Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Daw hynny â mi at heriau'r tri neu bedwar mis nesaf. Ac mae'n bwysig ein bod yn trafod hyn heddiw, oherwydd byddwn yn cael toriad ddydd Gwener, bydd Prif Weinidog newydd yn dod i rym yr wythnos nesaf, bydd yn ffurfio Llywodraeth newydd, ac ni fyddwn yn dychwelyd tan ganol mis Medi. Gall llawer ddigwydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid oes gan fusnesau yng Nghymru ddigon o eglurder ynghylch ein trefniadau masnachu yn y dyfodol, ac ar hyn o bryd maent yn ymgodymu â pharatoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' niweidiol. Mae'r risgiau i'r diwydiant bwyd a diod, yn enwedig y sector cig coch, yn sylweddol. Gwyddom fod 88 y cant o allforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd ar hyn o bryd ac y gallai'r tariffau a fyddai'n cael eu gosod ar yr allforion hyn os na cheir cytundeb ac o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd fod yn llethol. Ac ar ben hynny, byddai effeithiau rhwystrau di-dariff ac archwiliadau glanweithdra a bioddiogelwch ar ein ffiniau ac yn ein porthladdoedd yn fygythiad arwyddocaol i economi Cymru a llif nwyddau a gwasanaethau gyda'n marchnadoedd agosaf. Ac er ein bod wedi cael sicrwydd, i ryw raddau, ynglŷn â gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion hyn, byddwn yn parhau i graffu ar eu gweithgareddau yn y meysydd hyn yn ystod y misoedd nesaf, ac mae'n rhaid dweud nad oes unrhyw fesur o gynllunio—unrhyw faint o gynllunio—a all ein paratoi ar gyfer senario o'r fath yn llawn.
Gan droi at ein hail flaenoriaeth, mae gadael yr UE yn golygu bod angen i Lywodraethau a deddfwrfeydd gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd, a sicrhau bod buddiannau eu gwledydd yn cael eu rheoli'n deg wrth i ni fynd o gyrraedd ystod yr UE o fframweithiau polisi cyffredin. Yn y bôn, ymddengys bod consensws yn dod i'r amlwg gan bawb, ar wahân i Lywodraeth y DU, fod yn rhaid i strwythurau rhynglywodraethol presennol newid er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r UE. Rydym ni, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi tynnu sylw o'r blaen at y ffaith bod mecanweithiau rhynglywodraethol o fewn y DU yn annigonol. Mae hwnnw'n air caredig, oherwydd roeddem yn defnyddio geiriau cryfach yn rhai o'n condemniadau eraill ohonynt. Ac annigonolrwydd y mecanweithiau hyn sy'n debygol o achosi'r straen cynyddol yn y berthynas rhwng y DU a'r llywodraethau datganoledig yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. O ran craffu, ceir dwy her newydd y mae'n rhaid i ni fel Cynulliad roi sylw iddynt ar frys, sef fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan ac effaith cytundebau rhyngwladol y DU ar ddatganoli.
Lywydd, rwy'n falch o nodi'r camau gweithredu y gwnaeth fforwm y Cadeiryddion sylwadau arnynt yr wythnos diwethaf. Maent wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r gwaith ar y fframweithiau, a bydd Cadeiryddion eu pwyllgorau yn ei basio ymlaen gyda'u pwyllgorau. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith honno'n fawr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr a phwyllgorau eraill y Cynulliad wrth i ni ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil y tasgau craffu newydd hyn. A chwestiwn difrifol iawn y mae'n rhaid i ni ei ofyn i'n hunain yw: sut y craffwn ar y rhain? Ac, efallai, sut y mae gwneud hynny gyda deddfwrfeydd eraill hefyd. Wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni gadw mewn cof y bydd penderfyniadau ar fframweithiau a chytundebau rhyngwladol yn cael effaith ddofn ar ein gallu i weithredu polisïau ar gyfer pobl Cymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, sy'n amlwg yn bwysig. Er enghraifft, polisi amaethyddol, diogelu'r amgylchedd, ac agweddau ar bolisïau gofal iechyd a thrafnidiaeth—gall cytundebau rhyngwladol effeithio arnynt i gyd, a byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru drafod gweithredu'r rheini drwy ei pholisïau.
Mae'r drydedd flaenoriaeth yn ymwneud â'r rhyddid i symud a pharhad hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Ac er bod consensws eang y dylid cael gwarant gyfatebol ar hawliau dinasyddion ar ôl Brexit, mae yna feysydd polisi mawr ar gyfer y dyfodol y mae angen eu hystyried a chytuno arnynt o hyd. Ac am y rheswm hwnnw, rydym wedi lansio ymgynghoriad ar oblygiadau Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddyfodol rheolau mewnfudo ar ôl Brexit. Byddwn hefyd yn lansio sgwrs ar-lein drwy'r ap Dialogue yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn cynnal sesiynau grŵp ffocws gyda'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newidiadau i'r rheolau hyn yn ystod tymor yr hydref. Ni allwn fethu â gwneud hynny. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, oherwydd drwy gydol y broses hon, y peth pwysig i ni fel pwyllgor yw datgan yn glir i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, 'Bydd croeso i chi yma bob amser. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad rydych yn ei wneud, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i fyw eich bywydau yma yn rhan o'n cymunedau ar hyd a lled y wlad wych hon.'
Dyma'r neges a gyflëwyd gennyf yn ystod ymweliad diweddar Ei Ardderchogrwydd, llysgennad Rwmania â'r DU. Mewn trafodaeth answyddogol a gawsom gydag ef a'r grŵp a ddaeth gydag ef o'r conswl anrhydeddus yng Nghymru, roedd yn frawychus eu clywed yn sôn am y ffordd roedd pobl yn dal i ddweud wrthynt hwy fel teulu, neu wrth eu plant, am fynd adref—ac roeddent yn blant a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n neges rwyf am barhau i'w hailadrodd dros y misoedd sydd o'n blaenau. Mae'n neges rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn dymuno ei hailadrodd hefyd—sef y bydd Cymru bob amser yn gartref i bobl sydd eisiau byw yma a gweithio yma ac sydd, mewn gwirionedd, yn ein helpu i wasanaethu ein pobl. Diolch yn fawr.