– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 1 Hydref 2019.
Eitem 8 ar yr agenda yw cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sy'n gam pwysig ar ein taith gyfansoddiadol. Gan nad yw'r ddadl yn digwydd yn union ar ôl y ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol, mae'n werth atgoffa'n hunain yn gyflym o'r hyn y mae'r Bil yn bwriadu ei gyflawni, sef ymestyn yr hawl i bleidleisio, dod â'r gyfraith ar anghymhwyso i ben, a darparu ar gyfer ariannu a goruchwylio gwaith y Comisiwn Etholiadol, yn bennaf.
Yr wythnos diwethaf, rhoddais dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid am y gwelliant, ac rwyf erbyn hyn wedi'i gyflwyno i'r Bil, a fyddai'n gwneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Cynulliad hwn, a'i ariannu ganddo. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor am ystyried y materion, ac i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am arwain y gwaith o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i amlinellu'r amcangyfrifon costau sy'n ymwneud â'm gwelliannau i'r Comisiwn Etholiadol, ac rwyf i wedi sicrhau eu bod ar gael i bob Aelod cyn y ddadl heddiw. Mae gan y Llywydd, sydd, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, a Chomisiwn y Cynulliad, farn wahanol i'r Llywodraeth ar y modd y dylid sefydlu'r berthynas ariannu rhwng y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol, ond byddwn yn dychwelyd at y mater hwnnw yn ystod Cyfnod 2. Y cwestiwn ar gyfer heddiw yw a yw'r Cynulliad, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Rydym ni wedi gallu sicrhau bod yr amcangyfrifon costau angenrheidiol ar gael er mwyn galluogi Aelodau i ystyried y cwestiwn yn fwy llawn. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynnig fel y gallwn ni fynd ati i ystyried y Bil yn fwy manwl yn ystod y cyfnodau diwygio, ac wrth wneud hynny, symud ymlaen â'r newidiadau cyfansoddiadol pwysig hyn.
Diolch. Galwaf ar y Llywydd i siarad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n croesawu’r cyfle i gyfrannu i'r ddadl ar benderfyniad ariannol y Bil Senedd ac Etholiadau, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Mesur yma.
Cafodd amcangyfrifon costau’r ddeddfwriaeth eu hamlinellu yn yr asesiad effaith rheoliadol a gyhoeddwyd gyda’r Bil pan y’i cyflwynwyd, ond yn unol â'r Rheolau Sefydlog, bydd diweddariad i'r costau yn yr asesiad diwygiedig yn cael ei osod ar ôl Cyfnod 2 i gynnwys unrhyw welliannau a wnaed i’r Bil.
Ar gais y Pwyllgor Cyllid, bydd y diweddariad hwn hefyd yn cynnwys amcangyfrif o gostau Llywodraeth Cymru ynghlwm â chodi ymwybyddiaeth o roi’r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a gyfeiriwyd atynt yn yr asesiad effaith gwreiddiol fel ffigurau anhysbys ar y pryd. Bydd y memorandwm esboniadol hefyd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw welliannau a gytunwyd o ran y Comisiwn Etholiadol ar atebolrwydd a sgrwtini.
Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei ystyriaeth ddiweddar o welliannau arfaethedig y Cwnsler Cyffredinol ar y mater, ac am adroddiad perthnasol y pwyllgor a gafodd ei gynhyrchu mewn dim ond dau ddiwrnod. Heb os, bydd hyn o gymorth i Aelodau wrth iddynt ystyried penderfyniad ariannol heddiw a’r gwelliannau a drafodir yr wythnos nesaf yn y ddadl ar Gyfnod 2 y Mesur.
O ran costau’r gwelliannau ynghlwm â’r Comisiwn Etholiadol, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid yn amlinellu goblygiadau ariannol y gwelliannau mae’n bwriadu eu gosod. Rwy’n fodlon hefyd mai dyma'r amcangyfrifon gorau o ran y costau i Gomisiwn y Cynulliad. Wrth gwrs, mae ystod eang o welliannau eraill wedi eu gosod, ac mae rhai gyda goblygiadau ariannol amlwg. Ond o ystyried yr holl oblygiadau hyn o ran cost, rwy’n parhau o’r farn bod buddiannau polisi’r Bil i bobl Cymru yn sicr yn werth am arian, ac rwy’n annog y Cynulliad y prynhawn yma i gymeradwyo’r penderfyniad yma.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma heddiw. Fe fydd y Siambr yn cofio, wrth gwrs, inni drafod egwyddorion cyffredinol y Bil yma ar 10 Gorffennaf, ac fe gytunodd y Cwnsler Cyffredinol ar gais gan y Pwyllgor Cyllid i beidio â gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r penderfyniad ariannol nes bod y pwyllgor wedi cael cyfle i drafod y gwelliannau drafft, a’u goblygiadau o ran cost, a hynny, wrth gwrs, mewn perthynas â threfniadau’r Comisiwn Etholiadol.
