Camau Cyfreithiol Yng Nghyswllt Addoediad

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 17 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:38, 17 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Canfu Llys Sesiwn yr Alban fod Boris Johnson wedi camarwain y Frenhines ynglŷn â'i resymau dros eisiau i'r Senedd gael ei haddoedi. Dywedodd y Prif Weinidog mai er mwyn cyflwyno Araith y Frenhines oedd hynny, ond gwnaethpwyd hi'n glir gan y dyfarniad fod tystiolaeth ddogfennol i'r perwyl mai'r gwir reswm oedd rhwystro gwaith craffu seneddol ar y Weithrediaeth. Nid oedd yr Uchel Lys yn Lloegr yn gwrth-ddweud hyn, felly nid oes dadl ynghylch a oedd Boris Johnson yn dweud celwydd wrth y Frenhines a phawb arall am wir natur ei resymau dros addoedi'r Senedd—fe wnaeth hynny. Roedd y pwynt lle'r oedd barn yr Uchel Lys yn amrywio o Lys y Sesiwn yn ymwneud â pha un a oedd dweud celwydd am y rhesymau y tu ôl i'r addoediad yn gyfiawn ai peidio—hynny yw, a yw'n fater cyfreithiol neu wleidyddol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i esbonio ei sail gyfreithiol dros gredu bod hwn yn fater y gellir ei farnu, os yw'r Goruchaf Lys yn dyfarnu o'i blaid, y bydd, yn yr achos hwn,  dyfarniad bod addoediad yn anghyfreithlon yn bosibl ei orfodi? Rwy'n gofyn oherwydd y briffiau gan Rhif 10 y gallen nhw geisio addoedi'r Senedd am yr eildro, beth bynnag.