Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 5 Medi 2019.
O ran y mater cyntaf, sef y rhwyg, rwy'n ei chael hi'n anodd cofio mater sydd wedi rhannu barn yn ei gwlad i'r graddau y mae'r ddadl barhaus am ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol wedi'i wneud. Yn wir, rwy'n ei chael hi'n anodd cofio pryd y cafodd iaith y rhwyg ei harfogi i'r fath raddau nes fy ngwneud yn ofnus ynglŷn â chyflwr ein cymdeithas sifil. Pan fo arddel barn wrthwynebus mewn democratiaeth yn cael ei bortreadu fel gweithred fradwrus, ac yn fwyaf diweddar, fel ildiad, rydym mewn cyfnod pryderus iawn. Mae'r iaith hon a'r delweddau y mae'n eu cyfleu, a gweithredoedd trasig fel llofruddiaeth Jo Cox, wedi creithio'r wlad hon yn ddwfn, ac ar adeg o argyfwng cenedlaethol, rwy'n disgwyl—ac mae ein profiad yn y gorffennol yn aml yn dweud wrthym—mai diben, cyfrifoldeb a rhwymedigaeth arweinwyr yw lleihau tensiynau, ceisio lleihau rhwygiadau, a cheisio meithrin cysylltiadau mwy cytûn. Ond nid yw'n ymddangos bod hynny'n wir ar hyn o bryd. Ar y foment, mae grymoedd ar waith, rhai ohonynt yn rymoedd sinistr iawn, sy'n ceisio meithrin a hybu rhwygiadau, gan arwain yn awr at ein Prif Weinidog yn atal Senedd sofran er mwyn rhwystro ASau a etholwyd gennym rhag gwneud penderfyniadau ar faterion y cawsant eu rhoi yno i'w penderfynu. Mae hyn wedi cael amryw o ganlyniadau, ac ofnaf y bydd hynny'n parhau.
Un canlyniad gwleidyddol amlwg yw cyfansoddiad y Deyrnas Unedig mewn cyflwr o fflwcs na wyddys ei hyd na'i led ar hyn o bryd, ac mae grymoedd ceidwadaeth sydd wedi defnyddio cyfansoddiad esblygol dros ganrifoedd er mwyn cynnal sefydlogrwydd bellach yn palu drwy ei seiliau. Ac yn hynny o beth, rwy'n rhannu pryderon David Melding y bydd i hyn ganlyniadau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a welsom yn y ddadl bresennol ynglŷn â'n perthynas â'r UE. I raddau, mae rhywfaint o hynny wedi'i fynegi yn y gwelliannau i'r cynnig y mae Plaid Cymru wedi'u cyflwyno heddiw, a hefyd yn y modd cyflym y dychwelodd y ddadl am annibyniaeth yr Alban. Nid yw y tu hwnt i bosibilrwydd bellach y byddwn yn gweld y Deyrnas Unedig yn chwalu dan oruchwyliaeth y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol—plaid sydd wedi tyfu'n fwy poblyddol yn ddyddiol, ac sydd, fel y dywedodd eraill, yn fawr mwy na phlaid cenedlaetholdeb Seisnig bellach.
Yr ail fater yr hoffwn wneud sylw arno yw cymeriad a natur yr arweinyddiaeth. Mae'n amlwg fod drwgdybiaeth sylfaenol o Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth galon y ddadl yr wythnos hon. Nid yw'r ddrwgdybiaeth honno'n gyfyngedig i un blaid; caiff ei rhannu ar draws y pleidiau, gan gynnwys ei blaid ei hun, fel y mynegwyd gan y rhai sydd bellach wedi'u diarddel oddi ar feinciau'r Torïaid yn San Steffan. Yn wir, mae'n syndod fod cyn lleied o ymddiriedaeth gan bobl ym Mhrif Weinidog newydd y DU, ac ni allaf gofio hyn o'r blaen. Cafwyd anghytundebau, ond ni fu erioed y fath ddiffyg ymddiriedaeth lwyr a welwn heddiw. Ac fel y clywsom y bore yma, mae'r rhestr gynyddol o bobl nad ydynt i bob golwg yn ymddiried yn y Prif Weinidog mwyach yn cynnwys ei frawd ei hun. Yn amlwg, y rhai agosaf ato sy'n ei adnabod orau.
Eto i gyd, rwyf hefyd yn gwybod, wrth ddilyn y dadleuon yr wythnos hon ac wrth wylio gweithredoedd y rhai y mae'r Prif Weinidog wedi'u casglu o'i gwmpas, ei bod yn glir ac yn amlwg pam y mae cymaint o ddiffyg ymddiriedaeth. Mae'r dyn yn gelwyddgi llwyr. Mae'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig—yn debyg iawn i'w gyfaill yn yr UDA—ac mae'n anaddas i fod yn y swydd uchaf yn y wlad hon. Mae'n dweud un peth, mae'n gwneud rhywbeth arall, ac ni ellir ymddiried ynddo i wneud yr hyn y mae'n dweud y bydd yn ei wneud. Ni ellir ymddiried ynddo gyda dyfodol ein gwlad.
Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw. Peidiwch â gadael i ni a'n cymheiriaid synhwyrol yn San Steffan, ymhob plaid, fod yn ddynion a menywod da na wnaethant ddim wrth i Brif Weinidog geisio sathru ar ein democratiaeth. Bydd peidio ag eistedd am bum wythnos ar yr adeg fwyaf tyngedfennol yn ein hanes yn gwanhau ein democratiaeth yn ddifrifol, felly rwy'n gobeithio y gwneir popeth posibl yn San Steffan i ddiddymu addoediad y Senedd a defnyddio'r holl amser arall sydd ar gael, gan gynnwys, os oes angen, canslo toriad yr hydref er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl i ddatrys y sefyllfa hon a sicrhau na chawn Brexit heb gytundeb niweidiol.
Ond ar fater penodol addoedi'r Senedd, ni ddylai hon fod yn foment i greu rhwyg rhwng y rhai sy'n cefnogi gadael a'r rhai sydd am aros. Mae'n foment ar gyfer dod o hyd i achos cyffredin er mwyn amddiffyn ein democratiaeth, oherwydd os na wnawn hynny—ac ar y pwynt hwn rwy'n cytuno â sylwadau Adam Price ar ddechrau'r ddadl hon ynghylch symudiadau graddol tuag at unbennaeth—rydym yn caniatáu i arweinwyr presennol y Blaid Geidwadol unwaith eto i roi plaid o flaen gwlad, a thrwy hynny, fel y dywedodd Clem Attlee unwaith, rydym hanner ffordd tuag at unbennaeth.