Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 25 Medi 2019.
Carchar yw pen eithaf ein system gyfiawnder, ac mae'n rhan bwysig ac annatod o'r system cyfiawnder troseddol ym mhob gwlad. Amddifadu rhywun o'i ryddid am gyfnod yw un o'r pwerau mwyaf arwyddocaol sydd ar gael i'r wladwriaeth. Mae carchar yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal rheolaeth y gyfraith, drwy helpu i sicrhau bod troseddwyr honedig yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, a thrwy ddarparu cosb am gamymddwyn difrifol. Mae iddo dri diben craidd: amddiffyn y cyhoedd; cosbi, gan amddifadu troseddwyr o ryddid a fwynheir gan weddill cymdeithas a gweithredu fel ataliad; ac adsefydlu, gan roi cyfle i droseddwyr ystyried eu troseddau a chymryd cyfrifoldeb amdanynt, a'u paratoi ar gyfer bywyd sy'n parchu'r gyfraith ar ôl eu rhyddhau.
Fel y clywsom yng ngharchar y Parc, ychydig o garcharorion a fyddai naill ai'n defnyddio'r hawl i bleidleisio neu'n ei gweld fel ysgogiad i adsefydlu. Mae'r pwyllgor yn cyfaddef yn yr adroddiad fod y dystiolaeth empirig sy'n cefnogi'r ddamcaniaeth fod pleidleisio'n help i adsefydlu yn 'gyfyngedig'. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi, pan roddodd carchar Caerdydd gamau ar waith i annog carcharorion ar remánd i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf, ni fanteisiodd yr un ohonynt ar y cyfle. Yn hytrach, dylem ganolbwyntio ar roi cyfleoedd i droseddwyr adeiladu bywydau cadarnhaol. Daw hawliau law yn llaw â chyfrifoldebau, a dim ond un o ffeithiau bywyd sy'n deillio o fod yn y carchar yw peidio â phleidleisio, gan adlewyrchu penderfyniad gan y gymuned nad yw'r unigolyn dan sylw yn addas i gymryd rhan ym mhroses cymuned o wneud penderfyniadau.
Yn dilyn y dyfarniad y cyfeiriwyd ato yn Llys Ewrop, mae tua 17 y cant o garcharorion eisoes yn gymwys i bleidleisio. Gall carcharorion yn y gymuned, ar drwydded dros dro, bleidleisio erbyn hyn, ac mae hawl eisoes gan garcharorion heb eu collfarnu sy'n cael eu cadw ar remánd a charcharorion sifil a garcharwyd am droseddau megis dirmyg llys i bleidleisio, er mai ychydig iawn ohonynt sy'n gwneud. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y dylid ei gwneud yn fwy eglur i bobl sy'n cael dedfryd o garchar na fydd ganddynt hawl i bleidleisio tra byddant yn y carchar.
Mae'r adroddiad hwn yn dyfynnu un o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, lle y cytunodd 50 y cant y dylid caniatáu i garcharorion gofrestru i bleidleisio, ac ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cynulliad, lle'r oedd 49 y cant yn cytuno y dylai carcharorion allu pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad os oedd disgwyl iddynt gael eu rhyddhau yn ystod y cyfnod pan oedd Aelodau'n cael eu hethol i wasanaethu. Fodd bynnag, roedd y ddau ymateb i'r ymgynghoriad yn rhai hunanddetholus, yn hytrach na samplau cynrychiadol wedi'u pwysoli. Mewn cyferbyniad, mewn arolwg YouGov yn 2017, dim ond 9 y cant o bobl yng Nghymru a ddywedodd y dylid caniatáu i bob carcharor bleidleisio.
Nid cael terfynau sy'n cyfrannu at droseddu, ond diffyg terfynau. Mae'n peri pryder fod rhai aelodau o'r pwyllgor yn credu yn yr egwyddor o bleidleisiau i bob carcharor. Ond er gwaethaf hynny, fel y clywsom, dim ond argymell bod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn deddfu i roi hawl i garcharorion o Gymry sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig a wnaeth y pwyllgor. Am y rhesymau a amlinellwyd eisoes, ni allai Mohammad Asghar a minnau gytuno â'r argymhelliad hwnnw.
Wrth ymateb i'r adroddiad, nododd Llywodraeth Cymru y bydd yn gweithio i gyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i alluogi carcharorion o Gymru sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol datganoledig. Wrth ymateb ar ran Comisiwn y Cynulliad, dywedodd y Llywydd nad yw'n credu y dylid cyflwyno gwelliannau i'r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn. Mewn llythyr at Gadeirydd y pwyllgor yr wythnos diwethaf, ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i'r egwyddor o hawl pleidleisio i garcharorion ym mhob etholiad lleol, a bydd yn chwilio am gyfrwng deddfwriaethol priodol ar y cyfle cyntaf i alluogi carcharorion o Gymru i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ar yr un telerau â'r rhai a fydd yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
Er mwyn bod yn glir, yn ôl y Law Pages, bydd rhoi'r bleidlais i garcharorion sy'n bwrw dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd yn cynnwys y rhai a gafwyd yn euog o fod â llafn neu arf miniog mewn man cyhoeddus, ymosodiad cyffredin gwaethygedig ar sail hil, difrod troseddol gwaethygedig ar sail hil, caffael dynes drwy fygythiadau, ymgais i gyflawni llosgach gan ddyn gyda merch dros 13 oed, cipio merch ddi-briod, achosi puteinio gan fenywod, llithio gan ddynion, trin cleifion yn wael, ymosod gyda'r bwriad o wrthsefyll arestiad, a chaffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol, a llawer iawn mwy. Dyma'r hyn y mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei gefnogi, gan roi tystiolaeth bellach, os caf ddweud, o'r bwlch cynyddol rhwng ewyllys pobl Cymru a'u cynrychiolwyr honedig a etholwyd i'r lle hwn.