Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Mae'n rhaid imi ddweud, nid wyf i'n hollol siŵr ble i ddechrau gyda'r datganiad hwn heddiw. Yn ei gyfraniad blaenorol i'r datganiad blaenorol, roedd y Gweinidog emeritws, Alun Davies—. Nid wyf yn siŵr a ydych chi'n mynd i gyfrannu i'r datganiad hwn, Alun, ond roeddech chi'n sôn eich bod chi'n edrych ymlaen at glywed am ymrwymiadau o ran gwariant. Nid wyf i'n siŵr ein bod wedi clywed rhyw lawer am unrhyw ymrwymiadau o ran gwariant gan Lywodraeth Cymru yn y datganiad hwn, ond wedi dweud hynny roedd yn dilyn ymlaen o'r datganiad blaenorol ar flaenoriaethau.
Mae'r gwyliau gwirion wedi dechrau'n gynnar eleni, mae'n amlwg. Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw ei bod hi'n siomedig fod y datganiad hwn yn brin o naws adeiladol ac arlliw cadarnhaol arferol y Gweinidog. Roedd y datganiad hwn yn ymwneud yn fwy â lladd ar Lywodraeth y DU yn hytrach na chyflwyno'r weledigaeth gadarnhaol honno gan Lywodraeth Cymru y carai pob un ohonom ni yn y Siambr hon ei gweld, y byddai'r rhai sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn hoffi ei gweld, ac, wrth gwrs , yr hoffai'r cyhoedd ei gweld. Rwyf i o'r farn, yn y cyswllt hwn, ei fod wedi bod yn gyfle a gollwyd. Yn wir, dim ond hanner ffordd drwy'r datganiad—rwy'n diolch i'r Gweinidog am gael gweld y datganiad ymlaen llaw—ond dim ond hanner ffordd drwy'r datganiad y clywsom ni am gronfeydd strwythurol yr UE, sydd wedi bod mor bwysig i economi Cymru dros gynifer o flynyddoedd. Yn wir, dim ond ar ddiwedd eich araith y gwnaethoch chi gyfeirio at y blaenoriaethau, ond mewn ystyr gyffredinol iawn wrth sôn am fynd allan at randdeiliaid. O ran,
Mae ein neges ni'n glir: heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym,
Wel, mae'n swnio ychydig fel nofel gan Jeffrey Archer, ond byddwn i'n dweud fy mod i fy hunan yn cytuno â'r farn hon. Rwy'n credu y byddai llawer o'r Aelodau yma yn cytuno nad ydym ni'n awyddus i weld un geiniog yn cael ei cholli, ac rydym wedi datgan hynny dros nifer o fisoedd a blynyddoedd erbyn hyn. Ond rwy'n credu bod y neges wedi mynd ar goll, gwaetha'r modd, yn yr holl ladd a fu'n ehangach ar Lywodraeth y DU.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau ac mae Llywodraeth y DU ymhell o fod yn ddi-fai yn hyn o beth. Ond yn hytrach na beio Llywodraeth y DU yn gyson am naw mlynedd o gyni, Gweinidog, a ydych chi wedi ystyried rhoi ychydig, o leiaf, o'r bai ar Lywodraeth Lafur flaenorol y DU a aeth i ddyledion yn llawer rhy gyflym ac a aeth yn llawer rhy drwm i'r dyledion hynny? Ac efallai—roeddwn i'n arfer dweud hyn wrth y Gweinidog Cyllid blaenorol—pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhedeg pethau bryd hynny yn hytrach na'ch perthnasau yn y Blaid Lafur yn San Steffan, efallai y byddem wedi bod mewn sefyllfa ychydig yn well. Ond rwyf am roi mantais yr amheuaeth i chi. Yn anffodus, nid oeddech chi'n rhedeg pethau bryd hynny, ac fe welwn ni nawr ganlyniad yr oferedd.