Ar 25 Medi, fe wnaethom ni glywed tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a gan y Llywydd, wrth gwrs, fel yr Aelod â chyfrifoldeb dros y Bil, a chawsom ni gyfle i drafod y gwelliannau drafft mewn perthynas â chyllid ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol.
Roedd y ffaith nad oedd gwybodaeth ariannol fanwl yn cyd-fynd â gwelliannau drafft y Cwnsler Cyffredinol yn destun siom i ni, yn benodol mewn perthynas ag effaith y gwelliannau ar gost. A dim ond yn gynharach y prynhawn yma, wrth gwrs, y ces i lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwelliannau. Dwi'n diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei lythyr, ond mae e yn anffodus na chafodd ei anfon efallai bach yn gynharach er mwyn gallu ei ystyried yn fwy trylwyr cyn y ddadl hon y prynhawn yma.
Nawr, wrth roi tystiolaeth, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau mai Comisiwn y Cynulliad fyddai’n ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r costau mewn perthynas â’r gwelliannau i ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i ddwyn i gyfri, sef tua £39,000 dros bum mlynedd ar gyfer gwaith craffu. Mae llythyr y Cwnsler Cyffredinol nawr, wrth gwrs, yn cadarnhau hyn ac, o ganlyniad, mae’r pwyllgor yn gyffredinol fodlon â goblygiadau ariannol y Bil.
Fe wnaethon ni glywed gan y Cwnsler Cyffredinol fod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi ynglŷn â throsglwyddo'r arian ar gyfer y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru. Mae’r pwyllgor yn pryderu y gallai Cymru golli arian ac y bydd angen defnyddio adnoddau presennol Cymru i lenwi’r bwlch hwnnw. Rŷn ni'n argymell bod y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud ymrwymiad i sicrhau bod y drefn ar gyfer pennu gwerth yr arian sydd i’w drosglwyddo i gronfa gyfunol Cymru i dalu am y costau hyn yn golygu bod digon o arian yn cael ei drosglwyddo i Gymru. Dwi'n nodi ymateb y Cwnsler Cyffredinol i’r argymhelliad hwn fod trosglwyddo’r arian yn ddibynnol, wrth gwrs, ar drafodaethau rhynglywodraethol, sydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, dwi'n falch ei fod e wedi rhoi ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd yr amcan polisi hwn yn ei thrafodaethau. Mae’n bwysig iawn nad yw Cymru’n colli’r arian yma ac, wrth gwrs, ar ei cholled o ganlyniad.
Mae gan y pwyllgor rai pryderon am yr opsiwn y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn ei ffafrio i ariannu cyllideb y Comisiwn Etholiadol drwy gyllideb Comisiwn y Cynulliad, mewn perthynas, yn enwedig, ag amseru a materion ymarferol. Yn eich ymateb, rŷch chi'n dweud, wrth gwrs, fod modd dygymod â hynny—wel, mae'r dystiolaeth rŷn ni wedi'i chael yn awgrymu na fydd hynny, o reidrwydd, yn beth hawdd i'w wneud. Rŷn ni hefyd yn pryderu y byddai’r opsiwn hwn yn golygu bod prif weithredwr Comisiwn y Cynulliad yn dod yn swyddog cyfrifyddu ar gyfer cyfran y Comisiwn Etholiadol sy’n ymwneud â Chymru. Dyw'r pwyllgor ddim yn credu bod yr opsiwn hwn yn cynnig atebolrwydd clir. Fel y dywedais i, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn dweud bod modd mynd i’r afael â’r materion hyn drwy newid gweithdrefnau a phrosesau y tu allan i’r darpariaethau deddfwriaethol, ac rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn edrych yn fanylach ar hyn yn ystod trafodion Cyfnod 2 yr wythnos nesaf.
Er y byddai’n well gan y pwyllgor weld y Cwnsler Cyffredinol yn cyflwyno cynnig ar y cyd y cytunwyd arno gyda’r Llywydd, dwi yn falch ei fod e wedi rhoi sicrwydd y bydd e'n parhau i drafod gyda’r Llywydd ynghylch a oes modd dod i gytundeb o’r fath. Yn wir, dwi'n mawr obeithio y bydd posib gwneud hynny. Diolch.
Diolch. A gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i'r Llywydd a Chadeirydd y pwyllgor am eu sylwadau, ac a gaf i sicrhau'r Cadeirydd fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i Aelodau sgrwtineiddio'r ddeddfwriaeth mewn ffordd addas? Bydd y Llywodraeth yn edrych, wrth gwrs, ar rai o oblygiadau costau'r Mesur o fewn proses cyllideb 2020-21.
O ran y sylwadau ar fanylion y gwelliannau, dyw hi ddim, yn y ddadl hon, yn addas inni ymateb i'r rheini, ond byddaf i'n edrych ymlaen at wneud hynny pan ddown ni nôl at Gyfnod 2. Felly, rwy'n gofyn heddiw i'r Cynulliad i ymgytuno ar y gwariant yn sgil y Mesur. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Felly, rwy'n gohirio’r bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.