Prosiectau Ynni Dŵr

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:33, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym ddau o'r parthau mwyaf ar gyfer arddangos araeau ynni'r tonnau ac ynni'r llanw, ac mae un yn sir Benfro, fel y gwyddoch. Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi cael pwerau cydsynio ychwanegol drwy Ddeddf Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfu'r Prif Weinidog a minnau â Cyfoeth Naturiol Cymru i siarad am drwyddedu a rheoleiddio mewn perthynas ag ynni’r tonnau ac ynni’r llanw. Ac rwy'n awyddus iawn i wasanaeth ynni Cymru barhau i gefnogi sefydliadau sydd am gyflwyno mwy o lawer o'r math hwn o ynni adnewyddadwy. Ni fyddech yn disgwyl gweld sut y byddem yn cyrraedd y sefyllfa honno yn y cynllun cyflawni carbon isel. Un o'r pethau rydym yn eu gwneud yng ngoleuni'r datganiad argyfwng hinsawdd yw mynd yn ôl i sicrhau mai'r cynlluniau, y polisïau a'r cynigion a amlinellir yn y cynllun cyflawni carbon isel yw'r rhai cywir i sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targedau newid hinsawdd.