Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 25 Medi 2019.
Rwy'n falch iawn o ddweud nad oes yn rhaid i chi edrych yn rhy bell yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd i ddod o hyd i enghreifftiau o ysgolion sy'n ceisio arddel yr union egwyddorion hyn—ysgolion sy'n gwneud gwaith ardderchog yn meithrin ein plant a'n pobl ifanc, ac yn rhoi cynnig ar ffyrdd arloesol o roi lles myfyrwyr yn y canol ym mhopeth a wnânt. Mae Ysgol Gynradd Millbrook yn y Betws yn ysgol sydd wedi croesawu'r agwedd ysgol gyfan, ac mae'n ei wneud yn dda. I roi rhywfaint o gefndir, cymuned o 8,000 o bobl yw Betws. Mae'n ardal sydd â lefelau uchel o amddifadedd, gyda chwe ardal gynnyrch ehangach haen is ar yr ystâd.
Mae'r tîm arweinyddiaeth yn ysgol Millbrook wedi bod yn ymchwilio i ddulliau o wella cyfleoedd bywyd a chyrhaeddiad plant ers flynyddoedd lawer. Maent wedi edrych am arferion da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Eu harwyddair yw 'Dysgu am ofalu, gofalu am ddysgu', a'u cenhadaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. I fod yn fwyaf effeithiol, eu nod yw ymgysylltu â phlant a'u teuluoedd o oedran cynnar iawn. Athroniaeth Millbrook yw bod plant hapus yn dysgu. Maent yn teimlo'n angerddol fod angen pentref cyfan i fagu plentyn, ac yn credu, drwy annog teuluoedd, a'r gymuned, y gellir rhoi'r cyfle gorau un i bobl ifanc gyflawni. Ethos yr ysgol yw edrych tuag allan. Maent yn annog plant a theuluoedd i rannu diwylliannau, ac i ehangu gorwelion. Mae gan yr ysgol ystafell ddosbarth Confucius ar y safle, ac maent yn dysgu Mandarin.
Gan weithio'n agos gyda Chyngor Dinas Casnewydd, a phartneriaid allweddol eraill, maent wedi datblygu dull aml-asiantaeth o weithredu, gan dreialu menter Rhoi Plant yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, dull sy'n seiliedig ar le i leihau anghydraddoldebau a lliniaru effeithiau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Yn gynharach eleni, cefais y fraint o ymweld â'r ysgol, gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a gwelsom yn uniongyrchol y ffordd yr oedd hyn yn gweithio, ac ni allai beidio â gwneud argraff fawr arnoch. Ers ei sefydlu, maent wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant. Y ffactor mwyaf dylanwadol yn hyn yw'r ffordd y mae asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd. Mae pob perthynas a ffurfir yn seiliedig ar y gwahaniaeth y gallai ei wneud i'r gymuned, ac i fywyd yr unigolyn ifanc. Mae wedi golygu nad yw'r partneriaethau hyn yn weithredoedd ar hap o gymorth mwyach, ond wedi'u hystyried a'u cynllunio'n ofalus.
Dywed pennaeth ysbrydoledig Millbrook, Lindsey Watkins, mai'r gobaith, pan ddaw rhywun i'r ysgol, yw eu gwneud i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, ac mae hynny'n treiddio drwy'r adeilad, fel bod yr holl asiantaethau yn cael eu gweld fel un tîm di-dor. Un o'r asedau yn Millbrook yw ystafell deuluol bwrpasol. Mae'n galluogi'r ysgol i ddarparu caffi lles a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar i deuluoedd. Mae'r ystafell hefyd yn caniatáu i deuluoedd ddod i gysylltiad ag asiantaethau eraill yn anffurfiol, sy'n helpu i feithrin perthynas ac ymddiriedaeth rhwng asiantaethau a theuluoedd. Er enghraifft, mae rhai teuluoedd wedi hunangyfeirio at y tîm atal. Yn ogystal, mae'r ysgol yn cynnig amrywiaeth o raglenni dysgu teuluol a gweithgareddau i'r teulu sy'n cefnogi lles.
Mae Millbrook yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn darparu pecyn pwrpasol o gymorth lles i blant a theuluoedd ar draws yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth llythrennedd emosiynol ac amrywiaeth o raglenni anogaeth a lles. Defnyddir y rhain i ddarparu ymyrraeth gynnar, yn enwedig pan fydd plentyn wedi wynebu trawma yn eu bywyd. Rhoddodd un unigolyn ifanc a oedd wedi profi trawma ddisgrifiad o'u profiad—ac rwy'n dyfynnu: 'Er bod y rhan fwyaf ohonom yn wynebu bwmp yn y ffordd ar ryw adeg, cefais fwmp yn y ffordd pan wahanodd fy rhieni ac roedd fy mam yn sâl iawn. Roeddwn i mor drist, roeddwn i'n arfer dod i'r ysgol bob dydd a chrio. Ond roedd hi'n iawn, oherwydd gallwn siarad â Miss. Bob bore, pan fyddwn i'n dod i mewn yn drist, byddai'n paratoi diod i mi, byddem yn eistedd a chael sgwrs, ac roeddwn i'n teimlo'n well. Rwy'n iawn nawr, ond rwy'n gwybod, pe bawn i ei hangen, byddai hi yno i mi.'
