
Gweinidog, rydych chi wedi egluro inni fod ansicrwydd mawr ynglŷn â chynlluniau gwariant yn y dyfodol, ac mae'r ansicrwydd hwn yn amlwg yn cael ei waethygu yn niffyg adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gyda hynny mewn golwg, sut yn union y mae hynny'n effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gynllunio ar y cyd â phartneriaid mewn Llywodraeth Leol, busnes a'r trydydd sector?
Rwy'n diolch i Vikki Howells am godi'r pwyntiau hyn, ac yn arbennig y gydnabyddiaeth nad yw rhai o'r polisïau na'r cynigion a gyflwynwyd gan y ddau Brif Weinidog newydd posibl yn sicr yn flaengar iawn, ac yn sicr bydden nhw o fudd i'r cyfoethogion, ac nid ydynt yn cynnig dim i bobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Ond mae'n debyg iawn mai dyna yw'r sefyllfa yn yr ystyr eu bod nhw'n ceisio tynnu sylw at eu hunain. Nid oes angen iddyn nhw ond bodloni nifer fechan o bobl sy'n aelodau o'r Blaid Geidwadol i allu cerdded i mewn i rif 10. Ac, yn amlwg, nid yw bod yn flaengar a cheisio cyflwyno polisïau a fydd yn cefnogi'r bobl sydd dan y pwysau mwyaf, mewn cyfnod anodd, ac sy'n dwyn baich cyni, yn flaenoriaeth iddyn nhw.
Rydym ni'n ceisio modelau ar hyd gwahanol lwybrau, gan edrych ar bethau a allai ddigwydd fel y gallwn ni gael gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae hynny'n ei olygu i Gymru. Felly, nid ydym yn disgwyl gwybod beth yw cwantwm ein cyllidebau tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ond rydym yn edrych ar wahanol senarios, ac maen nhw'n amrywio o rai amodau sy'n ffafriol i amodau sy'n achosi llawer o bwysau. Ac mae un o'r rhai yr ydym ni'n eu modelu yn ymwneud â pharatoi ar gyfer ymadawiad 'heb gytundeb' â'r Undeb Ewropeaidd. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd ein dadansoddiad economaidd diweddaraf o gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael â'r UE, ac fe dynnodd hynny sylw, yn y sefyllfa waethaf un, at gynnyrch domestig gros sydd efallai rhwng 7.75 y cant a 10 y cant yn is nag yr oedd ym mis Mai 2016 erbyn diwedd 2023, os digwydd Brexit anffafriol. Mae hwn yn lleihad mwy difrifol nag a welwyd yn ystod y dirwasgiad a ddechreuodd yn 2008. Mae dadansoddiadau dilynol gan y banc yn awgrymu y gallai paratoi mesurau lliniaru addas osgoi'r effaith waethaf, i ryw raddau, ond byddai hwnnw'n dal i fod yn debyg o ran ei faint i'r dirwasgiad diwethaf. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod ni'n modelu pob math o ganlyniadau posibl, ac yn sicr yn edrych yn ofalus iawn ar yr effaith y gallai'r addewidion amrywiol a wneir gan yr ymgeiswyr Ceidwadol am y Brifweinidogaeth ei chael ar Gymru.
Mae Vikki Howells yn iawn i nodi'r ffaith nad oes gennym adolygiad cynhwysfawr o wariant ac nad oes gennym gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a hynny mewn gwirionedd sydd wrth wraidd y diffyg eglurder sydd gennym ni. Felly, pe byddem yn gweld cyllideb dreigl yn cael ei chyflwyno am flwyddyn heb yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y flwyddyn, er enghraifft, byddai hynny'n golygu, ar sail debyg am debyg, y byddai awdurdodau lleol £111 miliwn ar eu colled. Felly, rwyf i o'r farn fod yr heriau sy'n ein hwynebu yn rhai enbydus iawn, ac mae diffyg gwybodaeth yn gwneud pethau'n anodd.
