Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 25 Medi 2019.
Mae'n bleser gennyf siarad o blaid yr argymhellion a ddeilliodd o'r pwyllgor hwn, a chroesawu hefyd y modd y bu i John stiwardio'r pwyllgor hwn. Clywsom lawer iawn o dystiolaeth—y bobl a ddaeth ger ein bron, yr ymweliadau a wnaethom hefyd, lle buom yn siarad â llywodraethwyr carchardai, staff carchardai, staff rheng flaen a hefyd â phobl sydd wedi'u carcharu eu hunain. Rwyf am ddiolch i'r holl bobl a roddodd dystiolaeth, ond yn enwedig am y modd yr ymdriniodd yr Aelodau â chlywed y dystiolaeth honno hefyd. Roedd gwahaniaeth barn ar y pwyllgor hwn—gwelwyd hynny yn yr adroddiad, o ran ein prif argymhelliad—ond fe'i gwnaethom mewn ffordd gymesur, rwy'n credu. Rydym wedi cydnabod y gwahaniaethau hynny. Hoffwn ddweud wrth Mark: nid cynrychiolydd honedig ydw i. Rwy'n gynrychiolydd yn y sefydliad hwn, fel y mae pawb arall. Peidiwch â difrïo fy rôl i ac eraill drwy fy ngalw'n gynrychiolydd honedig.
Fodd bynnag, os caf droi at y sylwedd, mae'r adroddiad yn gytbwys, oherwydd mae'n edrych ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn hefyd. Mae'n egluro, fel y mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi'i ddweud, nad yw hawliau pleidleisio yn hawliau absoliwt—hawliau cyffredinol. Dyna'n union pam yr edrychai'r pwyllgor hwn arno. I ba raddau yr adlewyrchwn farn y cyhoedd? I ba raddau y dymunwn ddangos arweinyddiaeth hefyd? Ond ceir teimlad amlwg hefyd, drwy dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y pwysau sydd wedi'i roi ar Lywodraeth y DU dros lawer o flynyddoedd, y dylem edrych ar hyn a gweld faint ymhellach y gallem fynd, yn enwedig oherwydd y dadleuon y nododd Leanne a'r adroddiad, sef, er efallai nad yw'n hawl gyffredinol i bawb, yn hawl absoliwt, dylem fod yn edrych ar unigolion sydd yn y carchar nid fel—. Bydd rhai'n garcharorion gydol oes, a rhai, gan gynnwys menywod y cyfarfuom â hwy, a ddywedodd, 'Wel, mae gennyf blant y tu allan i'r carchar. Rwyf yma am gyfnod byr iawn. Mae fy mhlant yn yr ysgol. Bydd fy mhlant yn derbyn gofal tra byddaf i ffwrdd oddi yma. Nid oes gennyf unrhyw lais o gwbl yn—'. Ac eto, bydd y bobl sydd yn y carchar—bob un ohonynt—yn talu treth ar enillion, treth ar gynilion ac ati tra byddant yno. Felly, mae'n anomaledd rhyfedd.
Mae'r adroddiad yn gytbwys. Mae'n cydnabod—Mark, rydych chi'n llygad eich lle—nad yw'r cyhoedd yn cefnogi hawliau pleidleisio i garcharorion. Mae hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod teimladau'r cyhoedd yn newid, a'u bod wedi newid ar hyn hefyd. Weithiau, mae angen i ni, fel cynrychiolwyr etholedig, ddynodi cyfeiriad teithio. Nid wyf am greu embaras i'r Gweinidog, ond pan ddaeth hi ger ein bron yn y pwyllgor, dywedais, 'Weinidog, beth yw eich agwedd tuag at hyn i gyd?', oherwydd roeddwn i ychydig yn amheus. Roeddwn yn meddwl y gallai'r Llywodraeth adael hyn am y tro a'i roi o'r neilltu: 'Dyma adroddiad pwyllgor diddorol. Down yn ôl at hyn ymhen pum mlynedd neu 10 mlynedd.' A dywedais wrthi, 'A ydych chi'n gweld eich hun, o bosibl, yn bod yn Roy Jenkins Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar y mater hwn?'—nid eich bod yn mynd uwchben a thu hwnt, ac nid y dylech geisio bod yn ddi-hid yn y ffordd—. Ond edrychwch ar y dystiolaeth a phenderfynwch beth yw'r polisi cywir a blaengar sy'n cydbwyso buddiannau pobl fel y comisiynydd dioddefwyr, a ddaeth ger ein bron a siarad yn angerddol am ei phryderon ynghylch ochr y dioddefwyr, ond hefyd ar fater adsefydlu—y ffaith bod y bobl hyn yn dal i fod yn ddinasyddion, am eu bod yn talu treth, mae ganddynt blant y tu allan mewn ysgolion ac ati. Felly, rwy'n credu ei fod yn eithaf cytbwys.
Nawr, cyfaddawd oedd yr hyn a gafwyd gennym. Roedd gwahanol safbwyntiau yn y pwyllgor. Roedd rhai ohonom yn cefnogi, er symlrwydd ond hefyd o ran egwyddorion sylfaenol, ymestyn y bleidlais yn gyffredinol. Roedd llawer o'r tystion a ymddangosodd ger ein bron yn cefnogi hynny hefyd, am yr un rhesymau'n union. Ond roeddem yn cydnabod, ar y pwyllgor, am fod cymaint o wahaniaeth barn, y dylem edrych ar rywbeth a oedd yn ymarferol, a oedd yn syml, y gellid ei gyflawni ac nad oedd yn rhy gymhleth. Edrychasom ar lawer o wahanol bosibiliadau o fewn hynny, ac mae'r un a ddewiswyd gennym, sef dedfrydau pedair blynedd neu lai, yn rhoi'r symlrwydd a'r eglurder hwnnw rwy'n credu, ac mae'n rhoi'r neges glir y gallai Cymru, hyd yn oed os na fydd Llywodraeth y DU yn symud, fynd ati mewn gwirionedd i symud ymlaen a dangos arwydd clir ein bod yn credu yn egwyddorion adsefydlu—yn yr egwyddorion y bydd y bobl hyn, y bydd llawer ohonynt yn mynd drwy'r carchar, yn ôl yn byw gyda ni, ochr yn ochr â ni ac wedi'u hailintegreiddio yn y gymdeithas, ac yn magu eu plant a gweithio mewn gyrfaoedd ac yn y blaen ac yn y blaen. Rwy'n credu bod honno'n egwyddor bwysig.
Felly, rwy'n croesawu hyn ac rwy'n croesawu ymateb y Llywodraeth hefyd. Fy unig ymholiad fyddai adleisio'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd: am beth y siaradwn yma, o ran amserlenni ar gyfer bwrw ymlaen â hyn? Rwy'n credu bod cyfle yma i Lywodraeth Cymru ddangos rhywfaint o arweiniad yn hyn o beth ac efallai, pwy a ŵyr, y bydd Llywodraeth y DU yn dilyn ei hesiampl maes o law.