Triniaethau Rhagnodadwy

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:27, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Fel y nodais o'r blaen wrth drafod gofal sylfaenol yn fwy cyffredinol yma, mae'r broses o ddiwygio contractau ym maes gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth, yn rhan bwysig o'n gallu i gyflawni ein hamcanion cyffredin. Mewn gwirionedd, mae contractwyr fferyllol sy'n fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru yn cymryd rhan mewn sgwrs reolaidd ac adeiladol gyda'r Llywodraeth. Rwy'n disgwyl y bydd cam nesaf y contract fferylliaeth yn y dyfodol yn caniatáu inni fuddsoddi mwy yn nyfodol fferylliaeth ac mewn ystod ehangach o wasanaethau, ac mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt, pwy a ŵyr, yn ffurfio rhan o'r cwestiynau y bydd Aelodau eraill yn eu gofyn yn ddiweddarach ar y papur trefn.