11. Dadl Plaid Cymru: Tâl ac amodau gweithwyr y GIG

– Senedd Cymru ar 18 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:25, 18 Medi 2019

Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar dâl ac amodau gweithwyr y gwasanaeth iechyd, a dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7138 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at gynigion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymestyn sifftiau nyrsio heb dâl ar gyfer dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

2. Yn ofni colli ewyllys da ymysg staff sydd eisoes yn gweithio drwy eu cyfnodau egwyl neu sydd ar alwad ar eu wardiau neu eu hunedau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu tâl ac amodau gweithwyr rheng flaen o fewn y GIG drwy sicrhau bod y cynnig atchweliadol hwn yn cael ei ddiddymu.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:26, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ddoe, daeth ymgynghoriad ar newidiadau i rotâu nyrsio ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ben. Mae'r argymhelliad, i bob golwg, i safoni a symleiddio cyfnodau egwyl nyrsys a throsglwyddiadau yn ceisio arbed arian i'r bwrdd iechyd mewn gwirionedd, ar adeg, wrth gwrs, pan fo'i gadeirydd yn cyfaddef ei fod yn cael trafferth cyrraedd targedau i leihau ei ddiffyg o £42 miliwn. Nawr, yn y cyd-destun hwn—ymgais daer i arbed arian—y lluniwyd y cynllun. A gallai'r ysfa daer honno esbonio pam y mae'r argymhelliad wedi arwain uwch-reolwyr yn y bwrdd i lunio'r syniad gwallgof hwn i arbed arian. Yn gryno, mae'n ymestyn sifftiau nyrsys hanner awr yn ychwanegol yn ddi-dâl. Byddai'n golygu y bydd disgwyl i nyrs sy'n gweithio sifft 12.5 awr ar hyn o bryd, sy'n cynnwys egwyl o hanner awr yn ddi-dâl, weithio'r un sifft a chael ei thalu am 11.5 awr yn unig.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gydnabod bod llawer o nyrsys yn treulio'u cyfnodau egwyl ar eu wardiau neu eu hunedau ar hyn o bryd, a'u bod ar alwad i bob pwrpas mewn argyfwng. Nawr, ewyllys da staff gweithgar yn unig sydd i gyfrif am hynny, ac mae'r argymhelliad hwn yn ceisio manteisio ar yr ewyllys da hwnnw. Yr hyn y mae'r rheolwyr yn methu ei ddeall yw—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf, mae arnaf ofn—mae angen i mi gael hyn—. Gallwch siarad yn y ddadl. Mae'n ddadl fer iawn. Yr hyn y mae rheolwyr yn methu deall yw bod yr argymhelliad yn bygwth tanseilio morâl ac ewyllys da nyrsys yn llwyr. Bydd y newidiadau'n golygu, i bob pwrpas, fod nyrsys amser llawn yn gorfod gweithio sifft ychwanegol y mis i gyflawni'r oriau di-dâl.

Nawr, nid newidiadau bach yw'r rhain—os cânt eu gweithredu bydd yn effeithio ar dros 4,000 o nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd ar draws fy rhanbarth yng ngogledd Cymru. Mae nyrsys yr ydym wedi siarad â hwy'n ddienw yn dweud, os aiff y cynllun yn ei flaen, y byddant yn ystyried lleihau eu horiau, bydd rhai'n ystyried rhoi'r gorau iddi yn llwyr, dywed rhai y byddant yn treulio'u cyfnodau egwyl i ffwrdd o'u huned neu eu ward, a bydd rhai'n cymryd gwyliau blynyddol yn hytrach na gweithio sifftiau ychwanegol.

Mae newidiadau tebyg wedi'u rhoi ar waith mewn ysbytai yn Lloegr, ond mae'n bosibl mai dyma un o'r adegau cyntaf, er ei bod yn bosibl bod Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg—efallai eu bod hwy wedi gwneud rhywbeth tebyg. Ond teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni herio'r argymhellion hyn, ac fel cynrychiolydd o ogledd Cymru, mae'n amlwg fod lles ein nyrsys yng ngogledd Cymru yn agos at fy nghalon.

