Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Diolch. Rwy'n falch o'r cyfle i ymateb i'r sylwadau hynny. Ni wnaed ymrwymiadau o ran gwariant yn y datganiad hwn heddiw oherwydd nid gwneud ymrwymiadau o ran gwariant oedd ei ddiben, y bwriad oedd amlinellu'r rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y dyfodol yng Nghymru ymlaen llaw, ac yna, gyflwyno ymrwymiadau o fewn y cyfyngiadau a fydd arnom ni. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cael y cyfle hwn i egluro'r sefyllfa oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn amser inni ddeall beth yw realiti'r anawsterau yr ydym ni'n eu hwynebu. Felly, nid oedd unrhyw newyddion da yn y datganiad; cyfres o ffeithiau sy'n annymunol iawn yng ngolwg llawer ohonom ni, ond maen nhw'n adlewyrchu'r sefyllfa yr ydym ynddi.
Ar sail debyg am debyg, mae cyllideb Llywodraeth Cymru 5 y cant yn is mewn termau real erbyn hyn nag yr oedd yn 2010-11. Dewis gwleidyddol yw hwn; dyma ddewis a wnaeth Llywodraeth y DU o ran cyni, ac rwy'n credu bod yr hawl gennym i dynnu sylw at hynny. Felly, pan fydd pobl yn gofyn imi, 'A gawn ni arian ychwanegol ar gyfer hyn, a'r llall, a'r un arall?', mae angen imi gael gwybod o ble y daw gan nad oes modd cael sgwrs gytbwys nad yw'n cynnwys hynny.
Ond yna gan edrych ymlaen, mae'n amser anodd dros ben: dangosodd rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a baratowyd ar gyfer datganiad y gwanwyn y bydd y twf yn parhau i fod yn siomedig am y pum mlynedd nesaf. Disgwylir i'r cynnyrch domestig gros fesul pen gynyddu ar gyfradd flynyddol gyfartalog o 1 y cant o'i gymharu â chyfradd gyfartalog hirdymor o 2.4 y cant. Mae Banc Lloegr wedi darparu rhagolwg diweddar ar gyfer yr economi ym mis Mai sy'n canolbwyntio'n fwy ar y dyfodol agos, ac mae'r rhain yn dweud, dros y 12 mis nesaf, mai cynnydd cymedrol yn unig yr ydym yn ei ddisgwyl o ran cynnyrch domestig gros, sef 1.5 y cant. Ac mae'r ddwy gyfres o ragolygon, fel ei gilydd, yn gwneud hynny yng nghyd-destun modelu ar gyfer Brexit trefnus. Felly rwy'n credu bod gwir angen inni gael gafael dda ar ba mor ddifrifol yw'r sefyllfa hon a maint y penderfyniadau anodd sy'n ein hwynebu ni.
O ran sefydlogrwydd, byddwn wrth fy modd o allu rhoi sefydlogrwydd i sefydliadau. Rwyf wedi cwrdd â rhwydwaith y trydydd sector ac rwy'n cyfarfod, ynghyd â'm cyd-Aelod Julie James, gyda'r is-grŵp cyllid llywodraeth leol yn rheolaidd. Byddem yn falch iawn o allu rhoi rhyw fath o sicrwydd i'r sefydliadau hynny, ond yn anffodus, y cwbl sydd gennym ni yw ansicrwydd ar hyn o bryd. Felly, nid oes gennym ni gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fel y dywedais i yn fy natganiad, bu'n rhaid imi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Cyllid i ddangos nad oes gennym unrhyw ddewis ond cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth—a'r amgylchiadau fel ag y maen nhw. Dyna'r dyddiadau diweddaraf un y gallwn ni wneud hynny ac mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol imi roi gwybod i'r Pwyllgor Cyllid pryd y byddwn ni'n cyhoeddi'r dogfennau hynny.
Rwy'n credu, wrth symud ymlaen, y byddai rhyw fath o sicrwydd gan Lywodraeth y DU i'w groesawu'n fawr. Ond rwy'n fwyfwy argyhoeddedig y byddwn ni'n edrych ar gyllideb dreigl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Awgrymodd y ddau ymgeisydd am y Brifweinidogaeth y gallen nhw gyflwyno cyllideb ym mis Medi, felly byddwn ni'n edrych yn eiddgar ar hynny. A fyddai honno'n gyllideb sy'n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni o ran y tymor hwy neu beidio, neu a fyddai'n rhyw fath o gyllideb etholiad gyda rhoddion i'r rhai sy'n talu trethi uchel, fel yr awgrymodd rhai o'r ymgeiswyr, fe gawn ni weld, ond mae'n annhebygol iawn y byddai o unrhyw fudd i Gymru yng nghyd-destun gweld diwedd ar gyni.