Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio yn ddiweddar i ofyn iddynt adolygu rhai o'r polisïau yng ngoleuni 'Polisi Cynllunio Cymru', ond mae'n broses sy'n dilyn y cynllun ac mae gan y cynlluniau eu hoes eu hunain. Felly, rydym yn gofyn drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a thrwy arweinwyr awdurdodau lleol iddynt adolygu proses y cynllun datblygu lleol. Ac fel y gwyddoch, rydym ar fin ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol a fydd yn rhoi'r strategaeth drosfwaol ar waith. Nid yw'n bosibl newid y system gynllunio ar unwaith fel y dywedwch, ond rydym yn rhoi'r holl gamau ar waith i'w newid mor gyflym ag y gallwn a chadw'r broses sy'n dilyn y cynllun yn ei lle ac yn gynaliadwy—gyda'r bwriad o gyrraedd y sefyllfa rydych am i ni ei chyrraedd, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny yn unol â'r cynlluniau eu hunain.