Pan oeddwn i'n cynllunio ar gyfer busnes yr wythnos hon, rwy'n credu mai dydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd hi, roeddwn i'n edrych drwy rywfaint o'r hyn y byddem yn ei wneud ac fe welais i'r datganiad hwn, 'Rhagolygon y Dyfodol ar gyfer Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru', ac roeddwn i'n llawn cyffro. Credais y byddem yn edrych ar rai o'r materion pwysig, hirdymor sy'n effeithio ar wariant cyhoeddus yng Nghymru: demograffeg Cymru, y boblogaeth sy'n heneiddio, effaith colli'r to iau i Loegr. Beth allwn ni ei wneud i gadw mwy o'r bobl iau sy'n cynhyrchu trethi yn ein heconomi ni, yn enwedig pan mae gennym gyfraddau treth incwm i Gymru nawr? Pam mae ein poblogaeth ni'n heneiddio cymaint, o'i chymharu â Lloegr? A oes gennym ni'r ysgogiadau, ac a fyddwn ni'n ystyried defnyddio unrhyw rai o'r ysgogiadau hynny i effeithio ar y ddemograffeg, hyd yn oed ar yr ymylon, efallai? Beth yw'r heriau hynny? Sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer hyn? Ond yn hytrach, dyma'r hyn gawsom ni. Hynny yw, yr holl gwyno. Rydym newydd gael lliaws o gwynion. Wrth edrych ymlaen degawd, rydym fel pe baem yn mynd yn ôl degawd, a'r cyfan a gawsom oedd cwyno diflas am gyni. Fe glywsom ni fod gan Lywodraeth y DU raglen barhaus o gyni, mai naratif Llywodraeth y DU oedd bod cyni'n dod i ben, a bod y gwirionedd yn wahanol iawn. Ac yna rydych chi'n rhoi'r pleser inni o'r gymhariaeth rhwng 2023—wel, mae hynny'n edrych ymlaen o leiaf. Ond rydych chi'n mynd yn ôl i 2009-10. Hynny yw, beth sydd a wnelo hynny â chyni'n dod i ben? Yn sicr, yr hyn sy'n bwysig, o leiaf yn hyn o beth, yw: beth yw'r gyllideb eleni o'i chymharu â'r llynedd? Sut y gallai fod y flwyddyn nesaf o'i chymharu â'r flwyddyn hon? A oes yna duedd ar gyfer newid? A ydym mewn gwirionedd yn mynd i ddechrau cael ychydig mwy o arian eto? Ac eto i gyd, y cyfan yr ydych chi'n sôn amdano yw cyni, ac ni chredaf fod hynny'n ddefnyddiol iawn. [Torri ar draws.] Wel, os hoffech edrych ar fy nghofnod pleidleisio, fe welwch fod rhai ohonyn nhw na wnes i bleidleisio o'u plaid.
