1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba mor effeithiol yw addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion? OAQ54370
Ers adroddiad 'Un iaith i bawb' yn 2013, cyhoeddodd Estyn adroddiad ar y Gymraeg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 yn 2018, a bydd dau adolygiad pellach yn cael eu cynnal yn ystod 2019-20, a fydd yn edrych ar gaffael iaith mewn ysgolion cynradd, ac addysgu a dysgu Cymraeg Safon Uwch.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ar ddiwrnod cyhoeddi'r canlyniadau TGAU dros yr haf, dywedodd arweinwyr ysgolion eu bod yn pryderu'n fawr am y cwymp yng nghanran y plant 16 oed a oedd yn pasio Cymraeg ail iaith gyda graddau A* i C, ac roedd eu cymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda hwy i ddarganfod beth sydd wedi achosi'r gostyngiad o 10 y cant yn y graddau. Ond nid Cymraeg yn unig oedd yn peri pryder iddynt. Roedd y gostyngiad o 4.3 y cant yn y canlyniadau Saesneg hefyd yn eu hysgogi i alw am fwy o waith gan Lywodraeth Cymru. Mae'n ymddangos bod cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru yn rhoi'r bai ar y newidiadau a wnaethoch, pan ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu,
Gallwn sicrhau'r cyhoedd na fu unrhyw lacio o gwbl yn ymrwymiad ysgolion i gynhyrchu'r canlyniadau gorau posibl i'w disgyblion, ac mae'n bwysig deall bod y canlyniadau hyn yn dod ar adeg o newid enfawr yn y system addysg yng Nghymru.
A dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru hefyd fod angen gwneud mwy o waith. Y ddwy iaith bwysicaf yn y wlad yw'r Gymraeg a'r Saesneg, ac mae'n ymddangos eich bod yn gwneud cam â'n disgyblion yn y ddwy. A allwch chi ddweud wrthym sut y bwriadwch atal y system addysg rhag darparu canlyniadau gwaeth yn y pynciau hyn o flwyddyn i flwyddyn?
O ran canlyniadau TGAU Cymraeg ail iaith, rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi gweld y cwrs byr TGAU yn cael ei ddileu, ac mae hynny'n sicr wedi cael effaith ar gyrhaeddiad eleni. Ond mae'r canrannau a ddyfynnodd yn gamarweiniol, oherwydd cynnydd o draean yn nifer y dysgwyr a gofrestrwyd ar gyfer arholiad cwrs llawn. Byddai llawer o ddysgwyr wedi dilyn y cwrs byr yn y gorffennol, ac mae'r dadleuon ynghylch yr angen am newid yn y cyswllt hwnnw wedi'u trafod ar sawl achlysur yma yn y Siambr. Yr hyn sy'n galonogol iawn, Lywydd, wrth edrych ar y niferoedd crai sy'n pasio pob gradd, yw ein bod wedi gweld y graddau A*-A yn cynyddu 9.7 y cant a'r graddau A*-C yn cynyddu 12.5 y cant, sy'n awgrymu bod y cynnydd yn y nifer sy'n ymgeisio yn arwain at fwy o ddysgwyr yn cael gradd dda mewn TGAU Cymraeg ail iaith—cymhwyster gwell a mwy heriol.
O ran Saesneg, rwy'n falch o weld canlyniadau gwell mewn TGAU Saesneg iaith, yn enwedig A*-C, ond, yn amlwg, mae lle i wella bob amser, a byddwn yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol, ysgolion a Cymwysterau Cymru i drafod pa gamau eraill y gallwn eu cymryd i wella canlyniadau mewn TGAU Saesneg iaith.
Weinidog, wrth edrych ar Ystadegau Cymru, mae'n rhaid cyfaddef fy mod yn synnu braidd o weld, yn ogystal â'r rhai sy'n gymwys i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf, fod 40 y cant o'n gweithlu addysgu yn gymwysedig i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, mae'n anos gwybod a ydynt yn defnyddio'r sgiliau hynny ai peidio. Mae nifer y newydd-ddyfodiaid sy'n dewis hyfforddi yn y Gymraeg wedi bod yn gostwng, ac mae nifer y bobl sy'n credu na ddylai dysgu Cymraeg fod yn orfodol yn dal i fod yn siomedig o uchel. Felly, pa gamau ymarferol sy'n cael eu cymryd yn awr, gyda'r gweithlu presennol, i sicrhau addysgu effeithiol ar gontinwwm iaith Gymraeg newydd, i gynhyrchu pobl ifanc sy'n meddu ar sgiliau Cymraeg uwch, y byddant yn eu defnyddio'n hyderus ar ôl iddynt adael yr ysgol?
Wel, mae'n bwysig cydnabod ein bod wedi cynyddu buddsoddiad i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r gweithlu Cymraeg mewn addysg i'r swm uchaf erioed o £5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn 2017, gwariwyd £4.2 miliwn gennym, yna £4.8 miliwn, ac fel y dywedais, mae hwnnw wedi codi i £5 miliwn eleni. Mae hyn yn ein galluogi i ddatblygu sgiliau iaith ac addysgu Cymraeg addysgwyr yn barhaus. Er enghraifft, un ffordd ymarferol y gwnawn hynny yw drwy ein cynllun sabothol, sy'n darparu hyfforddiant Cymraeg dwys i addysgwyr ledled Cymru. Ac mae cyllid ar gael hefyd ac yn cael ei ddarparu i gonsortia rhanbarthol er mwyn cynnig ystod o gyfleoedd i ddatblygu'r Gymraeg a sgiliau addysgu Cymraeg yn ein gweithlu. I'r rhai sy'n dymuno ymuno â'r proffesiwn, i addysgu'r Gymraeg ei hun, neu i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym yn cynnig y lefel uchaf o gymhelliant ariannol iddynt wneud hynny.