Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Wel, Lywydd, cynghorau tref yw democratiaeth leol ar waith, ac os ydynt am wneud datganiadau ynghylch nifer o bethau sydd y tu hwnt i'w pwerau, nid wyf i mewn unrhyw sefyllfa i ddweud wrthynt a ddylent wneud hynny ai peidio. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir iawn ein bod yn credu bod buddiannau Cymru'n cael eu diogelu orau fel rhan o undeb sy'n gweithio'n dda. Rydym wedi bod ar flaen y gad yn gyson yn ein hymdrechion i geisio diwygio'r agweddau hynny nad ydynt yn gweithio er budd Cymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf i nodi gweledigaeth ar gyfer dyfodol cysylltiadau rhynglywodraethol a'r cyfansoddiad yn 'Brexit a Datganoli', ac fel rhan o'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, fe wnaethom arwain y gwaith o ddatblygu egwyddorion newydd ar gyfer cysylltiadau rhwng ein Llywodraethau, sydd bellach wedi'u cyhoeddi. Os yw cynghorau tref yn teimlo'n wahanol, mater i'w democratiaethau lleol hwy yw hynny'n llwyr.