Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 25 Medi 2019.
Weinidog, rwy'n croesawu'r dull y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â'r agenda gofal iechyd darbodus. Un o egwyddorion yr agenda honno yw, 'Peidiwch â gwneud dim heblaw'r hyn y gallwch ei wneud a gadewch i eraill wneud y pethau na allwch eu gwneud.' Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y gellid diwygio'r GIG fyddai galluogi fferyllwyr ledled Cymru i wneud mwy o'r hyn sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn meddygfeydd meddygon teulu. Heddiw yw Diwrnod Fferyllwyr y Byd. Beth sydd gennych i'w ddweud wrth y fferyllwyr ledled Cymru sy'n chwilio am gontract newydd er mwyn iddynt allu mynd i'r afael yn benodol â hyn unwaith ac am byth?