Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Diolch. Mae pobl yn cael eu geni gyda chyflyrau sbectrwm awtistiaeth gydol oes ac mae pobl awtistig yn gweld, yn clywed ac yn teimlo'r byd yn wahanol i bobl eraill. Os ydych yn awtistig, rydych yn awtistig am oes. Nid salwch neu glefyd yw awtistiaeth ac ni ellir ei wella. Yn aml, mae pobl yn teimlo bod awtistiaeth yn elfen sylfaenol o'u hunaniaeth. Mae ein cynnig yn cydnabod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, fod anghysonderau yn y gwasanaeth a'r cymorth a gynigir sy'n effeithio ar ganlyniadau i bobl awtistig a'u teuluoedd.