Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Fel rhywun y mae ei ddiffyg Cymraeg yn ganlyniad uniongyrchol i gyfyngu ar yr iaith ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf—cafodd fy mam y gansen yn yr ysgol am siarad Cymraeg yn yr ysgol—rwy'n llwyr gefnogi unrhyw symudiadau i gynyddu'r defnydd o'r iaith. A ble'n well i hyrwyddo ei defnydd nag yn y sefydliad hwn? O'r herwydd rwy'n croesawu'r holl gamau a gymerwyd gan y Comisiwn yn y materion hyn. Diolch yn fawr.