Tanau Gwyllt

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:24, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae trigolion sy'n byw ar Fynydd Cilfái yn Abertawe neu gerllaw wedi sôn am fyw mewn ofn cyson o danau coedwig ar y bryn. Mae rhai o berchnogion y tyddynnod yno wedi dechrau gosod eu briciau tân eu hunain, tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y dywedoch chi, wedi rhoi camau ar waith, ac yn yr achos hwn, wedi torri coed i leihau'r risg i eiddo pobl. Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn etholaeth Vikki Howells, gallaf gofio pobl yn dod i mewn i'r ysgolion ac yn sôn wrthym am beryglon tanau mynydd. O ystyried yr ystadegau rydych wedi'u rhoi i ni hyd yma, mae'n debyg ei fod wedi gweithio ar gyfer cenhedlaeth benodol, beth bynnag. Ond a oes unrhyw dystiolaeth mai pobl wahanol sy'n cael eu cysylltu â'r tanau mynydd rydym yn eu cael bellach, ac a oes angen cyfeirio addysg i gyfeiriad ychydig yn wahanol, efallai?