Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 25 Medi 2019.
Ydy, rwy'n cytuno, ac roeddwn yn meddwl mai dyna beth a ddywedais. Os nad oeddwn yn glir yn yr hyn a ddywedais, yna yn sicr mae cydymffurfio â'r confensiwn yn rhywbeth y mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i'w sicrhau—ei fod yn cydymffurfio â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, a hynny sydd wedi gyrru'r holl waith hyd yma.