Nawr, yn sail i'r argymhelliad y mae'r angen, yn ôl y gyfraith wrth gwrs, i sicrhau lefelau staffio diogel ar bob ward, gan leihau costau nyrsys asiantaeth ar yr un pryd, drwy sicrhau niferoedd cymwys o staff nyrsio a gweithwyr cymorth gofal iechyd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae rheoli gwael hefyd yn golygu bod amrywiaeth enfawr o ran cyfnodau egwyl i staff, o ddim egwyl o gwbl i 75 munud o egwyl â thâl. Ni ddylai safoni'r rhain olygu gorfodi baich ychwanegol annheg ar nyrsys.

Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn destun mesurau arbennig, wrth gwrs, oherwydd amrywiaeth o fethiannau clinigol ers 2015. Mae'n dechrau ar ei bumed flwyddyn o reolaeth uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac eto nid yw'n dangos unrhyw arwydd ei fod yn ymdopi â heriau'n ymwneud â'r gweithlu sy'n sail i lawer o'i broblemau. Mae prinder dybryd o feddygon a nyrsys, fel y gwyddom, ac yn ôl y cyfrif diwethaf, roedd 500 o swyddi nyrsio gwag yn y gogledd—un o bob 10 o'r gweithlu. Felly, gallwch ddeall pam y mae'r staff sydd yno eisoes o dan bwysau, a pham y mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i dorri ei fil nyrsys asiantaeth enfawr. Nawr, datgelodd ymateb rhyddid gwybodaeth i mi yr wythnos diwethaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar hyn o bryd yn gwario dros £1 miliwn y mis ar nyrsys asiantaeth yn unig. Yn wir, ar un adeg, roedd yn gwario £3 miliwn y mis ar feddygon locwm a staff asiantaeth. Nawr, mae'r nyrsys hyn yn llenwi bylchau, ond mae cyflogi staff asiantaeth yn costio mwy wrth gwrs, ac nid ydynt yn gallu cyflawni rhai o'r dyletswyddau y mae nyrsys staff yn eu gwneud fel mater o drefn.

Felly, faint fydd yr argymhelliad hwn yn ei arbed? Wel, yn ôl y bwrdd iechyd ei hun, maent yn disgwyl arbed £25,000 y mis oddi ar eu bil nyrsys asiantaeth. Mae hynny oddeutu 2 y cant—2 y cant o'r bil misol. Rwy'n siŵr y bydd y bwrdd iechyd yn dadlau bod yn rhaid i chi gyfri'r ceiniogau pan fyddwch yn wynebu'r fath fynydd o ddyled, ac ni fuaswn yn anghytuno â hynny, ond ofnaf eu bod wedi colli golwg ar sut y mae hyn wedi cael ei dderbyn ar lefel y ward. Nid yw'r bwlch rhwng y bwrdd a'r ward erioed wedi bod yn fwy, o farnu wrth yr ymateb.  

Mae nyrsys pryderus wedi cysylltu â ni oherwydd bydd yr argymhelliad yn effeithio'n wael ar y bwrdd iechyd. Bydd colli ewyllys da ymhlith miloedd o nyrsys sydd eisoes yn gweithio o dan bwysau aruthrol yn gwneud pethau'n waeth, nid yn well. Nid dyma'r ffordd i drin staff medrus, profiadol ac arbenigol. Rwyf am i'r bwrdd iechyd ailystyried yr argymhelliad. Mae'n achosi pryder ymhlith staff nad oes angen straen pellach arnynt yn eu bywyd gwaith. Mae morâl y staff eisoes yn isel ac efallai mai dyma fydd ei diwedd hi. Efallai y bydd y bwrdd iechyd yn arbed £25,000 y mis, ond ni allwch roi pris ar ewyllys da dros 4,000 o nyrsys.

Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog iechyd, y mae ei adran, wrth gwrs, yn goruchwylio Betsi Cadwaladr yn uniongyrchol, yn deall hyn. Gobeithio—. Wel, rwy'n deall bod ei gyd-Aelod, yr AS dros Crewe a Nantwich, Laura Smith, wedi gwrthwynebu newidiadau tebyg a orfodwyd ar nyrsys yn ysbyty Leighton yn ei hetholaeth yn hallt iawn. Felly, os nad yw'n gwrando ar Blaid Cymru, tybed a fyddai'n gwrando ar ei dadl hi.

A yw'n gwrando ar yr undebau, fel Unite, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, sydd ill dau'n gwrthwynebu'r newidiadau hyn yn y modd cryfaf posibl? Buaswn yn ei annog i gamu i mewn a sicrhau y rhoddir y gorau i'r polisi hwn cyn iddo achosi problemau gwirioneddol gyda'r gweithlu, ac yn y pen draw, wrth gwrs, gyda'r GIG ar draws gogledd Cymru.

A wnaiff wrando ar y dros 6,000 o bobl, gyda llawer ohonynt yn nyrsys a'u teuluoedd, sydd wedi llofnodi deisebau i roi'r gorau i'r newid hwn? Mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn rheng flaen y gwaith o ddarparu gwasanaeth gwych ledled y gogledd. Mae nyrsys yn gweithio'n aruthrol o galed ac nid oes angen mwy o bwysau arnynt gan y rheolwyr, sy'n gallu gadael eu swyddfeydd am 5 p.m, wrth gwrs, doed a ddêl Felly, a yw'r uwch-reolwyr yn meddwl o ddifrif y bydd y newid yn helpu i gadw a recriwtio staff?

Fe orffennaf fy nghyfraniad agoriadol gyda dyfyniad gan nyrs staff a lofnododd ein deiseb ac a adawodd y neges hon ar yr hysbysfwrdd:

Dyma'r hoelen olaf yn yr arch i nyrsys sy'n gweithio i Betsi Cadwaladr. Rydym eisoes yn gweithio ar ward sy'n brin o staff, felly rydym yn lwcus os ydym yn cael egwyl. Bydd hyn yn golygu bod llawer o nyrsys yn symud o'r proffesiwn nyrsio a byddaf yn un ohonynt. Rwyf wrth fy modd yn bod yn nyrs, ond nid wyf yn mynd i beryglu fy iechyd wrth i'r ymddiriedolaeth roi mwy o bwysau arnaf. Mae Betsi Cadwaladr yn dangos eu gwir liwiau yn fy marn i. Maent yn poeni mwy am arian na lles y claf na'r staff. Pe baent yn rhoi arian tuag at staff rheng flaen drwy sicrhau bod wardiau'n cael eu staffio'n ddiogel a pheidio â thalu cwmnïau i gynnig syniadau dwl, efallai y gallent arbed arian yn y pen draw.

Ei geiriau hi oedd y rheini. Nawr, rwy'n annog y Cynulliad i gefnogi cynnig Plaid Cymru ac i gefnogi ein nyrsys y prynhawn yma.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:33, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gwaith partneriaeth gymdeithasol.

Yn disgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori gyda’u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar newidiadau gweithredol sy’n effeithio ar staff.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd o ganlyniad i straen a phroblemau'n ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.

Gwelliant 3—Darren Millar

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn mynegi pryder na fydd y cynnig hwn o gymorth i forâl y staff ac y bydd yn gosod disgwyliadau ychwanegol ar nyrsys a gweithwyr gofal iechyd i aberthu eu cyfnodau egwyl cytundebol.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ym mhwynt 3, dileu 'drwy sicrhau' a rhoi yn ei le:

'ac i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymyrryd er mwyn sicrhau'

Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:33, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau hynny'n ffurfiol. Ond rwy'n ofni bod fy nghyd-Aelod ar yr ochr arall i'r Siambr, Llyr Huws Gruffydd, wedi dweud yn eithriadol o huawdl bopeth yr oeddwn am ei ddweud. Oherwydd mae gennym GIG sydd o dan bwysau aruthrol. Mae gennym staff sy'n gwneud mwy nag sy'n ofynnol o ran dyletswydd. Maent yn gweithio oriau hwy ac nid ydynt yn mynd ar drywydd taliadau goramser, na fyddent yn aml iawn yn eu cael beth bynnag. Maent yn aros ac nid ydynt yn cael y cyfnodau egwyl y dylent eu cael, am fod yna bob amser rywun sydd angen ychydig o help, rhywun sydd angen ei godi, rhywun sydd angen eu bwydo, a moddion i'w roi, trosglwyddiad i'w wneud. Nid ydynt yn gofyn am yr arian ychwanegol; maent yn mynd ati i wneud y gwaith. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud yn glir iawn pe bai pob un nyrs yn y GIG yng Nghymru yn gweithio'r amser y mae i fod i'w weithio, byddai gennym brinder affwysol o nyrsys ledled Cymru—tua 3,500 i 4,000 o bersonél.

Felly, pan fyddwch o dan bwysau aruthrol o'r fath—fel y dywedoch chi, Llyr—mae cael pobl yn potsian o gwmpas yr ymylon ac yn gwneud y mathau hynny o newidiadau yn gwneud i chi deimlo nad oes neb yn eich gwerthfawrogi. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n mynd yn groes i'r graen yw bod yr adolygiad seneddol yn wirioneddol glir ynglŷn â phwysigrwydd staff a chleifion yn y dyfodol yn y weledigaeth ar gyfer iechyd a'n bod yn mynd i fod yn GIG sy'n canolbwyntio llawer mwy ar bobl.  

Oherwydd fe ofynnaf hyn i chi, Aelodau—mae'r GIG, os nad yw'n ddim arall, yn fusnes pobl. Mae'n ymwneud yn llwyr â phobl—y bobl sy'n gleifion, y bobl sy'n gweithio ynddo, sy'n gwneud pobl yn iach, sy'n eu hanfon yn ôl allan i'r byd. Mae'n ymwneud â rhyngweithio rhwng pobl, mae'n ymwneud â chyfathrebu, mae'n ymwneud â medr, mae'n ymwneud ag un person yn helpu person arall neu'n rhan o fywyd person arall am ennyd fer iawn, ac mae'n rhaid i chi deimlo'n dda amdanoch eich hun er mwyn gwneud hynny. Ac rwyf am wneud cymhariaeth gyflym, ac rwy'n cyffesu hyn: ar y dyddiau pan nad wyf yn teimlo'n wych, pan fyddaf wedi blino, pan fyddaf wedi ymlâdd, pan fyddaf wedi cael llond bol, pan fyddaf yn darllen 450 o bapurau pwyllgor mewn cyfnod byr iawn o amser, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy ngŵr, rwy'n eithaf diamynedd gyda fy mhlant, rwy'n eithaf, wyddoch chi, oherwydd fy mod yn teimlo o dan bwysau, rwy'n teimlo straen. Dyma sut y mae bodau dynol yn adweithio. Felly, beth ydym yn ei wneud i'r holl staff hyn yn y GIG sy'n gweithio'n ddyfal drosom? Rydym yn eu rhoi o dan fwy byth o bwysau, ond yn disgwyl iddynt fod yn hapus ac yn llawen, i wneud eu gwaith mor dda ag y gallant ei gwneud a chydag angerdd yn eu calon.

Nawr, mae'n ymwneud ag arbed costau, ac mae angen i Betsi Cadwaladr docio peth ar ei gwariant, ond mae llefydd gwell i docio arnynt. A buaswn yn awgrymu bod PricewaterhouseCoopers, sydd wedi'u helpu i wneud yr ymarfer bach hwn, yn dda iawn yn ôl pob tebyg am edrych ar y ffigurau ac yn dda iawn am edrych ar y llyfrau, ond rwy'n eu herio i gerdded drwy'r wardiau hynny ynghanol nos a mynd i weld a gwneud beth y mae'r staff hyn yn ei wneud.  

