Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
—a Llywodraeth Cymru yn elwa'n fawr o'r ffaith bod Cymru'n rhan annatod o'n Teyrnas Unedig. Er fy mod yn sylweddoli mai oddeutu 1.5 y cant yn unig o'r holl gynghorau tref a chymuned yng Nghymru sydd wedi datgan cefnogaeth i annibyniaeth, credaf fod angen ymateb—[Torri ar draws.]—cryf gan eich Llywodraeth. A wnewch chi, felly, gadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r pleidleisiau hyn fel esgus i ailasesu Cymru a'i lle yn yr undeb?