Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Amcangyfrifir bod tua 1 o bob 7 o bobl, mwy na 15 y cant o boblogaeth y DU, yn niwrowahanol, sy'n golygu bod yr ymennydd yn gweithredu, yn dysgu ac yn prosesu gwybodaeth yn wahanol. Mae gwahanol bobl yn cael profiad gwahanol o niwroamrywiaeth. Felly, mae'n bwysig nad yw pobl yn cael eu stereoteipio yn ôl y nodweddion mwy adnabyddus. Ni fydd pob person awtistig, er enghraifft, yn dda am wneud mathemateg neu'n meddu ar ryw fath o ddawn gudd. Math o amrywiaeth ddynol yw niwroamrywiaeth. Nid oes y fath beth â math 'normal' neu 'iach' o ymennydd, yn union fel nad oes y fath beth â rhyw neu hil neu ddiwylliant normal neu iach. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'u mewnflychau o'r mathau o wahaniaethu y gall pobl awtistig eu hwynebu. Dyna'r gwahaniaethu yr ydym yn ceisio mynd i'r afael ag ef drwy ein gwelliant y prynhawn yma.
Mae Plaid Cymru eisiau gweld niwrowahaniaeth yn dod yn nodwedd warchodedig ar wahân. Gallech ddadlau bod y Ddeddf cydraddoldeb, i ryw raddau, eisoes wedi cynnig rhywfaint o amddiffyniad cyfyngedig i niwrowahaniaeth, gan y gallai ddod o dan gategori mwy cyffredinol anabledd, ond mae hynny'n achosi problemau, a hoffwn egluro pam. Er mwyn cael amddiffyniad o dan y Ddeddf hon, byddai angen i berson gael diagnosis, ac mae pawb ohonom yn gwybod y gall hynny gymryd llawer o amser, a byddai angen prawf arnynt fod y cyflwr yn amharu'n sylweddol ar weithgareddau o ddydd i ddydd. Ni ddylid edrych ar y cwestiwn hwn drwy lens anabledd. Nid yw niwrowahaniaeth o reidrwydd yn amharu ar rywun. Gyda'r cymorth cywir, gall pobl ffynnu. Mae'n ymwneud â deall ac addasu, nid ag anabledd o anghenraid.
Mae'r Ddeddf cydraddoldeb yn mynnu prawf y byddai ymddygiad neu amgylchiad yn gwahaniaethu yn erbyn person nodweddiadol sydd â'r cyflwr hwnnw, ac mae hynny'n anodd ei orfodi ar gyfer niwroamrywiaeth gan fod pob cyflwr yn effeithio ar unigolyn mewn ffordd unigryw. Nid yw labelu rhywbeth fel anawsterau dysgu, fel sy'n digwydd yn aml, o gymorth. I lawer o bobl, mae'r term yn gysylltiedig â phlant, ac ni fydd llawer o weithwyr niwrowahanol, er enghraifft, yn ei chael hi'n anodd dysgu sgiliau newydd neu ddeall cysyniadau newydd. At hynny, nid oes dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol os nad yw'r cyflogwr yn gwybod neu os na ellid disgwyl yn rhesymol iddynt wybod bod person yn anabl yn ystyr y Ddeddf. Fodd bynnag, nid yw bron i dri chwarter y gweithwyr niwrowahanol yn datgelu eu cyflwr rhag ofn iddynt wynebu gwahaniaethu, ac mae hanner yr holl weithwyr sy'n datgelu eu cyflwr yn difaru gwneud hynny yn ddiweddarach. A dyna'n union pam y dylai'r gwahaniaethu hwn gael ei wahardd. Mae pob siaradwr sydd yma y prynhawn yma'n derbyn na all y status quo barhau. Rydym i gyd yn cydnabod sut y mae pobl yn cael cam gan ein gwasanaethau cyhoeddus a chan ein cymdeithas gyfan. Rhaid inni roi'r gorau i ddal ati i ddim ond dweud hynny. Fe wnaeth pob un ohonoch ar ochr y Llywodraeth bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth a oedd ar gael inni ar hyn o'r blaen. Mae arnom angen gweithredoedd yn awr, nid geiriau. Pryd y cawn ni eu gweld?