Ond, hynny yw, gadewch i ni—. Un peth da os daw Boris i mewn yw y ceir rhywfaint o optimistiaeth, o bosib. Dyna un peth y gallwch ei ddweud o'i blaid ef. Boed hynny ar sail gadarn neu beidio, fe gawn ni weld. Ni fynegwyd unrhyw beth cadarnhaol, i mi ei gofio o leiaf, yn y datganiad hwnnw. Y bore yma, ydych chi wedi edrych ar y ffigurau economaidd a gyhoeddwyd heddiw? Saith deg a chwech y cant mewn cyflogaeth ledled y DU—y mwyaf erioed. Ni welwyd erioed gyflogaeth ar y raddfa honno o'r blaen. Ac mae cyflogau yn codi 3.6 y cant o flwyddyn i flwyddyn. Mae hynny'n fwy nag yr ydym ni wedi ei weld—yn sylweddol fwy nag yr ydym wedi ei weld—ers y degawd diwethaf. Mewn termau gwirioneddol, y cynnydd yna o 3.6 y cant, chwyddiant ar 2 y cant—. Rydym ni'n gweld cyflogau gwirioneddol yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn rhwng 1.5 a 2 y cant nawr, ac eto rydym ni'n dal i weld mwy o gyflogaeth yn cael ei greu ar ben hynny. Felly, os edrychwch chi ar greu swyddi yn agos at 1 y cant o hyd, o flwyddyn i flwyddyn, a'r twf cyflog gwirioneddol o 1.5 i 2 y cant ar ben hynny hefyd, fe allech chi fod yn edrych ar dwf mewn incwm cyflogaeth yn y flwyddyn sydd i ddod o 2.5 i 3 y cant mewn termau real. Siawns nad yw hynny'n rhoi'r cyfle i gynnyrch domestig gros siomi ar yr ochr orau, o'i gymharu â rhai o'r rhagolygon digalon yr ydych chi wedi bod yn sôn amdanyn nhw. Rydym hefyd wedi gweld, o leiaf ar lefel y DU—nid ydych chi'n rhoi'r rhifau inni yma—rai pethau annisgwyl yn dod i'r wyneb o ran sut y mae niferoedd benthyca wedi bod yn dod i mewn. Un o'r prif ffactorau sy'n ysgogi'r niferoedd benthyca hynny yw'r incwm cyflogaeth hwnnw. Mae'n hynod bwysig i'r dreth a gesglir, ac mae rhai o'r meysydd—yr unig rai yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw—lle mae'r economi yn siomedig, er enghraifft buddsoddiad, yn rhai nad ydyn nhw'n feysydd lle cesglir llawer iawn o dreth. Os oes gennych chi lefel benodol o gynnyrch domestig gros, os ydych chi'n gweld symudiad i ffwrdd oddi wrth fuddsoddiad tuag at incwm cyflogaeth, o leiaf yn y byrdymor mae effaith ariannol hynny'n beth cadarnhaol iawn, oherwydd eich bod chi'n casglu mwy o dreth yn ei sgil. Ni chlywsom ddim am hynny o gwbl, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy siomi â'r agwedd honno.
Mae gennych chi'r teitl hwn sy'n dwyn Jeffrey Archer i gof, fel yr awgrymodd Nick Ramsay—heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym—ac, unwaith eto, mae eich pwyslais chi ar yr anfanteision. Fe allech chi fod o leiaf wedi gwrando ar eich Prif Weinidog yn y datganiad blaenorol. Roedd ef yn llawer mwy cadarnhaol. Fe ddywedodd ef y byddwn ni'n etifeddu miloedd o bwerau a swyddogaethau newydd mewn meysydd polisi a oedd yn cael eu pennu gan gyfreithiau'r UE yn y gorffennol. Siawns nad yw hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Mae'n amlwg bod trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ac eraill ynghylch sut yn union y bydd y gronfa ffyniant a rennir yn gweithio. Nawr, dywedodd Boris fod angen gwrthdroi'r penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4, a dywedodd y bydd gan Weinidogion Ceidwadol ddylanwad mawr ar sut y caiff yr arian ei wario,. Felly rwy'n casglu o hynny y gallai Llywodraeth y DU fod yn cynnig talu am ffordd liniaru'r M4, neu o leiaf am gyfran sylweddol ohoni. Nawr, yn sicr, o ystyried yr effaith y gallai hynny ei chael ar hybu ein heconomi ni, a helpu pobl ifanc i aros yng Nghymru—pa ffordd well i hybu ffyniant a rennir nag ariannu ffordd liniaru'r M4?
Onid yw hi'n amser i'r Gweinidog ddechrau edrych ar yr hyn sy'n gadarnhaol, neu rai o leiaf o'r elfennau cadarnhaol? Rwy'n ddigon hapus i gynllunio ar gyfer senarios sy'n llai cadarnhaol, ond mae'r niferoedd o Fanc Lloegr a ddyfynnodd—y senario gwaethaf posib i ddechrau, a chawsant eu diystyru erbyn hyn gan eu bod nhw'n hurt. Maen nhw'n seiliedig ar y dybiaeth nad yw pobl yn ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau economaidd, ond y maen nhw'n ymateb, a dyna sy'n ysgogi cynnydd y ddynoliaeth. Felly, gadewch inni gael tamaid bach o optimistiaeth.
