Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, fe dderbynioch chi mewn egwyddor yr argymhelliad y dylai pob cartref fforddiadwy newydd fod mor agos â phosibl at fod yn ddi-garbon erbyn 2021, yn amodol ar ganlyniad eich adolygiad o'r rheoliadau adeiladu. Fodd bynnag, y cartrefi sy'n debygol o gael eu cwblhau a bod ar gael erbyn 2021 yw'r cartrefi sy'n rhan o'r ceisiadau sy'n mynd drwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd. A wnewch chi ddweud ar goedd felly y dylai adrannau cynllunio sydd wrthi'n gwerthuso'r ceisiadau hyn ar hyn o bryd sicrhau eu bod yn gartrefi di-garbon, a gwneud penderfyniadau yn awr sy'n amlwg yn y fframwaith ar gyfer tai a osodwyd gennych ar gyfer y dyfodol?