2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 17 Gorffennaf 2019.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol yn dilyn lansio'i strategaeth pum mlynedd? OAQ54279
Cyfarfu swyddogion â'r Post Brenhinol yn gynharach y mis hwn i drafod goblygiadau posibl y strategaeth hon i gymunedau Cymru. Rwy'n bwriadu cyfarfod â'r Post Brenhinol a'r undebau llafur cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Ers i'r Post Brenhinol gael ei breifateiddio, mae pwysau wedi bod ar y cwmni i wneud elw. Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, yr wyf yn aelod ohono, wedi mynegi pryderon y gellid adolygu'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol, sy'n gwarantu gwasanaeth chwe diwrnod cyfartal i bawb yn y DU. I lawer o bobl sy'n teimlo'n ynysig ac yn unig, gall gweithwyr post fod yn un o'r ychydig bwyntiau cyswllt rheolaidd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Hyd yn oed mewn dinasoedd fel Casnewydd, gweithwyr post lleol yn aml yw'r rhai cyntaf i sylwi bod rhywbeth o'i le ac mae eu cymunedau lleol yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol yn wasanaeth teg a gwerthfawr. Os caiff ei ddiddymu, ceir pryder y bydd y cyswllt y mae gweithwyr post cymunedol yn ei ddarparu yn cael ei golli. A all y Dirprwy Weinidog roi sicrwydd i mi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i'r Post Brenhinol i nodi'r gwerth y mae'n ei roi ar y gwasanaeth chwe diwrnod cyfartal, gan sicrhau eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i ddiogelu rôl y gweithwyr post cymunedol?
Yn sicr. Fel y dywedodd yr Aelod, rwyf innau a'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o'r rôl bwysig y mae gweithwyr post yn ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru, nid yn unig o ran y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu, ond y cysylltiad hwnnw â phobl, y rhaff achub honno i bobl. Byddaf yn cyfarfod â'r Post Brenhinol cyn bo hir i drafod hyn, ond credaf fod cyfarfod ag undebau llafur Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu ac Unite yr un mor bwysig, ac yn y ddau gyfarfod, byddaf yn sicrhau bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a'r rôl y mae gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau ar yr agenda yn y cyfarfodydd hynny.
Rwy'n croesawu'r newyddion fod y Post Brenhinol yn buddsoddi oddeutu £1.8 biliwn yn y gwasanaeth post dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o'u cynllun strategol pum mlynedd. Fel rhan o gynllun y Post Brenhinol i adfer ei hun, mae'r grŵp yn bwriadu ehangu eu gwasanaeth parseli a chyflwyno ail ddosbarthiad parseli. Fodd bynnag, mae Ofcom wedi rhybuddio y gallai sefyllfa ariannol y Post Brenhinol fygwth cynaliadwyedd y gwasanaeth post cyffredinol. Pa sicrwydd y mae'r Gweinidog wedi'i gael gan y Post Brenhinol y byddant yn parhau i gyflawni eu rhwymedigaeth gyfreithiol i ddanfon llythyrau i'r wlad gyfan am ffi sefydlog? Diolch.
Yn amlwg, mae gwasanaethau'r Post Brenhinol o dan bwysau oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â phreifateiddio. Ond fel rwyf eisoes wedi'i ddweud wrth yr Aelod, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gadw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rydym yn ymwybodol o'i gwerth i'n cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig ledled Cymru. Ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei godi yn fy nghyfarfodydd gyda'r Post Brenhinol a'r undebau llafur perthnasol. O ran yr argymhellion, gwn fod rhai argymhellion cadarnhaol wedi'u gwneud i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid bostio parseli, gan gyflwyno blychau post ar gyfer parseli, a'r gallu i'w dychwelyd. Credaf y gallai hynny'n arbennig helpu cwsmeriaid mewn ardaloedd mwy gwledig. Ond yn sicr, mae cadw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a'i gwerth, a'r rôl y mae'r gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau ledled y wlad ar ein hagenda.