Nid wyf i am honni fod yna newyddion da o ran cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Tair ffaith yn unig o gyfraniad Mark Reckless—wel, un o'm datganiad i, a dau o'i gyfraniad ef. Y ffaith o'm datganiad i yw bod 50 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd ar gyflogau. Mae Mark Reckless yn dweud wrthym fod cyflogau'n codi flwyddyn ar ôl blwyddyn; mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn. Felly gadawaf i Mark Reckless ymdrin â'r fathemateg o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu o ran y pwysau ar Lywodraeth Cymru a'r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i ni eu hwynebu.
Mae'r prif economegydd wedi darparu ei adroddiad, fel y bydd yn ei wneud eto yn yr hydref eleni, a byddwn ni'n ei gyhoeddi ar y cyd â'n cyllideb ddrafft. Mae e'n edrych i'r tymor hirach. Mae'r adroddiad diweddaraf yn cynnwys amrywiaeth o gasgliadau pwysig, gan gynnwys bod Brexit yn parhau i bwyso ar ragolygon twf ar gyfer Cymru a'r DU yn gyffredinol. Bydd difrifoldeb yr effaith yn dibynnu ar y ffurf y bydd Brexit yn ei gymryd, a'r dryswch sy'n gysylltiedig â'r broses ymadael, ac mae'n debygol y caiff Cymru ei tharo'n anghymesur gan Brexit caled. Mae gwaith dadansoddiadol a wnaeth y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu y dylai'r dybiaeth o gyfnod hir o gyfyngiadau cyllidol aros yn senario craidd, canolog, ac o dan y senario is, sydd yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad, ni fyddai Llywodraeth Cymru ond yn adennill hyd at ei lefel yn 2010-11 erbyn diwedd y degawd nesaf. Felly, mae hynny'n edrych ymhellach ac, unwaith eto, nid oes llawer i fod yn arbennig o hapus yn ei gylch o ran hynny ychwaith. Felly, mae'n ddrwg gennyf os yw'r Aelod yn ystyried fod hyn yn gwynfanllyd, ond, yn anffodus, rhannu ffeithiau a wnaf i â chydweithwyr ac rwyf o'r farn y byddan nhw o gymorth inni yn ein trafodaethau wrth bennu ein cyllideb arfaethedig.
Diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n dal i fod yn gwbl sicr fod cyni yn gymhelliant gwleidyddol i guddio ymosodiad ideolegol ar y wladwriaeth a'r sector cyhoeddus gan Lywodraeth Geidwadol y DU, ac nid wyf yn mynd i ymddiheuro am ddweud hynny. Mae'n hollbwysig i'r cyd-destun a'r rhagolygon i Gymru a phobl Cymru, sef y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed. Ac rwy'n ofni bod y grŵp yn y Cynulliad sydd gyferbyn yn perthyn i deulu Torïaid y DU, er eu bod nhw'n ceisio ymbellhau oddi wrtho fel rhyw berthynas sydd ychydig yn eiddil a sigledig nad yw mewn gwirionedd eisiau gwneud unrhyw beth gydag ef o bryd i'w gilydd. Felly, Gweinidog, rwyf wedi clywed bod meinciau'r Torïaid yn dweud fy mod i'n sôn llawer am gyni, ac mae hynny oherwydd ei fod yn fy ngwylltio i. Nid wyf yn mynd i ymddiheuro am hynny ychwaith. A minnau'n Aelod Cynulliad dros Islwyn, byddaf yn parhau i sôn am gyni.