Rydym yn cefnogi eich cynnig yn llwyr. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau, ond ymdrech i geisio'i dacluso a'i wneud yn gryfach oedd hynny, oherwydd un peth yr ydym yn galw amdano, Weinidog, yw i chi yn bersonol ymyrryd yn hyn yn uniongyrchol, i edrych yn hir ac yn fanwl, oherwydd rydych eisoes wedi dweud mewn dadleuon blaenorol heddiw eich bod yn ymateb ac yn gwneud i bethau fod yn gyfarwyddol am nad yw byrddau iechyd yn perfformio. Nid yw Betsi Cadwaladr yn perfformio, ac mae'r peth diweddaraf hwn yn mynd i gynhyrfu cymaint o bobl ac achosi i forâl—.   Mae fy amser wedi dod i ben, ond rwyf am wneud un pwynt terfynol Mae absenoldeb salwch staff yn sgil problemau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, ac yn 2018-19—a ffigurau bach yw'r rhain, ac ni allwn gredu'r peth pan ddarllenais hwy—y dyddiau amser llawn a gollwyd, dros 72,000. Pe baech chi'n cael y dyddiau hynny yn ôl i Betsi Cadwaladr, yn ôl i'r GIG, byddai gennych GIG hollol wahanol. Dim ond gyda staff hapus ac iach sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwobrwyo ac sy'n teimlo bod pobl yn ymroddedig iddynt y gallwch wneud hyn.  

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 5:37, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn cymeradwyo'r hyn y mae Llyr ac Angela newydd ei ddweud. Yn aml yn y Siambr hon cyfeiriwn at 'ein gwasanaeth iechyd', 'ein staff gwasanaeth iechyd gweithgar' a chredaf fod hon yn ffordd o ddweud ein bod yn rhoi gwerth enfawr ar y gwasanaethau a gawn a'r bobl sy'n eu rhoi i ni.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn darparu gwasanaethau hanfodol—mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt yn helaeth iawn ar adegau a phan fyddant yn fregus, yn sâl ac yn ofidus. Mae pawb ohonom yn gwybod bod nyrsio neu ofalu'n alwedigaeth nad yw pawb am ei gwneud ac nid yw pawb yn gallu nyrsio rhywun yn iach, cysuro'r rhai sydd wedi cael profedigaeth neu ymdopi ag argyfwng meddygol. Pan fyddwch yn rhoi eich calon a'ch enaid yn eich swydd, pan fydd yn alwedigaeth, gwyddom y byddwch yn rhoi mwy, yn gwneud mwy, yn ddi-wobr a heb gael eich cydnabod.

Ond mae hynny'n iawn efallai pan fyddwch yn teimlo bod eich cleifion a'ch cyflogwr yn eich gwerthfawrogi. Mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan fesurau arbennig. Golyga hyn nad yw lefel ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei brofi gan bobl ar draws gogledd Cymru gystal â'r hyn y maent yn ei gael mewn rhannau eraill o'r wlad. Er ei fod yn cael ei oruchwylio'n uniongyrchol gennych chi, Weinidog iechyd, mewn meysydd penodol, nid oes dyddiad gorffen yn y golwg ar gyfer rhoi'r gorau i'r mesurau hyn ac a gaf fi awgrymu bod y sefyllfa druenus hon yn fy arwain i feddwl bod angen mynd i'r afael â diffygion strwythurol yn y system gyfan?

Nawr, mae'n ymddangos i mi mai cryfder unrhyw sefydliad yw ei bobl, ac o ystyried faint o negeseuon e-bost a gefais ar fater y bwrdd iechyd hwn, mae bellach yn y broses o erydu ewyllys da ei staff drwy geisio newid telerau ac amodau a gwneud i staff weithio un sifft ychwanegol y mis am ddim i bob pwrpas. Nid yw hyn yn iawn. Gwelaf eu bod yn sôn am safoni a rhesymoli patrymau sifftiau—wel, yn burion, ond nid ar draul staff sydd eisoes o dan bwysau, o dan ormod o straen ac sy'n gweithio y tu hwnt i'w gallu eu hunain.  

