Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch yn fawr. A phleser o’r mwyaf ydy cyflwyno’r adroddiad blynyddol yma ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad. Mae’n braf cael cyfle i’ch diweddaru chi am ein gwaith ni dros y flwyddyn diwethaf. Mae’r adroddiad yn dathlu llwyddiannau, ond hefyd yn nodi’r adegau pan nad ydym ni wedi llwyddo i gyrraedd y safonau uchel sy’n ddisgwyliedig o dan y cynllun.
Mi hoffwn i gychwyn efo’r themâu sy’n rhoi strwythur i’n gwaith ar gyfer y pumed Cynulliad. Fe gafwyd cryn drafodaeth y llynedd am ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y system recriwtio er mwyn disgrifio a phennu sgiliau iaith ar gyfer swyddi yn well, gan gyflwyno gofyniad sgiliau iaith sylfaenol ar gyfer pob swydd a hysbysebir. Bellach, mae’r system honno wedi bod ar waith am flwyddyn ac mae’r adroddiad yn cynnwys manylion nifer y swyddi a hysbysebwyd ar wahanol lefelau, ac mewn adroddiadau blynyddol o hyn allan mi fydd modd i ni gymharu’r niferoedd hynny.
O ran y thema sgiliau iaith, mae’r tîm sgiliau iaith wedi parhau i gynnig hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad. Bellach mae dros 150 o ddysgwyr yn derbyn hyfforddiant gan y tîm. Eleni, diolch i ymroddiad ein dysgwyr, a dulliau hyfforddi arloesol y tîm, mae 11 o ddysgwyr wedi sefyll arholiadau CBAC ar lefelau mynediad, sylfaen a chanolradd, efo llawer iawn mwy yn dringo ysgol y lefelau ond yn dewis peidio â sefyll arholiad.
Ar y cyfan, mae gwaith y tîm ieithoedd swyddogol eleni wedi canolbwyntio ar gynllunio ieithyddol, sef y trydedd thema, yn sgil rhoi’r system recriwtio newydd ar waith. Mae penaethiaid gwasanaeth a chydgysylltwyr ieithoedd swyddogol wrthi’n diwygio cynlluniau iaith y gwasanaethau unigol, gan nodi gofynion sgiliau iaith ar gyfer pob swydd. Law yn llaw â’r gwaith hwn, rydym ni yn y broses o gofnodi sgiliau iaith ein holl staff. Mae’r gwaith yn digwydd fesul gwasanaeth ar sail hunan asesiad, a bydd y tîm ieithoedd swyddogol a’r tîm sgiliau iaith yn darparu cefnogaeth i unigolion a thimau yn ôl yr angen. Bydd hyn oll yn ffordd o gynnig sicrwydd i’r prif weithredwr, ac i mi fel comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol, ein bod ni yn cynllunio capasiti dwyieithog y sefydliad yma'n briodol ar gyfer darparu gwasanaethau dwyieithog o’r radd flaenaf bob amser.
Trafodion y Cynulliad ydy’r pedwaredd thema. Mae ein gwaith ni wedi canolbwyntio ar gefnogi Aelodau Cynulliad i weithio a chymryd rhan mewn trafodion yn eu dewis iaith. Eleni, cafwyd canlyniadau arbennig o dda yn yr arolwg o Aelodau Cynulliad a’u staff cymorth o ran y gallu i weithio yn eu dewis iaith, ond dydyn ni ddim yn mynd i fod yn gorffwys ar ein rhwyfau, ac mi fyddwn ni'n parhau i wrando ar adborth gan Aelodau a’u staff cymorth er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safonau uchel yma.
Yn anffodus, ni chafwyd gwelliant o ran nifer y dogfennau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno yn uniaith, sy’n golygu ei bod yn anodd i Aelodau baratoi ar gyfer trafodion yn eu dewis iaith. Fodd bynnag, rydym ni'n parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i chwilio am gyfleoedd i wella eu darpariaeth. Rydym ni'n croesawu’r ymrwymiad a roddwyd gan Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol, yr wythnos diwethaf, yn ystod sesiwn craffu’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sef ymrwymiad i gynyddu nifer y dogfennau a osodir yn ddwyieithog, ac mi fyddai’n braf iawn gallu dod yn ôl yma'r flwyddyn nesaf i adrodd cynnydd ar y mater yna.
Thema pump yw’r un mwyaf eang o ran targedau, ac er eu bod yn rhai gweddol syml, gyda’i gilydd, mi fyddan nhw'n gwneud gwahaniaeth mawr i ddiwylliant ac ethos ein sefydliad. Dyma’r targedau fydd yn ein galluogi ni i wneud y newidiadau fydd yn sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y nod o gael ein hadnabod fel sefydliad blaengar a rhagweithiol wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
O ran y safonau gwasanaeth, fe gofiwch i ni gynnwys nifer o ystadegau ar elfennau o’r gwasanaethau a ddarparwn y llynedd, ac eleni rydym ni wedi ychwanegu at y tablau hynny er mwyn caniatáu cymhariaeth rhwng blynyddoedd. Yn ystod y ddadl llynedd, gofynnodd Aelodau am fanylion ynghylch union nifer a natur y cwynion a dderbyniwyd. Mae’n galonogol nodi mai nifer bach o gwynion gafodd eu derbyn a’n bod wedi llwyddo i fynd i’r afael â’r rhan fwyaf ohonyn nhw'n anffurfiol heb yr angen am ymchwiliad ffurfiol. Fodd bynnag, mi fyddwn i'n hoffi eich sicrhau chi y byddwn ni'n defnyddio unrhyw adborth i ddysgu ac i wella ein gwasanaethau. Mae adborth positif hefyd yn bwysig, ac mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o ddyfyniadau gan unigolion, unwaith eto sy’n ein cynorthwyo i ddysgu a rhannu arferion llwyddiannus ar draws y sefydliad. Dwi'n edrych ymlaen at glywed eich ymateb i'r adroddiad.