Rwy'n gynyddol bryderus bod y sefyllfa, er hynny, yn cael ei gwneud yn llawer gwaeth, fel y dywedodd y Gweinidog, oherwydd diffyg parhaol yr adolygiad cynhwysfawr o wariant gan Lywodraeth y DU, y diffyg eglurder sy'n gwneud cynllunio bron yn amhosibl, a bod hyn yn dwysáu'r effaith a gaiff y cyni parhaol. Mae hyn yn ychwanegu at y toriadau i Gymru, ac nid yw hyd yn oed yn rhoi sylw i'r chwalfa economaidd a'r niwed y gallai Brexit 'heb gytundeb' eu hachosi, materion nad ydynt, i bob golwg, yn cael sylw gan rai yn y Siambr hon. Felly, Gweinidog, a wnewch chi nodi ymhellach eich barn chi ar sut y mae effaith gronnol y cyfyngiadau hyn yn effeithio ar ein gallu ni i weithredu, er gwaethaf y rhaglen ddeddfwriaeth sy'n hynod uchelgeisiol ac arloesol?
Diolch i Rhianon Passmore am nodi'r amgylchiadau heriol yr ydym ni ynddynt, ond rwyf am bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i baratoi ar gyfer Brexit, ar ba ffurf bynnag, ac yn ceisio cymryd pa gamau lliniaru bynnag y gallwn. Felly, fe gofiwch imi gyhoeddi pecyn buddsoddi cyfalaf yn ddiweddar. Roedd hwn yn gyfran gyntaf o becyn ysgogi gwerth £85 miliwn: buddsoddwyd £50 miliwn o'r arian hwnnw mewn tai cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 650 o dai fforddiadwy ledled Cymru, a allai greu cyflogaeth ar gyfer hyd at 1,000 o bobl am flwyddyn; £5 miliwn wedi'i ddyrannu i gynnal a chadw rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru, gan sicrhau rhwydweithiau ffyrdd cadarn a dibynadwy sydd â chysylltiadau da ym mhob rhan o Gymru; a dyrannwyd £10 miliwn i gronfa dyfodol yr economi er mwyn helpu i gyflawni'r cynllun gweithredu economaidd. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i hybu cydnerthedd a chynaliadwyedd busnesau yng Nghymru ac yn annog mewnfuddsoddiad mewn amgylchedd ôl-Brexit. Ac yna roedd £20 miliwn ychwanegol ar gyfer cyllid cyfalaf Llywodraeth Leol, a byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Felly, rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, ac yn fuan byddwn yn gwneud cyhoeddiad ynghylch cyllid pellach a fydd ar gael drwy gronfa bontio'r UE, y bydd cydweithwyr yn cofio iddo fod yn £50 miliwn sy'n anelu at helpu busnesau, sefydliadau a chymdeithas Cymru i bontio drwy'r broses Brexit. Erbyn hyn dyrannwyd dros £35 miliwn o hwnnw ond, fel y dywedais, rwyf wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda chydweithwyr ynglŷn â sut y gallwn ni wneud y gorau o'r cyllid sydd ar gael yno. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n eithriadol o galed dan amgylchiadau anodd i roi cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i fusnes a chymaint o gymorth ag y gallwn ni i'n cymunedau.
Yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhaid imi ddweud, mae hwn wedi bod yn ddatganiad siomedig, braidd, Gweinidog. Gwyddom i gyd fod polisi cyni Llywodraeth y DU wedi bod yn drychinebus i Gymru—mae wedi bod yn drychineb i wariant cyhoeddus—ac rydym ni i gyd yn gwybod ei fod wedi cael effaith ar bobl ledled y wlad hon hefyd, a phobl y mae'r Gweinidog a minnau'n eu cynrychioli. Fodd bynnag, yr hyn nad ydym yn ei wybod, ac, yn anffodus, yr hyn nad ydym yn dal i'w wybod, yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ynglŷn â hyn. Beth yw ymateb y Llywodraeth? Rydym ni'n disgwyl mwy gan y Llywodraeth, a chredaf fod gennym ni bob hawl i ddisgwyl mwy gan y Llywodraeth na dim ond tynnu ystumiau ar y gwrthbleidiau yma, y Llywodraeth yn San Steffan, ac areithiau yn condemnio'r Torïaid. Yn sicr, mae pobl yn fy etholaeth i eisiau gwybod pam yr ydym ni'n ethol pobl i ddod yma. Rydym ni eisiau cael mwy nag areithiau; rydym eisiau cael mwy na phenderfyniadau.
