Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 17 Medi 2019.
Fel swyddog y gyfraith ar gyfer Llywodraeth Cymru, rwy'n hollol o ddifrif ynglŷn â fy nyletswydd i sicrhau y dilynir rheol y gyfraith. Mae hon yn egwyddor sylfaenol y mae holl ddinasyddion y DU, ac, yn wir, dinasyddion unrhyw ddemocratiaeth aeddfed, yn dibynnu arni bob un diwrnod.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi defnyddio iaith gref yn y Siambr hon yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf yn gwneud unrhyw esgusodion dros feirniadu Gweinidogion Llywodraeth y DU pan fyddant yn methu ag ymrwymo y byddant yn ufuddhau i'r gyfraith. Mae'n gwbl warthus na all pobl y DU ddibynnu ar y Prif Weinidog i ddilyn cyfraith y Deyrnas Unedig.
Yr wythnos diwethaf, yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd), heriais Michael Gove ar hyn ac fe'm sicrhaodd y byddai'r Llywodraeth yn ufuddhau i'r gyfraith. Ond, ar yr un pryd, parhaodd i siarad fel y byddai'r DU yn bendant wedi gadael yr UE erbyn 31 Hydref. Ac mae'n rhaid inni gofio nad yw'r DU ar ei phen ei hun yn penderfynu ai dyna fydd yn digwydd; mae gan bob un o'r 27 aelod-wladwriaeth arall yn yr UE feto ar estyniad. Yr hyn sy'n glir, felly, yw bod peryglon o hyd y bydd y DU yn gadael heb gytundeb ar 31 Hydref ac mae angen i ni fwrw ymlaen â'n cynllunio ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb'.
Ddoe, fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun gweithredu ymadael 'dim cytundeb' Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn adleisio'r dadansoddiad sobreiddiol o'r peryglon sy'n ein hwynebu fel y dangosodd cyhoeddi rhagdybiaethau Yellowhammer y Deyrnas Unedig i'r cyhoedd. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn dweud ers misoedd bod y math o ganlyniadau a grybwyllir yn y dogfennau hynny'n berygl go iawn o gael Brexit 'dim cytundeb' ac yn gwbl amhosibl ei ddychmygu, a dyna pam rydym ni wedi galw am ei ddiystyru. Rydym ni wedi bod yn glir: lle mae'r gallu gennym ni i weithredu i liniaru goblygiadau ymadael 'dim cytundeb', rydym ni wedi gwneud hynny.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd fy nghyd-Weinidogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y paratoadau a amlinellir yn y cynllun gweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd i drafod goblygiadau ymadael 'dim cytundeb' ar Gymru a beth, os o gwbl, y gallwn ni ei wneud i gyfyngu ar y niwed a wneid.
Ond gadewch i mi fod yn glir: mae'r rhan fwyaf o'r mesurau lliniaru sydd eu hangen ar gyfer ymadael 'dim cytundeb' y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol—nid ydynt hyd yn oed dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yng nghyfarfodydd diweddar is-bwyllgor Cabinet y DU yr wyf i a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresenol ynddynt, mae canlyniadau enbyd gadael 'dim cytundeb' yn parhau i gael eu disgrifio. Mae'n rhyfeddol bod Llywodraeth y DU yn gallu ystyried difrod o'r fath i'r DU fel mater o ddewis gwleidyddol.
Ni ddylai pobl Cymru gael eu twyllo y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn derfyn ar dair blynedd o ansicrwydd. Yn hytrach, bydd yn dechrau pennod newydd o gynnwrf aruthrol. Bydd yr economi'n dioddef poen economaidd sylweddol, gyda chwalfa yng ngwerth y bunt ac ansefydlogrwydd ehangach yn y marchnadoedd ariannol. Bydd pob dinesydd yng Nghymru a'r DU yn teimlo'r boen hon.
Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd y boen economaidd hon yn hirhoedlog ac yn barhaol. Bydd yr economi'n llai nag y byddai wedi bod fel arall, a bydd hynny'n taro incwm pob teulu yn y DU. At hynny, hyd yn oed o gael llechen lân, fel y'i gelwir, bydd yn rhaid i'r DU negodi perthynas newydd â'n partneriaid economaidd agosaf, a bydd Brexit 'dim cytundeb' yn gwneud y trafodaethau hyn yn anoddach.
Mae'n ymddangos y bydd y berthynas rhwng y DU a'r UE ar adeg yr ymadawiad yn fwyfwy chwerw, gyda diffyg cyfaddawdu, ychydig iawn o debygolrwydd cael cytundeb yn y dyfodol yn y tymor agos, a Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar feio'r Undeb Ewropeaidd. Ychwanegwch at hynny y bygythiad na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu'r ymrwymiadau ariannol mewn sefyllfa o adael 'dim cytundeb', ac mae'n amlwg y bydd angen i'r DU adeiladu pontydd newydd ac adfer cydberthnasau sydd wedi'u difrodi, hyd yn oed cyn i'r trafodaethau ddechrau.
Y gwir amdani yw y bydd y DU yn cyd-drafod yn gyson â'r UE am byth os byddwn yn gadael. Mae'r ffaith y bydd y berthynas newydd hon yn dechrau ar nodyn mor wael yn peri pryder mawr ac yn niweidiol i'n henw da yn rhyngwladol. Mae'r Senedd wedi rhoi cyfarwyddiadau clir i Brif Weinidog y DU. Mae'r broses ar gyfer osgoi ymadael 'dim cytundeb' wedi'i nodi mewn deddfwriaeth. Mae'r camau yno i'w cymryd. Ac eto, clywn gan Brif Weinidog y DU mai ei bolisi ef yw i'r DU adael ar 31 Hydref hyd yn oed os na ellir dod i gytundeb. Pe bai'r Prif Weinidog yn anwybyddu'r cyfarwyddyd gan y Senedd, yna byddai'n benderfyniad y byddai'n rhaid iddo fod â goblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol difrifol.
Bydd ymadael 'dim cytundeb' yn drychinebus a dylai fod y tu hwnt i bob amgyffred. Rydym ni'n parhau'n ymrwymedig i'r llwybr amgen. Mae dyfodol mwy disglair i Gymru, sef dewis parhau yn aelod a helpu i lunio Undeb Ewropeaidd diwygiedig.