Tanau Gwyllt

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:25, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Ar gyfer eich etholaeth chi, rydych yn nodi eich bod yn byw gyda'r pryder hwnnw am danau gwyllt posibl. Mae tanau glaswellt o unrhyw siâp neu faint a gynnir yn fwriadol yn gwbl annerbyniol. Maent yn anghyfrifol, yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Nid yn unig eu bod yn peryglu cymunedau, ond maent yn peri ofn, a dyna pam fod yr ymagwedd ataliol mor hynod o bwysig. Rydym yn cyd-weithredu'n llawn ag ysgolion, yr heddlu ac asiantaethau eraill, ond hefyd gyda rhaglenni eraill fel Troseddau a Chanlyniadau, ac mae Prosiect Phoenix yn gweithio gyda grwpiau bach y nodwyd eu bod mewn perygl o droseddu i geisio lleihau'r troseddu hwnnw hefyd, ac yn targedu'r cymorth, yr hyfforddiant a'r cyllid yn yr achosion hynny.

Hefyd, rydym yn clywed am achosion lle cawsant eu cynnau'n fwriadol gan bobl ifanc, ond ceir achosion hefyd lle byddant wedi'u cynnau gan dirfeddiannwr efallai. Felly, mae a wnelo â pharhau â'r gwaith traws-bartneriaethol hwnnw ac edrych ar yr agenda ataliol. Yn sicr, os oes gan unrhyw Aelodau unrhyw dystiolaeth neu awgrymiadau pellach o ran sut y gallem fwrw ymlaen â hynny, rwyf bob amser yn fodlon eu cymryd.