Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Weinidog, fe fyddwch yn llwyr ymwybodol, oddi ar arfordir sir Benfro, fod potensial enfawr i gynhyrchu ynni’r tonnau ac ynni’r llanw, yn enwedig o ystyried y ffrydiau llanw ar Swnt Dewi a gerllaw. Nawr, mae strategaeth Llywodraeth Cymru, 'Cymru Carbon Isel', yn nodi bod Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r economi las, gan gynnwys ynni'r tonnau ac ynni'r llanw. Ac wrth gwrs, derbyniodd y Llywodraeth bwerau cydsynio ym mis Ebrill eleni ar gyfer prosiectau ar y tir ac ar y môr hyd at 350 MW. Fodd bynnag, mae'r strategaeth yn cynnwys polisïau generig, fel gweithredu polisi cydsynio, cynllunio a chaniatáu ynni, a datblygu llwybrau i'r farchnad ar gyfer technolegau adnewyddadwy, ond nid yw'n rhoi unrhyw wybodaeth fanwl ynglŷn â sut y bydd y Llywodraeth yn rhoi’r polisïau hyn ar waith a pha gymorth sydd ar gael. O dan yr amgylchiadau, a allwch amlinellu'r gefnogaeth benodol y gall Llywodraeth Cymru ei darparu i ddarpar gynhyrchwyr ynni a allai fod yn gweithredu oddi ar arfordir sir Benfro?