Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:41, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'n amlwg y byddwch yn ymwybodol, fel y mae'r holl Aelodau a'r cyhoedd yn ymwybodol, o'r tarfu yng nghanol Caerdydd heddiw a ddoe ac echdoe. Un o'r cyhuddiadau y mae'r protestwyr wedi eu gwneud yn erbyn llywodraethau o bob lliw, ond yn arbennig yma, yw nad yw'r llywodraethau'n gweithredu digon ar yr agenda newid hinsawdd, ac yn amlwg, y preswylwyr sy'n dioddef yn sgil y tarfu. Beth fyddai eich neges i drigolion Caerdydd yr effeithiwyd arnynt, gan fod y protestwyr yn gwneud y cyhuddiad hwnnw yn erbyn eich Llywodraeth chi?