Rwyf i'n cydnabod y niferoedd y cyfeiriodd hi atyn nhw y prynhawn yma o ran Brexit, ond mae hynny, wrth gwrs, yn atgyfnerthu'r galw a'r angen i weithredu a dull o weithredu gan y Llywodraeth sy'n mynd y tu hwnt i rethreg. Nid ydym yn gwybod dim am y sylfaen drethi sy'n datblygu. Nid ydym yn gwybod dim am ddull Llywodraeth Cymru o fynd ati i erydu'r sylfaen drethi honno o bosib. Nid ydym yn gwybod dim am y dull o weithredu polisi trethiant. Nid ydym yn gwybod dim am ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca. Ac nid ydym yn gwybod dim am sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl defnyddio cronfa wrth gefn Cymru. Mae gwariant cyhoeddus wedi'i leoli yma yn ogystal ag yn San Steffan bellach ac, fel rhywun sydd wedi ymgyrchu dros ddatganoli ar hyd ei oes fel oedolyn ac wedi ymgyrchu dros gael cyfrifoldeb yn y lle hwn ac nid ar ben arall yr M4 yn unig, mae'n hynod siomedig mai ymateb y Llywodraeth i'r heriau hyn yw beio rhywun arall yn rhywle arall. Mae'n rhaid inni gymryd cyfrifoldeb am y materion hyn yma hefyd.
Gweinidog, clywsom gan y Prif Weinidog mewn datganiad yn gynharach y prynhawn yma nad yw'n bwriadu bwrw ymlaen â'n hymrwymiad yn y maniffesto ar ddiwygio llywodraeth leol. Felly, a ninnau wedi cael ein gadael â model Redwood, llywodraethu cyn datganoli mewn gwlad sydd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth, mae gennym nawr y posibilrwydd o wario mwy ar weinyddu system lywodraethu nad oedd yn gweithio pan oedd mwy o arian ar gael i ni yn ystod Llywodraethau Blair yn Llundain. Ac mae hyn yn gofyn am fwy gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i eisiau i Lywodraeth Cymru ystyried o ddifrif sut, felly, yn y cyd-destun hwn, yr ydym ni'n mynd i ddiogelu gwasanaethau craidd. A ydym ni'n mynd i ddweud—defnyddiaf hyn fel enghraifft, Gweinidog—ein bod yn mynd i ariannu ysgolion yn uniongyrchol, y byddwn ni'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru, neu y byddwn ni'n ariannu ysgolion drwy'r consortia? Oherwydd mae'n fy nychryn bod gennym agenda ddiwygio radical ar gyfer addysg, ond nid oes gennym ni'r arian i dalu athrawon na chynorthwywyr addysgu na staff cynorthwyol mewn ysgolion i gyflawni'r pethau hanfodol.
Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn ddigon pell yn y dyfodol i feio'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Rwy'n derbyn yn llwyr y dadleuon am gyni, wrth gwrs fy mod i; rwyf wedi gwneud areithiau tebyg i'r Gweinidog yn y gorffennol. Ond byddwn yn dweud wrth y Gweinidog, o ran y dyfodol, pan ddaw hi 'nôl o'i thaith cyllideb dros yr haf, rwy'n credu y bydd y Siambr hon yn disgwyl llawer mwy ganddi nag ymosodiad ar Lywodraeth Geidwadol sy'n methu.
