1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 25 Medi 2019.
2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cael mynediad i gyrsiau galwedigaethol? OAQ54368
Diolch, Nick. Rwy'n rhoi gwerth mawr ar sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed. Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynnig cwricwla lleol gynnig lleiafswm o dri chwrs galwedigaethol i bob dysgwr yng nghyfnod allweddol 4.
Diolch i chi, Weinidog. Rydych wedi dweud yn gwbl glir mai'r bwriad wrth symud oddi wrth y mesur pum A* i C Saesneg a Mathemateg oedd annog ysgolion i ganolbwyntio ar wireddu potensial pob plentyn, nid y rheini ar y ffin C/D/C yn unig. Mae eich mesur newydd—capio 9—yn rhoi gwerth ar gyrsiau galwedigaethol, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac fel y dywed, mae cynifer o bobl ifanc yn gallu sicrhau gyrfa lwyddiannus a buddiol drwy'r llwybr galwedigaethol. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o ffordd i fynd o hyd, fel y byddech yn cydnabod rwy'n siŵr, cyn y gellir sicrhau statws cydradd wedi'i gydnabod gan brifysgolion rhwng cymwysterau academaidd a galwedigaethol. Felly, beth a wnewch i sicrhau bod mwy o gyrsiau o'r fath ar gael mewn ysgolion a cholegau, ac i sicrhau bod pobl iau yn cael eu cyfeirio'n fwy effeithiol byth, ar oedran iau, fel ein bod yn gweld colli—roeddwn am ddweud 'rhagfarn'; mae'n debyg fod hwnnw'n air rhy gryf—colli'r gwahaniaeth dros amser rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd fel bod y ddau lwybr yn cael eu hystyried yr un mor dderbyniol?
Lywydd, rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi cydnabod, yn y mesurau atebolrwydd interim, fod cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif tuag at sgôr capio 9. Felly, ni cheir unrhyw anghymhelliad i ysgolion allu cynnig y cyrsiau hyn i ddisgyblion, os mai dyna yw'r peth iawn i'r plant hynny. Rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i'r Aelod fod pob un o'r pedair ysgol uwchradd yn sir Fynwy yn bodloni gofyniad y Mesur dysgu a sgiliau, a bod y dewis hwnnw ar gael i ddysgwyr yn ei ardal. Er enghraifft, yn Ysgol Gyfun y Brenin Harri VIII, yn y Fenni—y cefais y fraint o ymweld â hi ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU, a dathlu'r set orau erioed o ganlyniadau TGAU yn yr ysgol honno gyda hwy—mae dysgwyr yn yr ysgol benodol honno'n cael cynnig wyth cwrs galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4. Ond mae'r Aelod yn iawn—mae angen i ni wneud mwy weithiau i oresgyn canfyddiadau o werth cyrsiau galwedigaethol. A dyna pam ein bod ar hyn o bryd yn treialu dull newydd o roi gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc, fel y gallwn sicrhau bod pob plentyn yn gwneud y dewisiadau cywir ar sail dealltwriaeth a gwybodaeth go iawn y gall cymwysterau galwedigaethol eu helpu i gyflawni eu dyheadau gyrfaol a chyflawni eu potensial.
Weinidog, yn eich ateb i gwestiwn Nick Ramsay, rwy'n awyddus iawn ac yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod mewn gwirionedd fod addysg alwedigaethol yn gyfwerth â llwybrau academaidd. Ac mae'n drueni nad oes digon o bobl ifanc—neu eu rhieni yn enwedig, weithiau—yn deall yr un peth. Oherwydd er mwyn sicrhau bod gennym y statws cydradd hwnnw, er mwyn sicrhau bod y sgiliau rydym eu hangen yng Nghymru ar gael i bobl—ac i bobl ifanc yn benodol—mae angen i ni hefyd addysgu rhai o'r genhedlaeth hŷn, a'r rhieni, i sicrhau eu bod hwythau'n deall hynny hefyd. Oherwydd mae llawer o bobl, dros yr 20 mlynedd diwethaf, wedi llyncu'r neges, 'Addysg uwch, dyna'r ffordd ymlaen.' Ond mae yna gymysgedd ar gael mewn gwirionedd, ac mae'r ddau gymhwyster yr un mor haeddiannol â'i gilydd—galwedigaethol ac academaidd. Ac ni ddylid eu hystyried fel llwybrau ar wahân, ond fel llwybr sengl gyda chanlyniadau gwahanol ar y diwedd, efallai, ond canlyniadau cyfartal yn y pen draw. Felly, a wnewch chi hefyd ehangu'r trafodaethau rydych yn eu cael gyda phobl ifanc i gynnwys eu rhieni, i sicrhau bod rhieni'n deall pwysigrwydd y ddau lwybr, ansawdd y ddau llwybr, a'r canlyniadau y gall plant eu cyflawni yn eu gyrfaoedd hirdymor mewn gwirionedd?
Yn sicr. Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn am y ffactorau sy'n dylanwadu ar blant wrth ddewis pa gyrsiau i'w hastudio yn yr ysgol neu mewn colegau. Yn aml, mae plant yn gwrando ar eu cyfoedion—mae ganddynt ddiddordeb mawr mewn deall beth y mae eu cyfoedion yn ei wneud—ond yn amlwg mae rhieni a theulu yn ddylanwad enfawr wrth helpu plant i wneud penderfyniadau. Fel rhan o gynllun peilot Gatsby, sy'n cael ei ddarparu yn ardal awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, ac sy'n ceisio profi a gwella'r system wybodaeth a chyngor, mae'r ysgolion hynny yn gweithio nid yn unig gyda disgyblion ond gyda chyflogwyr lleol a chyda rhieni i allu sicrhau bod plant yn dod i gysylltiad â'r ystod eang o ddewisiadau sydd ar gael iddynt a chydnabod nad yw dilyn cwrs galwedigaethol yn 14 oed yn rhwystr i lefelau astudio uwch. Yn wir, mae dilyn cwrs galwedigaethol rhwng 16 a 18 oed yn ffordd gwbl arferol i chi fynd ymlaen wedyn i astudio cwrs gradd neu brentisiaeth lefel uwch, os mai dyna y dymunwch ei wneud.