Daw un neu ddau o gwestiynau i'r meddwl, a buaswn yn ddiolchgar i gael eich barn ar hyn. Os yw'r bwrdd iechyd wedi bodoli ers 2009, pam mai yn 2019 y sylweddolodd fod angen i resymoli ddigwydd? Ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor sinigaidd y mae ymgyngoriadau'n gallu bod. A wnaiff y Gweinidog iechyd wneud popeth yn ei allu, os gwêl yn dda, i sicrhau bod yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried o ddifrif?

Yn olaf, mae rhywun nad yw'r newidiadau arfaethedig hyn yn effeithio arnynt am eu bod wedi newid eu swydd wedi ysgrifennu ataf, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae angen inni edrych ar ôl ein nyrsys a'n cynorthwywyr gofal iechyd, a dangos iddynt pa mor werthfawr ydynt mewn gwirionedd, ac atal y newidiadau hyn rhag cael eu rhoi ar waith'. Ni allwn fod wedi rhoi hynny'n well fy hun. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:40, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Fe ddechreuaf drwy egluro bod rotâu staff yn fater gweithredol ac yn gyfrifoldeb i sefydliadau unigol. Dylent sicrhau bod pob un o'u rotâu yn ystyried cydymffurfiaeth â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016, wedi'u llunio i ddiwallu anghenion staff a'r gwasanaeth, ac yn gosod angen y claf yn ganolog yn y gwaith o reoli'r gweithlu.

Rwy'n disgwyl i holl gyflogwyr y GIG gydweithio'n agos â'r undebau llafur ar ochr y staff ar y newidiadau arfaethedig, i ystyried yr holl sylwadau a phryderon ac ymateb yn briodol iddynt. Mae'r argymhelliad cyfredol sy'n destun ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ceisio safoni patrymau sifftiau, cyfnodau trosglwyddo a chyfnodau egwyl ar draws pob is-adran, ac nid yw'r ymgynghoriad cyfan wedi dod i ben eto; maent yn dal i ymgysylltu ac ymgynghori ar yr argymhelliad.

Mewn ymateb i gais gan bartneriaid undebau llafur, rwy'n deall bod y cyfnod ymgynghori wedi'i ymestyn er mwyn sicrhau digon o amser i'r holl staff y gallai'r argymhelliad effeithio arnynt ystyried yr wybodaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Deallaf hefyd fod cynrychiolwyr undebau llafur wedi mynegi pryderon am yr effaith bosibl, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, y posibilrwydd o gynnydd yng nghostau gofal plant, a chostau teithio, golchi dillad a bwyd. Rwy'n disgwyl i reolwyr y bwrdd iechyd ystyried unrhyw effaith ar gydraddoldeb a'r holl adborth cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Felly, nid yw'r cynnig yn adlewyrchu'r realiti nad yw prosesau ymgynghori lleol wedi'u cwblhau eto—maent yn mynd rhagddynt ac ni wnaed penderfyniad hyd yma.

Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at ddiogelu cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr rheng flaen yn y GIG. Mae'r argymhellion ar gyfer y rotâu yn ymwneud â chynllunio sifftiau ac ni fyddent yn effeithio ar gyflog, telerau ac amodau cytundebol a nodwyd o dan yr 'Agenda ar gyfer Newid' y cytunwyd arni ar y cyd.

Wrth wrthwynebu'r cynnig, rwyf hefyd wedi cynnig gwelliannau i ategu'r gwerth a roddwn ar weithlu'r GIG a threfniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a'n bod yn parhau i ddisgwyl i holl gyrff y GIG weithio, ymgysylltu ac ymgynghori â'u staff, eu hundebau llafur a chyrff cynrychiadol eraill ar unrhyw newid gweithredol sy'n effeithio ar staff.

