Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Nid wyf yn rhannu barn hwyliog Nick Ramsay, ar hyn o bryd, mae'n rhaid imi ddweud; rwy'n credu bod cyni'n achosi pob math o broblemau a niwed difesur i unigolion a chymunedau, ac erydiad y gefnogaeth a'r gwasanaethau i bobl ledled Cymru, ac, wrth gwrs, nid oes llawer o obaith y bydd newid yn hynny o beth. Ym mis Mai, ysgrifennodd Paul Johnson, cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mewn adroddiad, ac rwy'n dyfynnu:
Byddai gadael yr UE yn debygol o gynyddu benthyciadau rhwng £20 a £40 biliwn yn 2019-20. Byddai cyrraedd balans y gyllideb o'r fan honno... yn gofyn am flwyddyn neu ddwy arall o galedi ar y cyfraddau presennol o doriadau gwariant.
Felly, nid yw'r rhagolygon cystal ag y byddai rhai pobl yn dymuno iddyn nhw fod. Ac wrth gwrs, at hynny gallwn ychwanegu'r pryderon ynghylch a fydd Cymru yn cael arian gan Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i'r hyn yr ydym yn ei dderbyn ar hyn o bryd. Hynny yw, fe wnaethon nhw addewidion ynghylch pensiynau, a thynnwyd sylw at hyn fel rhywbeth a oedd yn gamarweiniol, oherwydd ni chawsom yr arian ar ddiwedd y dydd. Felly, mae yna bryderon gwirioneddol, ond, wrth gwrs, nid oes angen imi gael clywed gan y Gweinidog am y problemau; rwy'n gwybod am y problemau. Yr hyn yr wyf yn awyddus i'w wybod yw beth yr ydych chi'n ei wneud i ymdrin â rhai o'r materion hynny a mynd i'r afael â nhw. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael â Llywodraeth y DU o ran cyllido yn y dyfodol? Gwyddom am yr amwysedd neu'r ymgais i osgoi ymrwymo i dalu i'r gronfa ffyniant gyffredin. Wel, beth ydych chi'n ei wneud, felly, i sicrhau ein bod ni'n cael rhyw fath o eglurder?
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros faterion gwledig, wrthym ychydig wythnosau yn ôl nad oedd ganddi syniad faint o arian yr oedd hi'n mynd i'w gael, os unrhyw arian o gwbl, yn achos Brexit 'heb gytundeb'. Felly, mae eisiau sicrwydd arnom oddi wrthych chi, fel Gweinidog, eich bod chi'n arwain y gad o'r tu blaen ac nid yn codi eich ysgwyddau a dweud, 'Wel, nid ydym yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd ac mae popeth yn y tywyllwch.' Rwy'n credu bod angen inni glywed, mewn gwirionedd, eich bod chi'n mynd â'r frwydr at Lywodraeth y DU.
Nawr, mae sylwadau diweddar Boris Johnson ynghylch yr hyn yr hoffai ef ei wneud gydag arian sy'n cael ei wario yng Nghymru yn destun pryder hefyd, wrth gwrs, a hoffwn i wybod beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod unrhyw wariant ar seilwaith Llywodraeth y DU yn ategu blaenoriaethau Cymru. Oherwydd mae perygl y byddwn ni, yn y pen draw, yn cael rhyw fath o ymhonni ariannol digyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ceisio rhagori ar ei gilydd heb fod yn gydgysylltiedig, ac mae angen inni wneud yn siŵr eich bod chi'n gweithio'n gydlynus i gael y gwerth gorau am ein harian.
Gan ganolbwyntio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ryddhau ei chyllideb ei hun, wrth gwrs, roeddem ni'n gobeithio gweld ychydig mwy o newid pendant o ran ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd yn flaenorol. Rwy'n deall mai ymarfer tacluso yw hwn, neu dyna mae pobl yn ei ddweud wrthym ni. Felly rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb nesaf a fydd yn ymddangos rywbryd yn yr hydref yn dangos newid amlwg o ran adnoddau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Nid ydym wedi gweld unrhyw gostau o ran cynllun cyflawni carbon isel y Llywodraeth, wrth gwrs. O gofio bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi gwneud rhywfaint o waith ar gyllideb y llynedd, gan nodi mai dim ond 1 y cant o'r gyllideb honno a glustnodwyd mewn gwirionedd ar gyfer gweithredu uniongyrchol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, tybed a fyddwn ni'n gweld, fel y dywedais i, unrhyw newid sylweddol o ran adnoddau tuag at ddatgarboneiddio hefyd. Hoffwn i glywed beth yw eich cynlluniau chi yn hynny o beth.
Hoffwn i ofyn hefyd am gyllidebau amlflwydd. Rwy'n gwybod nad oes gan Lywodraeth Cymru y moethusrwydd hwnnw sydd gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n gweld yn yr Alban fod y Llywodraeth yno yn cynnwys agweddau ar gyllidebau amlflwydd yn eu cyllidebau. Yn fwy diweddar, roedden nhw'n cynnwys dyraniadau aml-flwyddyn ar gyfer dysgu cynnar a gofal plant a chysylltedd digidol, felly hoffwn i wybod a fydd Llywodraeth Cymru yn ymgorffori elfennau o gyllidebu amlflwydd yn eich cyllideb nesaf, er, wrth gwrs, eich bod chi'n gwneud hynny mewn amgylchiadau anodd iawn.
Yn olaf, rydych chi'n dweud yn eich datganiad y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i chi o ran cyllid. Wel, yr hyn yr wyf i am ei wybod yw sut y bydd eich cyllideb chi'n ymdrin ymhellach â dull ataliol, oherwydd, unwaith eto, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi tynnu sylw at y modd y mae 94 y cant o wariant y GIG yng Nghymru yn mynd ar wasanaethau aciwt a thrydyddol. Felly, a ydym ni'n mynd i weld hynny'n dechrau newid wrth ichi roi'r pwyslais y dywedwch wrthym ni eich bod yn awyddus i'w roi ar y dull ataliol?
Wrth gwrs, y dull ataliol mwyaf, mae'n debyg, yw buddsoddi mwy mewn addysg, gan sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael eu magu'n fwy ymwybodol o bwysigrwydd eu lles eu hunain, o ffyrdd o fyw iachach, a bod yn ddinasyddion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, a deall pa effaith amgylcheddol y gallai eu gweithredoedd nhw ei chael. Felly, pryd wnaiff Llywodraeth Cymru wynebu'r argyfwng ariannu yn ein hysgolion, ac a wnewch chi sicrhau bod gan ysgolion yr adnoddau sydd eu hangen i allu cyflawni'r canlyniadau hynny y mae pawb ohonom ni'n dymuno eu gweld?