Gan droi at rai o'r manylion a oedd ar gael am y ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn natganiad y gwanwyn, roeddech chi'n dweud, os yw'r cynnydd yng nghyllideb adnoddau Cymru yn unol â therfynau gwariant adrannol adnoddau'r DU a thwf y GIG yn Lloegr yn cynyddu'n gyfatebol yng Nghymru, yna byddai gweddill cyllideb Cymru yn gostwng tuag un y cant mewn termau real rhwng 2019-20 a 2020-21.
A yw honno'n ffordd o ddweud nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gyfateb y cynnydd o ran cyllid â'r GIG yn Lloegr? Oherwydd os felly—ac rwy'n cydnabod eich bod chi'n dweud, hefyd, y byddai hynny'n arwain at ostyngiadau mewn cyllidebau eraill—ond os yw hynny'n wir, rwy'n credu bod angen inni fod yn agored gyda'r cyhoedd nad yw cyllideb y GIG yng Nghymru yn cael ei diogelu yn y ffordd y mae rhai pobl yn tybio ei bod hi. A'r diogelwch hwnnw, yn wir, y bu Ceidwadwyr Cymru yn dadlau o'i blaid yn ôl yn 2011, na ddigwyddodd bryd hynny mewn termau real. Fe ddigwyddodd o ran arian parod, ond nid mewn termau real, a chredaf ein bod ni'n dal ar ei hôl hi yma yng Nghymru yn sgil y camgymeriadau a wnaed bryd hynny.
O ran amserlen y gyllideb, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Gweinidog fod cyllidebau tair blynedd a bennir drwy adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddymunol, ac mae'n drueni nad yw Llywodraeth y DU yn teimlo y gall eu cyflwyno nhw ar hyn o bryd. Hoffwn i dynnu sylw at y ffaith mai Llywodraeth bresennol y DU oedd yn dyheu am wneud hynny o leiaf. Fel y gŵyr Llywodraeth Cymru, ac fel y gwyddom ni yn y Pwyllgor Cyllid, nid yw cyllidebau tair blynedd yn hawdd eu cyflawni. Hoffwn i ofyn i chi: a ydych yn hyderus eich bod chi'n rhoi'r math o sefydlogrwydd tymor canolig y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ei ddeisyfu, ac a ydych chi'n obeithiol o symud tuag at ymrwymo i gyllidebau tair blynedd?
O'r diwedd fe wnaethoch chi sôn am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth gloi eich cyfraniad. Tybed a fyddech chi'n rhoi mwy o fanylion inni am hynny, a hefyd am eich ymweliadau arfaethedig dros yr haf y cyfeiriwyd atynt. Mae'n fy atgoffa i ryw ychydig o daith cyllideb Jane Hutt y cyn Weinidog Cyllid. Mae Alun Davies yn cofio, ac mae'r emeritws hwn yn cofio taith cyllideb nifer o flynyddoedd yn ôl, pan aeth allan ac ymweld â rhanddeiliaid mewn llawer man yng Nghymru—taith gynhwysfawr iawn, mewn gwirionedd. Rwy'n cofio ei bod wedi dod i fy—rwy'n credu iddi fynd i bobman, mewn gwirionedd, ond mae Jane Hutt, fel y gwyddoch, yn ddiwyd iawn yn hynny o beth. Ai eich bwriad chi yw ailgynnau ysbryd y daith honno? Pa randdeiliaid yr ydych yn bwriadu cwrdd â nhw? A fydd hynny'n golygu, os goddefir yr ymadrodd, 'yr un hen rai', ynteu a ydych chi'n bwriadu mynd allan ac efallai gymryd rhywfaint o dystiolaeth gan randdeiliaid nad ydym yn ymwneud â nhw fel arfer? Byddai hynny'n golygu y byddem yn gweld dros y misoedd nesaf rywbeth y credaf yr hoffai pob Aelod Cynulliad yma ei weld, sef cyllideb sy'n wirioneddol yn adlewyrchu nid yn unig fuddiannau Aelodau'r Cynulliad yma, ond buddiannau pobl Cymru, ac sydd o fudd, yn wir, i economi Cymru yn y dyfodol?