Mae'r bartneriaeth gymdeithasol ac ymwneud undebau llafur yn drefniadau arferol yma yng Nghymru. Mae'n ddealladwy fod cymheiriaid undebau llafur yn Lloegr, lle mae'r dull o weithredu yn sylfaenol wahanol, yn eiddigeddus o'n trefniadau yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod ansawdd y data wrth gofnodi absenoldebau yn gwella, a bydd hyn yn helpu i nodi a mynd i'r afael â themâu a meysydd penodol i ganolbwyntio arnynt.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ledled Cymru, yn dilyn y cytundeb 'Agenda ar gyfer Newid', i leihau absenoldeb oherwydd salwch ym mhob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Mae sefydliadau'r GIG yn ymwneud ag ystod o fentrau i gefnogi iechyd a lles corfforol ac emosiynol eu staff. Fel pob un o fy nghyd-Aelodau, rwyf hefyd yn pryderu am straen a materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl sy'n effeithio ar ein staff iechyd a gofal. Rhaid i gyflogwyr ystyried iechyd a lles eu gweithwyr yn llawn. Mewn gwirionedd—mae'r drafodaeth ar sut i leihau absenoldeb oherwydd salwch wedi cael ei datblygu ar y cyd gan yr undebau llafur a chan gyflogwyr, ac fe'i cefnogwyd gan adnoddau ychwanegol gan y Llywodraeth. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gynigiwyd gan Darren Millar. Fel y dywedais yn gynt, mae'r argymhellion hyn, yn gwbl briodol, yn amodol ar ymgysylltu ac ymgynghori â staff, undebau llafur a chyrff cynrychiadol.

Rwyf am ei gwneud yn glir fy mod yn cadw budd gorau ein staff a'r cyhoedd a wasanaethwn mewn cof ym mhob penderfyniad a wnaf. Gwn fod hynny'n rhywbeth y byddai Aelodau eraill yn ei ddweud—eu bod hwythau'n cadw hynny mewn cof wrth wneud cyfraniadau yn y Siambr hon. Ond rwy'n disgwyl i gyflogwyr y GIG fabwysiadu ymagwedd debyg wrth wrando ar ein staff a'u cynrychiolwyr etholedig ar ochr yr undebau llafur a gweithio gyda hwy.  

Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu bod cyflogwyr ac undebau llafur yn cytuno ar bob argymhelliad a wneir. Er hynny, yng Nghymru, mae gennym hanes o ddod o hyd i ffordd o ddod i gytundeb ar y ffordd ymlaen. Rwy'n disgwyl i'r dull adeiladol ac aeddfed o weithredu yr ydym wedi'i feithrin, ei annog a'i ymgorffori drwy bartneriaeth gymdeithasol ganfod ffordd ymlaen yn yr achos hwn, ac wrth gwrs, byddaf yn parhau i fod â diddordeb yn y cynnydd ar hynny yn y mater hwn ar ôl i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ddod i law. Yna bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd ystyried unrhyw argymhelliad a fydd yn dal i fod ganddynt ar y pwynt hwnnw, neu ei adolygu, ei drafod, a chytuno arno, gobeithio, yn y bartneriaeth yr ydym wedi'i meithrin, ac rwy'n falch o ddweud, wedi'i sicrhau yma yng Nghymru.  

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:45, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r amser yn brin. Allaf fi longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, yn benodol felly Llyr Gruffydd a hefyd Angela Burns, sydd wedi olrhain beth sydd o'n blaenau ni a'r her? Ac, wrth gwrs, galwedigaeth ydy nyrsio, ac mae hynny'n golygu bod pobl yn mynd y filltir ychwanegol yna dros eu cleifion. Weithiau, mae nyrsys, fel meddygon, yn gallu cael eu gweld gan weinyddwyr fel rhyw fath o soft touch, achos wnawn ni aros ymlaen beth bynnag mae'n gymryd achos mae'n claf ni fanna yn sâl. Mae eisiau dangos parch i'r agwedd yna bod nyrsio yn alwedigaeth, a dangos y parch angenrheidiol a chefnogi'r cynnig yma. Diolch yn fawr. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:46, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:46, 18 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn awr wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ar yr agenda, felly oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n mynd i symud ymlaen at y bleidlais.