Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Nid yw'r protestwyr wedi ceisio ymgysylltu'n uniongyrchol â mi, ond mae swyddogion wedi cyfarfod â rhai aelodau cyn heddiw, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r brotest sy'n mynd rhagddi.
Credaf fod Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, wedi tynnu sylw at y problemau: mae a wnelo hyn â chydbwysedd—mae a wnelo â chydbwysedd rhwng amddiffyn yr hawl i brotestio'n heddychlon, ond wrth gwrs, ni ellir caniatáu i bethau fynd yn rhy bell o ran tarfu ar fywydau pobl gyffredin. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod hynny.
Fel Llywodraeth, credaf fod datgan argyfwng hinsawdd ynddo'i hun a gweld sut y mae hynny wedi ysgogi awdurdodau lleol, cynghorau tref, unigolion a busnesau i weithredu yn dangos ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, a faint o waith rydym yn ei wneud—. Rydym yn gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Buaswn yn annog y protestwyr, er enghraifft, i ddarllen y cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi'r 100 o bolisïau a chynigion o ran yr hyn y bwriadwn ei wneud dros y blynyddoedd nesaf.