Mae gwaith partneriaeth Millbrook hefyd wedi gweld perthynas yn ffurfio gydag ysgol arloesol arall Rhoi Plant yn Gyntaf yng Ngorllewin Casnewydd, Ysgol Gynradd Pilgwenlli. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddwy ysgol, mewn dwy gymuned, gydag un dull. Mae'r ddwy ysgol dan sylw wedi ymchwilio i ffyrdd o adeiladu gwytnwch yn y ddwy gymuned, ac mae'r plant wedi bod yn ganolog i'r gwaith hwnnw. Gan weithio gyda sefydliadau fel Barnardo's Cymru ac Achub y Plant Cymru, mae grwpiau o ddisgyblion o Millbrook a Philgwenlli wedi gweithio gyda'i gilydd i ddysgu sut i gynnal eu cynlluniau ymgynghori cymunedol eu hunain. Mae plant yn cael eu grymuso ac maent yn dysgu am hawliau'r plentyn, democratiaeth a dinasyddiaeth, gan weithio gyda'r gymuned i sicrhau newid cadarnhaol.
Mae Ysgol Gynradd Pilgwenlli hefyd wedi datblygu i fod yn ysgol gynradd sy'n arwain y sector mewn darpariaeth anogaeth, ac roeddwn yn falch o ymuno â'r Gweinidog Addysg ar ymweliad ag Ysgol Gynradd Pilgwenlli i weld hyn ar waith yn ymarferol. Mae anogaeth yn cefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig ac fe'i hargymhellir yn benodol gan Estyn fel dull o gefnogi plant sy'n derbyn gofal. Mae'r elusen nurtureuk yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2019, ac rwy'n falch o weld eu bod yn cefnogi 40 o ysgolion yng Nghymru gyda'u rhaglen anogaeth. Agorodd Pilgwenlli ei hystafell anogaeth gyntaf yn 2004. Mae'n cynnig man lle y gall plant ddysgu mewn lleoliad anogaeth a gall eu rhieni ymuno â hwy am ran o'r wythnos. Mae gan bob disgybl ddosbarth sylfaenol, ond maent yn mynychu'r ystafell anogaeth deuluol am dros hanner eu hwythnos. Maent yn dysgu ochr yn ochr â'u rhieni am 10 y cant i 20 y cant o'u hamser, a blaenoriaeth ddatganedig Pilgwenlli yw
'galluogi ein plant i ffurfio ymlyniadau gyda phobl eraill, gwneud y dewisiadau cywir a deall pam maent yn gwneud y dewisiadau hyn—bod yn gryf a myfyriol.'
Ysgol arall sydd newydd ddechrau gwneud hyn yw Ysgol Gynradd Llys Malpas. Maent wedi bod ar y rhaglen anogaeth genedlaethol i ysgolion ers blwyddyn ac agorodd yr ysgol ystafell anogaeth newydd ym mis Medi ar gyfer disgyblion sydd angen y cymorth mwyaf. O fewn tair wythnos, dywedodd yr ysgol eu bod eisoes wedi gweld yr effaith y mae'r ystafell anogaeth wedi'i chael ar gefnogi plant a gwneud iddynt deimlo'n ddiogel. Mae profiad Pilgwenlli a Llys Malpas o fanteision y dull hwn yn debyg i brofiad Millbrook. Dywedant fod hyn yn gweithio'n fwyaf effeithiol pan fo'r ysgol gyfan wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o ymgysylltiad cymdeithasol ac addysgol pawb, a phan fo grwpiau anogaeth yn cyfrannu'n gadarnhaol ac yn gweithredu diwylliant ac arferion ysgol gyfan, gan hyrwyddo amgylchedd mwy anogol drwy'r ysgol gyfan.
Mae gwaith yr ysgolion hyn yn fy etholaeth wedi gwneud cryn argraff arnaf ac wedi fy nghalonogi a buaswn yn annog holl Aelodau'r Cynulliad, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, i fynd i weld ysgol sydd wedi mabwysiadu dull ysgol gyfan yn eu hardal. Ni all ysgolion arwain dull ysgol gyfan ar eu pen eu hunain. Daw'r adroddiad 'Cadernid Meddwl' i'r casgliad
'mae’n hanfodol datblygu dull ysgol gyfan, ymgorffori lles yn ethos yr ysgol gyfan, y cwricwlwm, a hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y staff. Mae angen newid sylweddol i wireddu’r uchelgais hon.'
Mae gennym gyfle gwych a rhaid inni arwain ar hyn. Yn dilyn adroddiad y pwyllgor, gwn fod grŵp gorchwyl a gorffen gweinidogol ar y cyd wedi'i sefydlu i gyflymu'r gwaith hwn. Diolch i'r Gweinidog am ei gwaith ar hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd cynnydd yn cael ei wneud yn gyflym. Mae ysgolion cynradd Millbrook, Llys Malpas a Philgwenlli yn enghreifftiau gwych. Edrychaf ymlaen at adeg pan fydd holl blant Cymru yn gallu elwa o'r dull ysgol gyfan.