Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 17 Medi 2019.
A gwrthodwyd y cyfle hwnnw i'r Senedd eistedd ac ystyried y ddeddfwriaeth honno gan yr addoediad. Felly, nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros hawliau'r Cynulliad hwn.
Mae hi'n gweiddi cwestiwn am gostau oddi ar ei heistedd. Costau ymyrryd yng nghyfnod yr Uchel Lys oedd £8,937.91 yn ogystal â TAW—gydag ymddiheuriadau i Mark Reckless am y cwestiwn y bydd yn ei ofyn i mi yn nes ymlaen.