Strategaeth Pum Mlynedd y Post Brenhinol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:21, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae gwasanaethau'r Post Brenhinol o dan bwysau oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â phreifateiddio. Ond fel rwyf eisoes wedi'i ddweud wrth yr Aelod, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gadw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rydym yn ymwybodol o'i gwerth i'n cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig ledled Cymru. Ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn ei godi yn fy nghyfarfodydd gyda'r Post Brenhinol a'r undebau llafur perthnasol. O ran yr argymhellion, gwn fod rhai argymhellion cadarnhaol wedi'u gwneud i'w gwneud yn haws i gwsmeriaid bostio parseli, gan gyflwyno blychau post ar gyfer parseli, a'r gallu i'w dychwelyd. Credaf y gallai hynny'n arbennig helpu cwsmeriaid mewn ardaloedd mwy gwledig. Ond yn sicr, mae cadw'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol a'i gwerth, a'r rôl y mae'r gweithwyr post yn ei chwarae yn ein cymunedau ledled y wlad ar ein hagenda.