6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 25 Medi 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:52, 25 Medi 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dechrau ein sgyrsiau am y cyllidebau ar ddechrau'r broses, yn hytrach na bod y ddeddfwrfa'n ymateb i gynigion y Llywodraeth. Roedd y sgyrsiau yr ydym wedi dechrau eu cael, wrth wrando ar bobl, yn Aberystwyth yn yr achos hwn, yn rhan o'r ymgais honno i sicrhau ein bod yn newid y ffordd—nid craffu ar gyllidebau'n unig a wnawn yn yr ystyr o graffu ar linellau unigol y gyllideb ac ar benderfyniadau gwariant, ond rydym yn edrych ar ffurf cyllideb ac rydym yn ceisio dylanwadu ar ffurf a blaenoriaethau cyllideb. Weithiau, fel Aelod, rwy'n credu fy mod wedi treulio llawer gormod o amser yn ceisio rhwydo Gweinidog mewn perthynas â phenderfyniad gwariant penodol, yn hytrach nag edrych ar ysgogiad polisi ac uchelgais polisi'r gwariant hwnnw ac edrych wedyn ar sut y bydd y Gweinidog yn rhoi cyfrif am gyflawni neu beidio â chyflawni eu blaenoriaethau. Felly, wrth inni symud tuag at broses cyllideb ddeddfwriaethol dros y blynyddoedd i ddod, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn cynnal mwy o'r dadleuon hyn a'n bod yn dechrau proses y gyllideb gyda dadl o'r fath, lle mae'r Aelodau yma yn penderfynu ac yn hysbysu'r Llywodraeth beth yw eu blaenoriaethau, ac yna gall y Llywodraeth, wrth gyhoeddi ei chyllideb, ymateb i'r dadleuon hyn ac i'r blaenoriaethau y mae'r Aelodau yma a'r cyhoedd wedi'u nodi mewn gwirionedd.

Nawr, wrth wneud hynny, a chawsom y sgwrs hon yn Aberystwyth, y demtasiwn, wrth gwrs, yw rhestru'r holl ystod o weithgareddau llywodraethol ac mewn gwahanol ffyrdd, diffinio'r holl wahanol weithgareddau hynny fel blaenoriaeth. Mae rhai areithiau a glywn yma ar brynhawn Mercher yn sicr yn cyflawni hynny, a gellir cyflwyno achos da, wrth gwrs, dros lawer o wariant y Llywodraeth bob amser. Felly, rwyf am ymwrthod â'r demtasiwn i roi rhestr o 1,000 o flaenoriaethau gwahanol i'n Gweinidog y prynhawn yma, a cheisio cyfyngu fy hun i dair blaenoriaeth y credaf ei bod yn bwysig inni eu hystyried dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

I mi, y flaenoriaeth allweddol yw addysg. Siaradais am hyn—ac efallai y bydd aelodau'r Llywodraeth yn cofio—fel Gweinidog y llynedd. Roeddwn yn glir iawn mai'r gwasanaeth cyhoeddus y teimlwn fod angen inni ganolbwyntio go iawn arno yn y blynyddoedd i ddod oedd addysg, ac yn enwedig ysgolion. Mae ysgolion wedi gwneud pethau gwych dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld gwelliant gwych yn y safonau a'r canlyniadau. Ond rydym hefyd wedi gweld y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon, cynorthwywyr addysgu ac eraill. Mae'r gymuned addysg gyfan yn cyflawni llwyddiannau gwych, ond rydym mewn sefyllfa yn fy marn i lle mae angen inni sicrhau bod ysgolion yn cael eu gweld fel blaenoriaeth.

Rwy'n gobeithio, yn rhan o hyn—ac fe wnaf sicrhau, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod fy muddiant yn y mater wedi'i gofnodi; mae fy mab yn derbyn addysg anghenion dysgu ychwanegol—credaf fod angen inni sicrhau, wrth weithredu'r fframwaith statudol anghenion dysgu ychwanegol, ein bod yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer addysg anghenion dysgu ychwanegol, rhywbeth nad yw'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Credaf y dylid darparu arian ychwanegol ar gyfer addysg ac addysg anghenion dysgu ychwanegol drwy grant uniongyrchol i'r gyllideb addysg, neu drwy grant datblygu disgyblion i sicrhau bod arian ychwanegol yn cyrraedd ysgolion sydd â phoblogaeth uwch yn cael prydau ysgol am ddim. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei wneud drwy grant uniongyrchol drwy'r adran addysg, oherwydd credaf ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r rheng flaen.

Yr ail flaenoriaeth fyddai trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Aelodau eisoes wedi nodi mai trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r blaenoriaethau allweddol a anwybyddir yn eithaf aml yn rhai o'r dadleuon hyn. Ychydig o wythnosau sy'n mynd heibio yn fy nghymorthfeydd cyngor ym Mlaenau Gwent lle nad yw pobl yn egluro i mi yr anawsterau y mae diffyg gwasanaethau bysiau, er enghraifft, yn eu golygu iddynt yn eu bywydau bob dydd—yr effaith a gaiff hynny ar ganol trefi, yr effeithiau a gaiff ar allu pobl i gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus, yr effaith y mae'n ei chael ar allu pobl i siopa neu gymdeithasu. Os ydym o ddifrif ynghylch cydlyniant a chyfiawnder cymdeithasol yn ein cymunedau, rhaid i fynediad at system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol fod yn ganolog i hynny. Mae'n amlwg i mi fod gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd yn chwalu mewn rhannau helaeth o'r wlad, ac mae angen inni nodi hynny.

Y drydedd flaenoriaeth, heb fod mewn trefn uniongyrchol, yw—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod ein hamser yn dod i ben, mae'n ddrwg gennyf. Ond y maes olaf yr hoffwn ei nodi yw gwariant ataliol. Rydym wedi gweld protestiadau gwych yn ystod yr wythnos diwethaf, gweithredu gwych gan bobl ifanc yn sôn am effaith newid yn yr hinsawdd. Credaf fod angen inni allu ariannu camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio'r economi a systemau gwasanaethau cyhoeddus. Trafodasom hefyd yn ystod y cwestiynau iechyd effaith camddefnyddio cyffuriau ar bobl, a phobl ifanc yn arbennig, a chredaf fod angen inni edrych ar y gwasanaethau a ddarperir yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddysgu gan wledydd eraill a thiriogaethau eraill lle y ceir gwasanaethau ataliol sydd eisoes yn darparu datblygiadau ac amddiffyniadau arwyddocaol i bobl ifanc, ac yn darparu mwy o gyfleoedd iddynt. Ond rwy'n credu mai'r newid yn yr hinsawdd, wrth gwrs, fydd mater diffiniol ein cyfnod ni. Dyma fydd yr her wleidyddol ddiffiniol sy'n ein hwynebu. Fe fydd yn un o'r meysydd hynny y bydd pobl yn edrych yn ôl arno ac yn edrych ar Lywodraethau ac yn edrych ar ddeddfwyr ac yn gofyn y cwestiwn, 'Beth a wnaethoch? Roeddech chi'n gwybod ein bod yn wynebu argyfwng. Beth a wnaethoch yn wyneb yr argyfwng hwnnw?' Ac nid wyf yn credu y gallwn gytuno ar unrhyw gyllideb yn y lle hwn nad yw'n cynnwys buddsoddiad sylweddol ym maes newid hinsawdd a mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd.