Tanau Gwyllt

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 17 Gorffennaf 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:23, 17 Gorffennaf 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Yn wir, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn enwog yn rhyngwladol am y gwaith y maent yn ei wneud, ac mewn gwirionedd, maent wedi darparu cymorth i wasanaethau tân ledled y DU o ran yr arbenigedd y maent wedi'i ddatblygu. A gwn eu bod eisoes yn gweithio'n galed i ddod o hyd i gefnogaeth ychwanegol ar gyfer yr offer arbenigol sydd ei angen arnynt yn yr ardal. Mae'r Aelod yn llygad ei lle fod angen i'r pwyslais fod ar ddull drwy gydol y flwyddyn a gweithio mewn partneriaeth. Felly, er mai'r gwasanaeth tân yw'r rhai ar y rheng flaen, fel petai, mae llawer o gefnogaeth wedi'i rhoi i atal tanau, y rhaglenni addysg mewn ysgolion a'r grwpiau yr ystyrir eu bod mewn perygl, ac ni ellir ond gwneud hynny, fel y dywedoch chi, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a rhanddeiliaid cymunedol. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd wedi digwydd ers y cynnydd yn nifer y digwyddiadau a welsom dros y Pasg ychydig flynyddoedd yn ôl, ac mae hwnnw'n waith partneriaeth rydym yn parhau i bwysleisio'i werth a'i ddatblygu, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn mynd i'r afael ag ef fel y Gweinidog sy'n gyfrifol.