Felly, gwn y byddai Alun Davies wedi darllen â diddordeb y 'Cynllun gwaith polisi treth 2019' a gyhoeddais i fis Chwefror eleni ac y bydd ganddo rai cwestiynau manwl imi ar hwnnw. Ac roedd hwnnw'n nodi'r rhaglen waith ac ymchwil y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn 2019, gan adeiladu ar ganfyddiadau cynllun gwaith y llynedd, wrth gwrs. Mae'r polisi hwnnw'n nodi ein prif feysydd diddordeb ac mae'n bodoli er mwyn i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb weld yr hyn yr ydym ni'n ei archwilio. Gallant ofyn cwestiynau a chyfrannu eu barn, eu gwybodaeth a'u profiadau i lywio ein syniadau. Ac wrth gwrs, pan gyhoeddais hwnnw, gwahoddais i bawb i ymwneud â'r cynllun gwaith polisi treth hwnnw.
Bydd hefyd yn gyfarwydd, rwy'n siŵr, â'r gwaith ymchwil a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar dyfu ein sylfaen drethi yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n canolbwyntio arno'n bendant. Wrth gwrs, ni fydd rhai o'r addewidion polisi a wnaed gan ymgeiswyr am y Brifweinidogaeth yn ein helpu ni i gynyddu ein sylfaen drethi yma yng Nghymru, ond mae ein ffocws ni'n gysylltiedig iawn â'n fframwaith datblygu cenedlaethol newydd, y bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei gyhoeddi'n fuan. Ac mae hynny'n nodi sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni i sicrhau ein bod yn annog pobl i ddod i Gymru, pobl sy'n dod yma oherwydd eu bod yn gallu gwneud hynny gan eu bod yn gwybod bod Cymru yn lle da i wneud busnes, yn lle da i sefydlu busnes, ac yn lle da i greu swyddi, a fydd yn helpu pobl i wneud y gorau o'u potensial incwm eu hunain.
Rydym hefyd yn gweithio i ddatblygu cyfrifon dysgu personol, er enghraifft. Mae hyn yn rhan o'n proses gyllidebol, ac rwy'n cynnal adolygiad rhywedd ohono. Bydd y cyfrifon dysgu personol hynny ar gael i unigolion sydd mewn swyddi â chyflogau a sgiliau cymharol isel, ar hyn o bryd, a'u bod eisiau symud ymlaen o ddifrif, ac eisiau ennill rhai sgiliau a bod ag uchelgais i symud i swyddi sy'n talu'n uwch. Mae'r rhain yn gynlluniau peilot yr ydym ni'n eu hystyried o bersbectif dull cyllidebu ar sail rhywedd. Ac mae hwnnw'n ddull gweithredu newydd i ni, yr ydym yn ei ddysgu gan Wlad yr Iâ, sydd wedi bod yn gweithio ar ei dull cyllidebu ar sail rhyw ers saith mlynedd, ac rydym ni'n awyddus i weld sut y gallwn ni ddatblygu hynny yng Nghymru.
Yn sicr, rwyf wedi siarad o'r blaen mewn pwyllgor gyda'r Aelod am ddull Llywodraeth Cymru o fenthyca. Rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaethau pellach yn y pwyllgor yfory, lle byddwn ni'n edrych ar gyllid cyfalaf. Ond, yn gyffredinol, byddwn bob amser yn ceisio defnyddio cyfalaf confensiynol yn gyntaf, gan gynnwys cyfalaf trafodion ariannol, gan mai dyna'r math rhataf o gyfalaf, ac yna byddwn yn ystyried modelau ariannu mwy arloesol, megis y model buddsoddi cydfuddiannol. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig achub ar y cyfle hwn, wrth inni symud at y toriad, i nodi heriau a difrifoldeb y sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu, gyda'r bwriad o gael y trafodaethau hynny, yn ystod taith y gyllideb, lle byddaf i'n cysylltu â sefydliadau, ond hefyd â chyd-Aelodau yn y Cynulliad. Ac rwy'n awyddus iawn i wybod mwy am y gwaith y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei wneud yn ei gyfarfodydd cyllideb bord gron, a chlywed blaenoriaethau pobl Cymru drwy'r fforwm penodol hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.