Strategaeth Pum Mlynedd y Post Brenhinol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:20, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r newyddion fod y Post Brenhinol yn buddsoddi oddeutu £1.8 biliwn yn y gwasanaeth post dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o'u cynllun strategol pum mlynedd. Fel rhan o gynllun y Post Brenhinol i adfer ei hun, mae'r grŵp yn bwriadu ehangu eu gwasanaeth parseli a chyflwyno ail ddosbarthiad parseli. Fodd bynnag, mae Ofcom wedi rhybuddio y gallai sefyllfa ariannol y Post Brenhinol fygwth cynaliadwyedd y gwasanaeth post cyffredinol. Pa sicrwydd y mae'r Gweinidog wedi'i gael gan y Post Brenhinol y byddant yn parhau i gyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i ddanfon llythyrau i'r wlad gyfan am ffi sefydlog? Diolch.